Sefyllfa Amgueddfa Cymru yn troi鈥檔 'argyfwng'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd angen gwerth 拢25m o waith
  • Awdur, Sara Esyllt
  • Swydd, 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae heriau sylweddol yn wynebu Amgueddfa Cymru yn ei ffurf bresennol, yn 么l cyfarwyddwr casgliadau ac ymchwil y sefydliad ar 么l blwyddyn anodd iawn.聽

Heb fwy o fuddsoddiad yn yr adeiladau, mae鈥檔 bosib y bydd y sefydliad yn edrych yn un tra gwahanol yr adeg yma y flwyddyn nesa'.

Dywedodd Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru Dr Kath Davies y bydd yn rhaid ail edrych ar gynnwys rhai o鈥檙 casgliadau.

"Falle mai鈥檙 her fwya鈥 yw sut ni鈥檔 gofalu am y casgliad yn y ffordd briodol o fewn y cyd-destun adeilad hanesyddol sydd angen tipyn o waith arno fe," meddai.

拢90m o waith cynnal a chadw

Disgrifiad o'r llun, Mae to Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn gollwng d诺r ac yn achosi pryder am ddiogelwch y casgliadau

Mae dros bum miliwn o eitemau amrywiol yn rhan o gasgliad swyddogol Amgueddfa Cymru.

Mae hynny yn ei hun yn cynnig sawl her, ond eleni yn fwy nag erioed, yr heriau ariannol sydd wedi hawlio鈥檙 penawdau.

Mae gwerth dros 拢90m o waith cynnal a chadw i鈥檞 wneud ar draws safleoedd Amgueddfa Cymru, gyda gwerth dros 拢25m o waith i鈥檞 wneud yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Dywedodd Dr Kath Davies: 鈥淣i wedi bod yn ffodus i gael peth arian gan Lywodraeth Cymru i gywiro鈥檙 to, ond mae鈥檙 to yn un enfawr, a mae angen lot mwy o waith ar y to, a鈥檙 adeilad yn ei gyfanrwydd.

"Ond mae hwn yn dechre mynd yn argyfwng nawr a ni yn pryderu am y casgliadau, a鈥檙 posibiliad bydd yna niwed difrifol.鈥

Ychwanegodd ei bod yn "awyddus iawn bod pobl yn teimlo bod y casgliadau yn cael gofal iawn, a chasgliadau sy鈥檔 perthyn i Gymru yn cael y gofal sydd ei angen".

"Ar hyn o bryd does dim byd wedi cael ei ddifrodi.

"Ni wedi bod yn ffodus iawn a diolch i鈥檙 staff am hynny.

"Ond os mae鈥檙 sefyllfa yn parhau falle bydd hwnna ddim yn rhywbeth alla i ddeud amser hyn blwyddyn nesa鈥."

Gostyngiad mewn cyllid

Disgrifiad o'r llun, Efallai na fydd modd derbyn mwy o gasgliadau, yn 么l Dr Kath Davies

Daeth cadarnhad fis Rhagfyr y bydd cyllideb yr amgueddfa鈥檔 gostwng 10% ac "mae hwnna鈥檔 her fawr i ni fel sefydliad," ychwanegodd.

"Byddwn ni鈥檔 gweithio fel t卯m yn gynnar yn y flwyddyn newydd, ni鈥檔 barod wedi dechrau paratoi ar gyfer hynny, i weld sut, a beth allwn ni ddarparu yn y ffordd orau o fewn y toriadau yma."

Mae 'na rybudd felly y gallai Amgueddfa Cymru edrych yn wahanol yr adeg yma鈥檙 flwyddyn nesa', gyda Dr Davies yn cydnabod y bydd yna benderfyniadau anodd i鈥檞 gwneud.

鈥淏ydd rhaid i ni feddwl yn ofalus iawn am y casgliadau, falle byddwn ni ddim yn gallu derbyn mwy o gasgliadau, falle meddwl os mae rhaid i ni ail-leoli peth o鈥檙 casgliad."

Ychwanegodd: "Ar hyn o bryd oherwydd bod y storfeydd ddim yn ddigonol gallwn ni ddim gwahodd y cyhoedd i fewn yn y ffordd y bydden ni鈥檔 dymuno, felly mae gwerth y casgliad mewn ffordd yn cael ei effeithio."

Cymryd diogelwch y casgliadau 'o ddifrif'

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Llywodraeth Cymru bod Amgueddfa Cymru yn derbyn 拢4.7m tuag at y gwaith cynnal a chadw

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw鈥檔 "cymryd diogelwch y casgliadau cenedlaethol o ddifrif a bod Amgueddfa Cymru yn derbyn dros 拢4.7m tuag at gynnal a chadw yn ystod y flwyddyn ariannol hon fel bod modd mynd i鈥檙 afael 芒'r prosiectau mwyaf.

"Mae鈥檙 llywodraeth wedi cael sicrwydd bod y casgliadau yn ddiogel ar hyn o bryd."