麻豆官网首页入口

Bwyty arall yn cyhuddo cwpl o adael heb dalu

Emily LangfordFfynhonnell y llun, Emily Langford
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Emily Langford fod y digwyddiad yn hynod boenus ar 么l blynyddoedd anodd i'r diwydiant lletygarwch

  • Cyhoeddwyd

Byddai wedi bod modd atal cwpl, wnaeth adael pum bwyty heb dalu, yn gynt, yn 么l perchennog bwyty sydd wedi 鈥渢orri ei chalon鈥.

Pan ddarllenodd Emily Langford am Bernard ac Ann McDonagh yn pledio鈥檔 euog i ddwyn mwy na 拢1,000 o fwyd a diod, roedd hi wedi'i chythruddo.

Collodd ei busnes teuluol yn Y Bont-faen, Bro Morgannwg, fwy na 拢150 pan adawodd gr诺p heb dalu鈥檙 bil a hynny wythnosau cyn i鈥檙 cwpl twyllodrus dargedu Bella Ciao yn Abertawe.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi cysylltu鈥檙 lladradau a鈥檜 bod yn ymchwilio ar 么l i Ann McDonagh gael ei hadnabod ar luniau teledu cylch cyfyng y tu allan i fwyty Emily.

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru wedi cysylltu 芒 Mr a Mrs McDonagh am ymateb.

'Seboni fi a mam'

Ar nos Fawrth dawel ym mis Mawrth, roedd Emily a鈥檌 rhieni鈥檔 falch o ddarparu bwrdd i bump yn eu pizzeria teuluol The Yard.

Fe wnaeth y pump, a oedd hefyd 芒 babi, fwyta corgimychiaid ac eog i gychwyn, yna lasagnes a pizzas ac fe gawson nhw boteli o ddiodydd meddal.

"Fe wnaethon ni ofyn a oedd popeth yn iawn, dywedon nhw fod popeth yn hyfryd," meddai Emily.

Ar 么l tua awr, dywedodd Emily fod y dynion a'r plant wedi codi o'r bwrdd, wedi diolch, ac wedi mynd at yr allanfa tra bod y ddynes wedi gofyn a allai hi dalu wrth y bar.

"Roedd hi'n neis iawn i fi a mam, yn dweud ein bod ni'n edrych fel chwiorydd, yn ddel iawn ac yn y blaen."

Gofynnodd y ddynes iddynt hefyd pam ei bod mor dawel yn y lle bwyd a dywedodd Emily bod y busnes yn ei "chael hi'n anodd iawn".

Ffynhonnell y llun, Bella Ciao
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Bernard ac Ann McDonagh adael Bella Ciao yn Abertawe heb dalu bil o 拢329

Ceisiodd y ddynes dalu'r bil o 拢151 gyda'i cherdyn. Cafodd y cerdyn ei wrthod ddwywaith felly gofynnodd ble roedd y peiriant twll yn wal agosaf.

Dywedodd Emily: 鈥淔e aethon ni 芒 hi y tu allan a dangos iddi - roedd y peiriant arian yn llythrennol dau ddrws i lawr.

鈥淔e wnes i wylio hi鈥檔 mynd i鈥檙 twll yn y wal, troi fy mhen am eiliad, a phan edrychais eto roedd hi wedi mynd.鈥

Ar 么l saith mlynedd mewn busnes, dywedodd Emily mai dyma'r "tro cyntaf a'r unig dro" i'r teulu gael rhywun yn gadael heb dalu.

鈥淭ref fach yw hon ac rydyn ni鈥檔 fwy neu lai'n adnabod ein cwsmeriaid i gyd.

鈥淩ydyn ni鈥檔 ymddiried yn ein gilydd yma. Fydden i byth yn meddwl y byddai unrhyw beth fel hyn yn digwydd ond mi wnaeth e.鈥

Mae Emily a鈥檌 theulu yn falch o鈥檙 busnes, nid yn unig am y bwyd ond am y modd y mae鈥檔 dod 芒 phobl at ei gilydd.

鈥淐hi'n ei wneud e oherwydd eich bod chi'n ei garu ac yn angerddol amdano, bwyd da ac awyrgylch braf i bobl.

"Ni wedi creu cymuned yma... maen nhw wedi dod yn rhan o'n teulu bach ni."

Ffynhonnell y llun, GARETH EVERETT/HUW EVANS AGENCY
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bernard ac Ann McDonagh yn ystod eu hachos llys

Roedd cael profiad o bobl yn gadael heb dalu a gweld eraill yn cael eu targedu yn "anodd" i'r teulu.

Roedd e'n "dorcalonnus" yn enwedig ar 么l blynyddoedd "anodd" i'r diwydiant lletygarwch yn ddiweddar, y pandemig, a'r argyfwng costau byw.

"Rydym yn fusnes bach annibynnol teuluol. Mae fel tynnu bwyd oddi ar ein bwrdd," meddai.

鈥淐hi ddim yn meddwl y byddai gan unrhyw un y galon i wneud hynny, ar 么l popeth rydyn ni i gyd wedi bod drwyddo ac mae pawb yn gwybod bod y diwydiant lletygarwch yn ei chael hi'n anodd iawn.鈥

Ar 么l clywed am droseddau鈥檙 McDonaghs, ychwanegodd: 鈥淪ut oedd ganddyn nhw鈥檙 cydwybod i fynd o gwmpas a gwneud hynny dro ar 么l tro?

"Yn ffodus ddim mwyach, oherwydd maen nhw wedi cael eu dal."

Dywedodd Heddlu De Cymru: 鈥淧an gafodd y drosedd hon ei hadrodd am y tro cyntaf, doedd neb yn gwybod pwy oedd y rhai a oedd yn cael eu hamau.

鈥淒im ond ar 么l digwyddiad diweddarach a鈥檙 sylw iddo y gwnaeth swyddogion allu cysylltu鈥檙 ddau ddigwyddiad.

"Mae ymchwiliad i'r digwyddiad yn Y Bont-faen yn parhau."

Pynciau cysylltiedig