麻豆官网首页入口

Awdur yn ystyried tynnu'n 么l o feirniadu ar 么l helynt y Fedal Ddrama

Mae Elin Llwyd Morgan wedi'i dewis fel un o feirniaid y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Wrecsam 2025Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Elin Llwyd Morgan wedi'i dewis fel un o feirniaid y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Wrecsam 2025

  • Cyhoeddwyd

Mae un o feirniaid cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol flwyddyn nesaf wedi dweud ei bod yn ystyried tynnu'n 么l.

Roedd Elin Llwyd Morgan yn feirniadol o benderfyniad yr Eisteddfod i ganslo'r Fedal Ddrama yn y Brifwyl ym Mhontypridd fis diwethaf.

Wrth ysgrifennu yng fis yma, dywedodd yr awdur bod "cynsail peryglus wedi'i osod sy'n bygwth newid yr Eisteddfod yn sylfaenol".

Dywedodd yr awdur nad oedd eisiau bod yn "gaeth i reolau llym a sensoriaeth ddisynnwyr".

Mewn ymateb i gais Cymru Fyw am sylw, fe gyfeiriodd yr Eisteddfod yn 么l at a ddywedodd fod y "beirniaid yn cytuno 芒 phenderfyniad Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, a bod yr Eisteddfod wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd 芒 hwy drwy gydol y trafodaethau dros yr wythnosau diwethaf".

Beth yw'r cefndir?

Daeth y penderfyniad i ganslo'r Fedal Ddrama eleni, meddai'r Brifwyl, ar 么l y broses o feirniadu'r gystadleuaeth.

Fe gafodd hynny ei gyhoeddi o'r llwyfan, ychydig funudau cyn yr oedd disgwyl i'r seremoni wobrwyo gychwyn.

Arweiniodd hynny at gryn ddyfalu, ac roedd pwysau ar yr Eisteddfod i gynnig eglurhad, gydag Undeb yr Ysgrifenwyr yn anfon llythyr at swyddogion yn galw am dryloywder.

Mewn datganiad ar y cyd ddyddiau wedi'r Steddfod orffen, dywedodd beirniaid y gystadleuaeth mai nid "sensora" oedd bwriad yr Eisteddfod "ond gwarchod pawb a oedd ynghlwm 芒鈥檙 gystadleuaeth a鈥檙 gymuned roedd y dramodydd [buddugol] yn honni ei chynrychioli".

Bydd adolygiad o gystadlaethau cyfansoddi'r Eisteddfod yn sgil y penderfyniad.

Disgrifiad,

Y cyn-newyddiadurwr Arwyn Jones, oedd yn arwain yn y Pafiliwn, yn cyhoeddi'r newyddion o'r llwyfan ar 8 Awst

Yn ysgrifennu yn Barn, dywedodd yr awdur Elin Llwyd Morgan fod "diffyg esboniad eglur a chall" dros ganslo'r gystadleuaeth ar fyr rybudd.

"Asgwrn y gennyn, mae'n ymddangos, oedd achos o 'gyfeddiant diwylliannol' gan yr ymgeisydd buddugol, neu mewn Cymraeg cliriach, bod yr awdur wedi ysgrifennu o safbwynt rhywun sydd o hil neu dras ethnig a diwylliant gwahanol iddyn nhw eu hunain," ysgrifennodd.

"Os mai dyna'r achos, yna beth fydd pen draw hyn i gyd? Gwahardd nofelau fel Y Castell Siwgr gan Angharad Tomos sydd wedi'i hadrodd yn rhannol o safbwynt caethferch ddu, er ei bod yn llawer mwy grymus na sbowtio sloganau fel 'Check your white privilege' ar [gr诺p Facebook] Rwydwaith Menywod Cymru?

"Y diffyg tryloywder ar ran uwch swyddogion yr Eisteddfod ydi'r prif gons媒rn, a'u cyfrinachedd styfnig yn wyneb y fath alw am well esboniad."

Ychwanegodd: "Soniwyd am bwysigrwydd gwarchod unigolion, ond os felly, onid eu rhoi mewn sefyllfa fwy bregus oedd corddi'r dyfroedd drwy ddiddymu'r seremoni ar y funud olaf?

"Siawns na allai'r mater fod wedi'i ddatrys ymhell cyn hynny, gan naill ai atal y wobr neu ei dyfarnu i ymgeisydd arall."

Aeth yn ei blaen i ddweud: "Fel un o feirniaid y Fedal Ryddiaith y flwyddyn nesaf, rydw innau'n bryderus yngl欧n 芒 ph诺er Bwrdd yr Eisteddfod i wyrdroi penderfyniad beirniaid, ac yn ystyried tynnu'n 么l os bydd y 'canllawiau newydd' arfaethedig yn cyfyngu ar ein hawl i benderfynu pwy sy'n deilwng o'r wobr ai peidio.

"Er y byddai gwneud hynny'n destun tristwch i mi, yn enwedig 芒'r brifwyl yn lleol i mi, tydw i ddim eisiau bod yn gaeth i reolau llym a sensoriaeth ddisynnwyr.

"Amser a ddengys os daw'r gwir i'r fei ryw ben, ond mae yna rywbeth sinistr am y ffaith nad oes unrhyw un wedi meiddio gadael mwy na pheli o fflwff disylwedd allan o'r cwd hyd yn hyn."

Nid oedd Ms Morgan am wneud sylwadau pellach, ond dywedodd wrth Cymru Fyw nad oedd modd cael unrhyw drafodaeth bellach heb ragor o wybodaeth gan yr Eisteddfod.

Beth oedd ymateb yr Eisteddfod?

Cyhoeddodd beirniaid y wobr - Geinor Styles, Mared Swain a Richard Lynch - yn ogystal 芒 Llywydd Llys yr Eisteddfod a Chadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, ddatganiad ar y cyd ar 么l i'r Eisteddfod ddod i ben fis diwethaf.

Dywedodd y beirniaid eu bod wedi "darllen a dewis y ddrama fuddugol eleni yn hollol ddall".

鈥淲rth i鈥檙 broses fynd yn ei blaen, daeth yn amlwg i'r Eisteddfod nad oedd modd i鈥檙 gystadleuaeth barhau," ychwanegodd.

"Nid sensora oedd eu bwriad ond gwarchod pawb a oedd ynghlwm 芒鈥檙 gystadleuaeth a鈥檙 gymuned roedd y dramodydd yn honni ei chynrychioli.

"Penderfyniad Bwrdd yr Eisteddfod oedd hi i atal y gystadleuaeth ar y pwynt yma."

Dywedodd Ashok Ahir, Llywydd Llys a Chadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod Genedlaethol, hefyd bod "angen sgwrs am yr hyn sydd wedi codi eleni", yn sgil y "sylwadau a鈥檙 dyfaliadau diddiwedd".

"Rydyn ni鈥檔 fodlon iawn i arwain y drafodaeth ar y cyd gyda鈥檙 sector yn yr hydref", meddai.