麻豆官网首页入口

Cwestiynu tegwch cyfyngiadau newydd ar ffermwyr

Disgrifiad,

"Pan 'da chi'n adio bob dim, mae'r swm yn cyrraedd degau o filoedd," medd Gareth Pritchard Jones

  • Cyhoeddwyd

Mae ffermwr wedi cwestiynu pa mor deg yw'r cyfyngiadau newydd ar wasgaru slyri yng Nghymru, tra bod cwmni d诺r yn parhau i ollwng gwastraff i'r afon ger ei fferm.

Yn 么l NFU Cymru, mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn fwy "strategol" wrth ddelio 芒 llygredd y diwydiant ffermio, a pheidio 芒 chyflwyno "rheolau blanced" i bob rhan o Gymru.

Dywedodd un ffermwr o F么n ei fod wedi gorfod gwario degau o filoedd o bunnoedd i gydymffurfio 芒 gofynion Llywodraeth Cymru.

Ar yr un pryd, meddai, mae un o safleoedd D诺r Cymru ger ei dir yn parhau i ollwng gwastraff am dros ddwy awr y dydd ar gyfartaledd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi ymrwymo i weithio gyda鈥檙 gymuned ffermio i wella ansawdd d诺r.

Mae D诺r Cymru yn mynnu bod ganddyn nhw hanes "amgylcheddol cadarn".

'Cosbi ffermwyr'

Mae Gareth Pritchard Jones yn ffermio ar fferm Carrog Ganol, Ynys M么n ac yn cadw 300 o wartheg godro.

Gyda newidiadau diweddar i bolis茂au llygredd Llywodraeth Cymru, mae safonau newydd wedi eu gosod ar y sector amaeth sy鈥檔 cynnwys cynyddu storfeydd silwair a slyri.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Afon Meddanen yn rhedeg heibio'r fferm

Y nod yw atal gwastraff amaeth rhag llygru afonydd cyfagos, ond mae Mr Jones yn dweud bod y rheolau'n cosbi ffermwyr ac yn golygu eu bod yn wynebu costau sylweddol.

"Pan 'da chi'n adio bob dim, mae'r swm yn cyrraedd degau o filoedd, er mae'r llywodraeth wedi rhoi ychydig o grantiau er mwyn gallu gwneud ambell beth," meddai.

Mae鈥檔 dweud bod rhai rheolau yngl欧n 芒'r amser o'r flwyddyn lle mae modd "chwalu slyri鈥 hefyd yn mynd "yn groes i鈥檙 graen".

"Dydi tywydd ddim yn mynd efo'r calendr, fel y gwelon ni eleni, gafon ni aeaf cyffredin, gwlyb ac mi sychodd hi'n mis Chwefror.

"Mi fysan ni wedi gallu chwalu slyri ym mis Chwefror," meddai.

"Ym mis Mawrth, pan fyddan ni wedi cael chwalu slyri, mi drodd hi'n wlyb eto."

Tra bod Mr Jones yn dweud ei fod yn gorfod cydymffurfio 芒 nifer o fesurau newydd i atal llygredd, mae鈥檔 dweud fod un o bympiau D诺r Cymru ger ei fferm yn gollwng gwastraff i afonydd cyfagos, ac felly yn galw am degwch.

Yn 么l ystadegau D诺r Cymru mae鈥檙 safle Gorlifo Storm, sydd ddau gae o鈥檌 fferm, yn gyfrifol am ryddhau gwastraff am dros 900 awr yn 2022, sydd ar gyfartaledd yn ddwy awr a hanner y dydd.

"'Da ni'n trio sicrhau bod ein slyri yn cael ei ddefnyddio a'i storio yn y ffordd orau bosib," meddai Mr Jones.

"Ac eto mae gennych chi waith prosesau d诺r dau gae i ffwrdd o fa'ma, yn pwmpio oriau ac oriau mewn blwyddyn o dd诺r budr a gwastraff pobl yn syth i'r afon."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gareth Pritchard Jones yn dweud bod y rheolau'n cosbi ffermwyr ac yn golygu eu bod yn wynebu costau sylweddol

'Mae ffyrdd llawer gwell'

Mae D诺r Cymru yn dweud bod gwastraff yn gallu dod o systemau鈥檙 sefydliad a rhai preifat, ac nad yw wastad "o fewn ein rheolaeth".

Galw am bolis茂au sydd wedi eu targedu yn well at sefyllfaoedd a sectorau penodol mae NFU Cymru, gan ddweud nad yw "rheolau blanced" yn gweithio.

"Mae鈥檔 anghywir i wneud un farn ar draws Cymru gyfan," meddai llywydd NFU Cymru, Aled Jones.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aled Jones: "Mae'n rhaid i ddiwydiannau eraill tu hwnt i amaeth gymryd cyfrifoldeb"

"Lle mae prawf bod amaethyddiaeth wedi achosi helyntion, mae eisiau mynd i ddelio a hynny, ond mae ffyrdd llawer gwell na dod 芒 rheolau blanced ar draws Cymru gyfan."

Mae鈥檔 galw am "reoleiddio manwl, cywir sydd wedi ei dargedu".

"Mae鈥檔 bwysig nodi hefyd bod yn rhaid i ddiwydiannau eraill tu hwnt i amaeth gymryd cyfrifoldeb."

Tra鈥檔 cydnabod mai鈥檙 sector amaeth sy鈥檔 bennaf gyfrifol am ollwng gwastraff i afonydd ledled Cymru, mae鈥檔 mynnu nad yw un polisi cenedlaethol yn addas.

'Cost sylweddol'

Mae Dr Prysor Williams yn ddarlithydd Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, ac yn cydnabod pryderon y gymuned amaeth.

"Does dim dwywaith bod 'na gost sylweddol i'r diwydiant amaethyddol," meddai.

"Mae'n rhaid cofio y dylai rhai ffermwyr edrych ar eu hunain yn y drych, a bod eu cydwybod yn cael ei brocio rywfaint.

"Achos i bob pwrpas, mae nifer cymharol fach o ffermwyr wedi golygu bod y diwydiant i gyd yn cael ei bardduo gyda'r un brwsh."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Falla bod 'na le i fod yn fwy strategol," medd Dr Prysor Williams

Er hyn mae鈥檔 cytuno y gallai polis茂au Llywodraeth Cymru gael eu teilwra鈥檔 well.

"Falla bod 'na le i fod yn fwy strategol a chanolbwyntio ar ymdrechion ar wella ansawdd d诺r lle mae 'na broblemau," meddai.

"Mae amaeth yn gyfrannwr mawr i lygredd d诺r mewn sawl ardal wahanol, ond dydi hynny ddim yn wir ym mhob man."

Ychwanegodd: "Pan 'da ni'n s么n am broblemau ffosffad mewn dyfroedd, mae'r diwydiant d诺r yn gyfrannwr i hynny hefyd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Dr Robin Parry fod "cyflwr ein hafonydd yng Nghymru yn eithaf truenus"

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth dywedodd Dr Robin Parry, sy'n gadeirydd Clwb Pysgota Seiont Gwyrfai a Llyfni, ac Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru, fod "cyflwr ein hafonydd yng Nghymru yn eithaf truenus".

"Mae 60% o'n hafonydd yn methu 芒 chyrraedd y nod safon ecolegol da a boddhaol, a'r rhan fwyaf o'r rheiny'n methu oherwydd llygredd," meddai.

"Yn benodol, mae gormod o faeth a maetholion yn mynd mewn i'r afonydd, a dwy ffynhonnell sydd i'r maeth yna - carthion wedi eu trin, neu yn anffodus heb eu trin, ac amaeth."

Ychwanegodd fod Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru yn gweithio gyda ffermwyr, yn enwedig y rheiny sy'n cadw llawer o wartheg allai fod yn crwydro at lannau afonydd a'u llygru gyda charthion.

"Beth 'dan ni'n medru neud ydi ariannu er mwyn gallu ffensio i gadw stoc draw o'r afon, ac mae hynny'n stopio nhw rhag malu a gwneud eu baw yn yr afon."

Yn 么l Llywodraeth Cymru "mae鈥檔 rhaid bwrw 'mlaen" a chydweithio gyda'r holl bartneriaid er mwyn mynd i鈥檙 afael 芒 llygredd mewn afonydd.

"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda鈥檙 gymuned ffermio i wella ansawdd d诺r ac aer, gan ddefnyddio Rheoliadau Adnoddau D诺r 2021 a thargedu鈥檔 benodol y gweithgareddau hynny y gwyddom eu bod yn achosi llygredd," meddai llefarydd.

Pynciau cysylltiedig