麻豆官网首页入口

Llywodraeth Cymru yn gobeithio am ddeddfwriaeth 'gryfach' i atal ysmygu

Dyn yn ysmyguFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Syr Keir Starmer wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer deddf atal ysmygu mewn rhai mannau tu allan

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd cynlluniau ar gyfer deddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Prydain i fynd i'r afael ag ysmygu yn cryfhau pan fydd y Senedd yn dychwelyd yn yr Hydref.

Mae Cymru eisoes wedi gwahardd ysmygu o rai mannau awyr agored ac mae Llywodraeth y DU yn ystyried cynigion all fynd gam ymhellach a gwahardd ysmygu mewn gerddi tafarndai yn Lloegr.

Mae gweinidogion y Blaid Lafur wedi dweud y byddan nhw'n edrych ar gynigion y Tor茂aid, ond dywedodd Sir Keir Starmer ei fod am fynd ymhellach na hynny gyda rheolau llymach ar ysmygu y tu allan.

Gallai Llywodraeth y DU benderfynu gwahardd ysmygu mewn gerddi tafarndai a mannau y tu allan fwytai wrth geisio atal marwolaethau sydd yn gysylltiedig ag ysmygu.

Mae gwaharddiadau ysmygu wedi cael eu datganoli i Gymru fel mater iechyd, ond gall Llywodraeth Cymru benderfynu cefnogi newidiadau Llywodraeth y DU.

Yng Nghymru, mae ysmygu wedi cael ei wahardd mewn rhai ardaloedd tu allan yn barod, gan gynnwys tir ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus.

Gall unigolion sydd yn ysmygu yn y mannau yma wynebu dirwy o 拢100, gyda Lloegr yn ystyried y rheolau yma hefyd.

Mae hefyd yn anghyfreithlon i ysmygu ar safleoedd ysgol a gofal plant.

Dywedodd Mr Starmer bod ei lywodraeth am "wneud penderfyniadau yn y maes yma" a bydd fwy o fanylion yn cael eu rhannu.

"Dwi'n credu ei fod yn bwysig cael y cydbwysedd cywir" meddai, gan ychwanegu bod y Gwasnaeth Iechyd "ar ei gliniau".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ysmygu wedi cael ei wahardd ar tir ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus yng Nghymru'n barod

Mae'r Ceidwadwyr wedi beirniadu'r cynigion, gyda rhai rheolwyr busnesau yn rhannu pryder am effaith y gwaharddiad ar y sector lletygarwch.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi gweithredu i gyfyngu ar ysmygu mewn rhai ardaloedd cyhoeddus y tu allan yng Nghymru yn barod, ac wedi cefnogi'r Ddeddf Tybaco a F锚ps gwreiddiol pan gafodd ei chyflwyno yn y Senedd yn gynharach eleni.

"Rydym yn gobeithio gweld y ddeddfwriaeth sydd wedi ei chryfhau yn cael ei hail-gyflwyno yn yr Hydref."

Pynciau cysylltiedig