Rheolwyr Carchar y Parc 'yn araf yn gweithredu'

  • Awdur, Aimee Thomas
  • Swydd, Newyddion 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae cyn-bennaeth carchar yn dweud y dylai rheolwyr yng Ngharchar y Parc fod wedi gweithredu'n gynt yn dilyn y farwolaeth gyntaf yn ymwneud 芒 chyffuriau yno.

Dywedodd Vanessa Frake, cyn-bennaeth diogelwch yng Ngharchar Wormwood Scrubs yn Llundain, y dylai rheolwyr fod wedi cynnal archwiliad mawr am gyffuriau聽yn y carchar ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae 10 carcharor wedi marw yn y carchar, sydd yn cael ei reoli gan gwmni diogelwch G4S, ers 27 Chwefror.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran cwmni G4S: "Rydyn ni eisioes yn taclo'r amryw o ffyrdd mae cyffuriau yn dod i'r carchar o'r gymuned ehangach ac rydyn ni hefyd yn parhau i gryfhau ein mesurau diogelwch er mwyn gwarchod carcharorion a staff.

"Mae hynny'n cynnwys archwilio staff, ymwelwyr a charcharorion ar hap."

Dywedodd Ms Frake, sydd 芒 27 mlynedd o brofiad yn y gwasanaeth carchardai: 鈥淢ae cael 10 marwolaeth mewn ychydig dros dri mis yn rhywbeth chi bron byth yn clywed amdano.

鈥淏yddech chi'n meddwl pe bawn i wedi colli un carcharor trwy gyffuriau, bydden ni鈥檔 gwneud rhywbeth am y peth a pheidio ag aros i hynny droi yn ddwy, tair a phedair marwolaeth.

鈥淔i鈥檔 gwybod fod yr Ombwdsmon Carchardai wedi gofyn i garcharorion daflu unrhyw gyffuriau sbeis oedd ganddyn nhw, a fi鈥檔 credu fod hynny鈥檔 dweud y cyfan.

鈥淢ae鈥檔 swnio fel nad oedd rhai gweithredoedd fel archwilio celloedd, archwilio carcharorion ac archwilio staff wedi digwydd.鈥

Disgrifiad o'r llun, Fe weithiodd Vanessa Frake yn y gwasanaeth carchardai am 27 mlynedd

Fe wnaeth cyfarwyddwr Carchar y Parc, Heather Whitehead, adael ei swydd yn syth ddydd Mawrth ar 么l bod wrth y llyw ers Awst 2023.

Will Styles sydd wedi鈥檌 benodi鈥檔 gyfarwyddwr newydd.

Mae wedi bod gyda G4S am flwyddyn yn rhedeg carchar Five Wells yn Sir Northampton.

Polis茂au cadarn yn 'hollbwysig'

Ychwanegodd Ms Frake: 鈥淢ae yna nifer o bethau y gellir eu gwneud i atal cyffuriau rhag mynd i mewn i鈥檙 carchar.

鈥淧e bawn i鈥檔 cerdded mewn fel cyfarwyddwr newydd, fe fydden i'n cael t卯m i archwilio'r safle gyda ch诺n a chael t卯m arbenigol i fewn i archwilio鈥檙 holl garchar am gyffuriau.

鈥淕wiriwch bob carcharor, bob cell, bob ardal. Yna fe fydden i'n edrych ar bolisi archwilio'r carchar a gweld a yw'n ddigon cadarn.

鈥淢ae polisi chwilio cadarn yn hollbwysig... does neb eisiau gweithio mewn carchar sydd 芒 phroblem gyffuriau."

Y 10 o farwolaethau yng Ngharchar y Parc eleni yw鈥檙 nifer uchaf o farwolaethau mewn unrhyw garchar yng Nghymru ar gofnod.

Ar hyn o bryd mae鈥檙 gyfradd o 6.4 marwolaeth i bob 1,000 carcharor bron i ddwbl y cyfartaledd ar hyd carchardai鈥檙 DU yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2024, sef 3.3.

Mae Leo Deacon, 23 oed o Abertyleri, wedi treulio amser yng Ngharchar Caerdydd a Charchar y Parc yn 2020, wedi iddo ymosod ar swyddog heddlu.

Mae Mr Deacon wedi cael triniaeth am fod yn gaeth i alcohol ac mae'n dweud iddo gael cynnig cyffuriau yng Ngharchar y Parc.

鈥淢ae鈥檙 staffio yn hollol wahanol yng Ngharchar y Parc, does dim cymaint o staff o鈥檌 gymharu 芒 charchar Caerdydd a does ganddyn nhw ddim yr un offer," meddai.

鈥淢ae gan staff yng Nghaerdydd yr offer cywir fel yr heddlu - mae ganddyn nhw chwistrell bupur, baton, a chyffion.

"Does ganddyn nhw ddim hynny yn y Parc... mae ganddyn nhw radio yn unig, a dydy鈥檙 staff heb gael eu hyfforddi yn yr un ffordd."

'Cyfnod pryderus' i deuluoedd

Ychwanegodd Mr Deacon: 鈥淧an mae rhywbeth yn digwydd, fel carcharorion yn ymladd, maen nhw'n ymateb yn gyflym yng Nghaerdydd. Ond yn y Parc roedd e bob amser yn cymryd hirach i鈥檞 gael o dan reolaeth.

鈥淢ae 'na lawer mwy o staff dibrofiad yn y Parc hefyd. Roedden nhw鈥檔 edrych yn ifanc, tua鈥檙 un oed 芒 fi,聽a dim ond 20 oeddwn i ar y pryd.鈥

Dywedodd Mr Deacon bod ei frawd hefyd yn garcharor yng Ngharchar y Parc ar hyn o bryd, a'i fod wedi bod yn y ddalfa ers mis Mawrth.

Mae鈥檔 dweud ei fod yn gyfnod pryderus i鈥檞 deulu wedi鈥檙 holl farwolaethau.

Dywedodd: 鈥淢aen nhw wedi penodi cyfarwyddwr newydd o garchar Five Wells - sy'n garchar sy鈥檔 methu - a nawr maen nhw wedi ei benodi mewn carchar arall sy鈥檔 methu sef y Parc.

鈥淏ydden i wrth fy modd pe bai鈥檙 Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cymryd drosodd a rhedeg y Parc gyda鈥檜 staff.鈥

Fe ddaeth adroddiad gafodd ei gyhoeddi fis Medi'r llynedd gan Fwrdd Monitro Annibynnol i'r casgliad fod gan garchar Five Wells ormod o "staff dibrofiad" a bod "staff yn amharod i herio carcharorion鈥.

Dywedodd yr adroddiad hefyd fod cyffuriau ar gael yng ngharchar Five Wells.

Ymateb G4S

Wrth ymateb i'r sylwadau am Garchar y Parc, dywedodd llefarydd ar ran cwmni G4S eu bod "yn parhau i gryfhau eu mesurau diogelwch er mwyn gwarchod carcharorion a staff".

Maen nhw hefyd yn dweud bod gan staff yr holl offer a hyfforddiant angenrheidiol, eu bod yn dilyn holl ganllawiau'r Gwasanaeth Carchardai a'u bod nhw wedi gwneud archwiliad llawn o'r carchar gyda'r gefnogaeth angenrheidiol ar 么l i gyffuriau gael eu darganfod ar y safle.