Antur Ewropeaidd Caernarfon 'wedi bod yn anhygoel'

Ffynhonnell y llun, Mabon Rowlands

  • Awdur, Aled Williams
  • Swydd, Chwaraeon 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae鈥檙 antur Ewropeaidd ar ben i CPD Tref Caernarfon 鈥 am y tro o leiaf.

Ond ar 么l ymddangos mewn cystadleuaeth Ewropeaidd am y tro cyntaf, mae鈥檙 Cofis wedi cael blas ac yn awyddus i brofi mwy yn y dyfodol agos.

Daeth ymgyrch Caernarfon yng Nghyngres UEFA i ben nos Iau wrth iddyn nhw golli yn erbyn Legia Warsaw o 11-0 dros ddau gymal.

Roedd hi wedi bod yn ymgyrch cyntaf bythgofiadwy i鈥檙 Canaries ar 么l curo Crusaders ar giciau o鈥檙 smotyn yn y rownd flaenorol.

Caernarfon yn 'creu hanes'

鈥淢ae鈥檙 siwrna wedi bod yn anhygoel,鈥 meddai鈥檙 rheolwr Richard Davies.

鈥'Da ni鈥檔 mynd lawr yn hanes y clwb fel y cyntaf i gyrraedd Ewrop, ac wedyn y fraint i ennill y g锚m gyntaf adra ac yna mynd away a sgrapio dros y lein.

鈥淥nd oedd hi鈥檔 teimlo鈥檔 sbesial i wneud o y ffordd yna.

鈥淎c wedyn y profiad o fynd i d卯m fel Legia Warsaw away, mae鈥檔 rwbath tydi ddim llawer o bobl yn gallu dweud bod nhw wedi gwneud."

Ffynhonnell y llun, Mabon Rowlands

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y rheolwr Richard Davies fod yr ymgyrch wedi bod yn "anhygoel"

Ychwanegodd: 鈥淯nwaith ti鈥檔 cael blas o rwbath fel yna, gemau fel yna ti isio bod yn involved yn.

鈥淢i fyddan ni鈥檔 defnyddio hwnna fatha incentive r诺an i drio gwneud yn dda season 苍别蝉补&#虫27;.鈥

Bydd Caernarfon yn cael 鈧700,000 am gyrraedd yr ail rownd ragbrofol.

Ond mae'r ffigwr yma cyn ystyried costau teithio, a ffactorau fel cost defnyddio Stadiwm Nantporth ym Mangor ar gyfer y gemau cartref.

Ffynhonnell y llun, Mabon Rowlands

Disgrifiad o'r llun, Dyma'r tro cyntaf i'r t卯m ymddangos mewn cystadleuaeth Ewropeaidd

鈥淏ydd rhaid i ni iwsho fo yn gall,鈥 ychwanegodd Richard Davies wrth s么n am yr arian y bydd y clwb yn ei dderbyn.

鈥淢ae鈥檔 rhaid ni eistedd i lawr r诺an, cael conversations call a sut 鈥榙a ni am ddefnyddio鈥檙 pres.

鈥淥nd fel rheolwr dwi isio datblygu ar y cae.

鈥淕obeithio gallwn ni wneud hynny a gwella鈥檙 cyfleusterau yn Yr Oval, so un diwrnod, os 'da ni yn managio gwneud Ewrop, cael fo yn Yr Oval.鈥