Neil Foden 'wedi cyffwrdd 芒 merch yn rhywiol yn ei gar'

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Neil Foden yn cyrraedd y llys fore Llun

Mae'r achos wedi dechrau yn erbyn prifathro yng Ngwynedd sydd wedi ei gyhuddo o gam-drin plant yn rhywiol.

Honnir bod Neil Foden - a oedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes - wedi manteisio ar ei sefyllfa i wneud cysylltiadau 芒 phlant.

Mae Mr Foden, 66, yn gwadu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud 芒 phum plentyn.

Mae'r honiadau'n dyddio o Ionawr 2019 hyd at Fedi 2023 ac yn cynnwys cyhuddiadau o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn.

Disgrifiad o'r llun, Mae Neil Foden yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn

Wrth agor yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad John Philpotts bod Mr Foden wedi camddefnyddio'r cyfrifoldeb a'r ymddiriedaeth ynddo trwy ymosod yn rhywiol ar bum merch.

Clywodd y llys bod un o'r dioddefwyr honedig wedi dweud wrth oedolyn ei bod wedi bod mewn perthynas gyda Mr Foden am tua chwe mis.

Clywodd y rheithgor ei fod wedi dechrau ei chofleidio, a dod yn fwy "mentrus" yn ddiweddarach gan fynd ati i'w chyffwrdd yn rhywiol - yn ei gar ar rai achlysuron.

Dywedodd Mr Philpotts wrth y llys y byddai'r ddau'n cysylltu 芒'i gilydd trwy WhatsApp a bod y ferch yn dileu negeseuon yn ddyddiol wedi iddo ddweud wrthi am wneud hynny.

Clywodd y llys hefyd y byddai Mr Foden yn dweud wrth y ferch ei fod yn ei charu ac yn anfon negeseuon o natur rywiol.

Ar un achlysur, dywedodd Mr Philpotts bod y ferch wedi ceisio atal Mr Foden rhag rhoi ei law o dan ei dillad isaf ond fe "ddaliodd ati" a "gwrthod stopio".

'Teimlo'n ofnus ac yn ddig'

Dywedodd Mr Philpotts wrth y llys bod un o'r plant wedi dweud bod Mr Foden wedi pinsio ei chlun, ei chofleidio "cryn dipyn", ac y byddai hefyd yn cyffwrdd ynddi.

Clywodd y llys fod y trydydd achwynydd wedi teimlo'n "ddiogel" gyda'r diffynnydd i ddechrau ond bod ei "ymddygiad yn teimlo'n anghywir", ac y byddai'n trafod gweithredoedd rhywiol y byddai hi'n barod i'w gwneud.

Dywedodd achwynydd arall fod Mr Foden, ar un achlysur, wedi rhoi mwythau i'w chefn, ei choesau a'i phen-么l, a bod hynny wedi ei gwneud iddi deimlo'n "ofnus ac yn ddig".

Roedd y bumed ferch ifanc, meddai'r erlyniad, yn cael ei cham-drin yn rhywiol yng nghar Neil Foden, ac weithiau mewn gwestai.

Byddai'n galw'r ferch ST, a dywedodd y ferch fod hynny'n sefyll am "Sex Toy".

"Rydyn ni'n dweud ei fod yn batrwm - y ffordd yr oedd yn ymddwyn at y merched ifanc hyn," meddai Mr Philpotts.

Cafodd Neil Foden ei arestio ar 6 Medi y llynedd a'i gludo i orsaf heddlu Caernarfon i'w holi, a dechreuodd ymchwiliad.

Clywodd y rheithgor, fel rhan o'r ymchwiliad hwnnw, fod lluniau a fideos rhywiol o un o'r achwynwyr wedi'u darganfod ar ff么n Neil Foden, ac roedd gliniadur wedi ei ddefnyddio i chwilio am ddeunydd yn ymwneud 芒 merched, ac i un ffetish yr oedd dau o'r plant wedi cyfeirio ato.

Mae'r achos yn parhau.