麻豆官网首页入口

'Siom enfawr' cwtogi ar gampau Gemau'r Gymanwlad

Disgrifiad,

Fe gystadlodd Angharad a Megan Phillips yng Ngemau'r Gymanwlad Delhi yn 2010 a Glasgow yn 2014

  • Cyhoeddwyd

Mae gefeilliaid o Ddinbych sydd wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad wedi dweud ei bod yn "siom enfawr" gweld cynifer o gampau yn cael eu hepgor o'r gemau yn 2026.

Fe ddaeth cadarnhad mai Glasgow fydd cartref y Gemau yn 2026, wedi iddyn nhw gamu i'r adwy ar 么l i dalaith Victoria yn Awstralia dynnu n么l oherwydd cost cynnal y digwyddiad.

Ond bydd y Gemau tipyn yn wahanol yn 2026, gyda dim ond 10 camp yn rhan o'r digwyddiad.

Er bod campau megis nofio, athletau a ph锚l-rwyd wedi eu cynnwys, mae sawl camp heb eu cynnwys - fel hoci, triathlon a thenis bwrdd.

'Breuddwydio mynd i Gemau'r Gymanwlad'

Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Angharad Phillips nad oedd y cyhoeddiad yn "sypreis" ar 么l iddi glywed am sefyllfa ddiweddar y gemau.

Er ei bod yn cydnabod bod "penderfyniadau caled wedi ei gwneud," dywedodd bod ei "chalon yn torri dros yr athletwyr".

Fe wnaeth Angharad a'i hefaill Megan gystadlu yn y tenis bwrdd yng Ngemau'r Gymanwlad yn Delhi yn 2010 a Glasgow yn 2014, a dywedodd Angharad fod y digwyddiad yn uchelgais i gymaint o athletwyr ifanc.

"Oedden ni'n arfer breuddwydio mynd i Gemau'r Gymanwlad, dyna uchafbwynt ein gyrfa ni," meddai.

"Dwi methu dychmygu pa mor siomedig ydyn nhw".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Angharad a Megan yn siomedig o weld na fydd campau fel tenis bwrdd yn rhan o'r gemau yn 2026

Roedd ei chwaer Megan yn cytuno fod y penderfyniad yn "siom enfawr".

Dywedodd ei fod yn "siom i unrhyw gamp i ddim cael ei gynnwys, ond yn enwedig chwaraeon fel tenis bwrdd sydd ddim yn aml yn cael ei ddangos ar lwyfan ryngwladol".

Roedd o'r farn bod y penderfyniad i leihau nifer y campau am gael effaith negyddol ar ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i gymryd rhan yn y campau hynny.

Dywedodd mai "gweld Cymru yn chwarae yng Ngemau'r Gymanwlad" oedd yr hyn a ysbrydolodd hi a'i chwaer i ddechrau chwarae tenis bwrdd.

Gemau'r Gymanwlad oedd "yr uchafbwynt, dyna oedd y freuddwyd i ni", meddai.

Pa gampau sydd wedi eu cynnwys?

  • Athletau a phara-athletau

  • Nofio a phara-nofio

  • Gymnasteg

  • Seiclo trac a phara-seiclo

  • 笔锚濒-谤飞测诲

  • Codi pwysau a phara-godi pwysau

  • Bocsio

  • Jiwdo

  • Bowls a phara-bowls

  • P锚l fasged 3x3 a ph锚l fasged cadair olwyn 3x3

Cafodd y Gemau eu cynnal yn Glasgow yn 2014 hefyd, gan gostio dros 拢540m bryd hynny.

Y tro hwn bydd yn digwydd ar draws pedwar lleoliad gwahanol rhwng 23 Gorffennaf a 2 Awst 2026.

Mae disgwyl i 3,000 o athletwyr o hyd at 74 o wledydd ac ynysoedd y Gymanwlad gystadlu yn y gemau yn 2026.