Cwmni yn beirniadu'r llywodraeth am beidio taclo llygredd afonydd

Disgrifiad o'r llun, Dywed Wayne Pearce ei fod yn "ofnadwy o rwystredig nad oes unrhyw un yn trafod a chydweithio gyda ni"
  • Awdur, Gwyn Loader
  • Swydd, Prif Ohebydd Newyddion S4C

Mae prif weithredwr cwmni sy'n arbenigo mewn trin d诺r wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am fethu gwneud mwy i fynd i'r afael 芒 llygru afonydd.

Mae safle fwyaf cwmni Hydro Industries Ltd yn Sir Gaerfyrddin - ac mae'r cwmni newydd ddechrau ar brosiect mawr i lanhau d诺r yn Ne America.

Dywedodd Wayne Preece, prif weithredwr y cwmni, y gallai'r dechnoleg sy'n cael ei ddefnyddio yn Ecwador gael ei drosglwyddo yn hawdd i warchod afonydd Cymru.

Ond dywedodd hefyd ei fod e'n "rhwystredig ofnadwy" nad yw Llywodraeth Cymru wedi trafod na chydweithio gyda nhw na chwmn茂au eraill er mwyn datrys llygru d诺r yn y wlad yma.

Er nad oedden nhw am ymateb i sylwadau Mr Preece, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wella ansawdd d诺r afonydd Cymru.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cwmni yn honni iddyn nhw gynnig glanhau ffosffadau o afon yn Sir Fynwy am ddim - ond na chafodd y cynnig ei dderbyn

Yn Quito, Ecwador, ddydd Gwener, cafodd safle trin d诺r sydd wedi ei godi gan Hydro ei agor yn swyddogol.

Mae'r prosiect, sydd werth miliynau o bunnoedd, wedi'i gefnogi gan Faer y ddinas.

Y bwriad yw glanhau 190,000 o dunelli o dd诺r sydd wedi ei heintio gan gladdfa sbwriel ac sydd yn bygwth llygru afon El Ingo y ddinas.

Mae Mr Preece yn dweud y gallai'r dechnoleg sy'n cael ei ddefnyddio ar y safle yn Ecwador gael ei drosglwyddo yn hawdd i warchod afonydd Cymru.

Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Mae'r safle ry'n ni'n trin [yma yn Ecwador] yn un o'r gwaethaf allech chi ei ganfod unrhyw le ar draws y byd.

"Mae'r llygredd ry'n ni'n gweld yng Nghymru; boed hynny yn gysylltiedig gyda hen fwyngloddiau - zinc, plwm neu gadmiwm - yn bethau ry'n ni'n gwaredu o'r d诺r yma; neu bethau fel carthffosiaeth yn llifo i afonydd a nentydd - mae [gwaredu] rheiny yn gymharol hawdd."

Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn "annog Llywodraeth Cymru, y rheoleiddwyr, awdurdodau lleol i siarad gyda ni, achos mae'n rhwystredig bod y pethau yma ar ein stepen drws".

Diffyg trafodaethau yn 'ofnadwy o rwystredig'

"Mae'n ofnadwy o rwystredig nad oes unrhyw un yn trafod a chydweithio gyda ni, nad ydyn ni'n gwneud rhagor yng Nghymru," ychwanegodd.

"Rwy'i am ailadrodd wrth wleidyddion Cymru, pl卯s trafodwch a chydweithiwch gyda ni, achos allwn ni helpu."

Wrth gael ei holi ai cost oedd y broblem fwyaf gyda chyflwyno cynlluniau o'r fath yng Nghymru, roedd e eto yn mynegi ei rwystredigaeth.

"Mae cwmn茂au eraill tebyg i ni, yn bendant o fewn i'r Deyrnas Unedig... byddai trafod cost gyda ni yn gam cyntaf a dyw hynny heb ddigwydd."

"Mae'n rhaid rhoi arian i'r neilltu i daclo llygredd," ychwanegodd.

"Ry'n ni'n adeiladu ffermydd gwynt ar draws y Deyrnas Unedig, yn codi pob math o gynlluniau, nad oes bosibl mai'r peth cyntaf sydd angen ei wneud yw rhwystro llygredd achos mae'n effeithio ecoleg ein hafonydd... mae'n rhaid amddiffyn yr amgylchedd yn y lle cyntaf."

Mae'r cwmni yn honni iddyn nhw gynnig gweithio am ddim i lanhau ffosffadau o afon yn Sir Fynwy, ond na chafodd y cynnig ei dderbyn.

"Ry'n ni wedi cyhoeddi argyfwng hinsawdd yng Nghymru. Fel arfer [byddwn i'n disgwyl] ymateb i hynny a dydyn ni heb weld gweithredu ar frys i'r cyhoeddiad."

Galw am weithredu cadarnach a chyflymach i fynd i'r afael 芒 llygredd afonydd mae Jenny Lloyd o Gyfeillion y Ddaear Cymru hefyd.

Dywedodd: "Nid ar yr amgylchedd yn unig mae hwn [llygredd afonydd] yn effeithio. Mae'n cael effaith ar ein hiechyd a'n lles hefyd.

"Mae angen i awdurdodau gael arian ac adnoddau maen nhw angen er mwyn glanhau afonydd ac amddiffyn yr amgylchedd."

Dyw Llywodraeth Cymru na Chyfoeth Naturiol Cymru heb gynnig ymateb uniongyrchol i sylwadau Hydro na Chyfeillion y Ddaear Cymru.

Yn gynharach y mis hwn, dywedodd Huw Irranca-Davies, sy'n gyfrifol am newid hinsawdd a materion gwledig yng nghabinet Llywodraeth Cymru, bod y llywodraeth wedi ariannu cynllun i fynd i'r afael 芒 llygredd o hen fwyngloddiau ac yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i wella safon d诺r afonydd ymhellach.