Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cam ymlaen i rygbi merched yng ngogledd Cymru
- Awdur, Dafydd Evans
- Swydd, 麻豆官网首页入口 Cymru
Mae rygbi merched yng ngogledd Cymru yn cymryd cam pwysig y tymor hwn wrth i d卯m academi newydd chwarae yn y gyngres genedlaethol.
Mae coleg addysg bellach Gr诺p Llandrillo Menai wedi sefydlu academi i helpu datblygiad chwaraewyr rhwng 16 a 18 oed.
Fe chwaraeon nhw eu g锚m gyntaf yng Nghyngres Genedlaethol Ysgolion a Cholegau Cymru ar Barc Eirias ym Mae Colwyn brynhawn Mercher.
Fe enillodd y t卯m cartref o 67-21 yn erbyn Coleg Caerdydd a鈥檙 Fro.
Wrth siarad cyn y g锚m ddydd Mercher roedd y capten, Leah, yn hyderus eu bod nhw eisoes yn chwaraewyr gwell ers iddyn nhw ddechrau ymarfer fel academi cyn yr haf.
Dywedodd: 鈥淔yddwn ni鈥檔 cael lot mwy o training a鈥檙 gym, 鈥榙en ni鈥檔 mynd lot i鈥檙 gym yn coleg. So 鈥榥eith hwnna ddatblygu cryfder ni, p诺er ni a jyst gwneud ni鈥檔 well pobl i rygbi.
鈥淎 fyddwn ni鈥檔 cael mwy o amser g锚m ac efo鈥檙 coaches hefyd, fyddwn ni鈥檔 cael mwy o amser efo nhw.鈥
Cynghrair newydd Cyngres Genedlaethol Ysgolion a Cholegau Cymru ydy鈥檙 lefel uchaf i ferched y tu allan i rygbi rhanbarthol ar gyfer y gr诺p oedran 16-18.
Bydd yr academi鈥檔 darparu cyswllt rhwng y coleg a鈥檙 Ganolfan Datblygu Chwaraewyr ym Mharc Eirias, gan greu llwybr i symud ymlaen i chwarae i Rygbi Gogledd Cymru (RGC) ac o bosibl i d卯m dan 18 Cymru.
Bydd chwaraewyr yn derbyn hyfforddiant technegol, tactegol a hyfforddiant fesul safle, yn ogystal 芒 sesiynau cryfder a chyflyru yng nghampfa academi Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-rhos.
'Llawer o dalent yn y gr诺p'
Un o chwaraewyr Rygbi Gogledd Cymru, Ethan Fackrell, ydy un o鈥檙 rhai sy鈥檔 hyfforddi gyda鈥檙 academi ac mae鈥檔 dweud bod chwaraewyr addawol iawn yno.
鈥淢ae 鈥榥a llawer o dalent yn y gr诺p yma. Ni 鈥榙i gweld nhw鈥檔 chwarae i RGC 18s blwyddyn ddiwethaf a Cymru 18s.
鈥淣i鈥檔 edrych ymlaen at weld be鈥 maen nhw鈥檔 gallu gwneud yn chwarae g锚m gyntaf i鈥檙 coleg, ond mae 鈥榥a dalent mawr yma heddiw.鈥
Un oedd yn edrych ymlaen i gamu i鈥檙 cae oedd y blaenasgellwr, Mabli.
Dywedodd ei bod yn "eitha鈥 nerfus ond 鈥榙an ni鈥檔 genod cryf ac er bod ni gyd ddim yn 鈥榥abod ein gilydd, ro鈥檔 i鈥檔 gweld yn y stafelloedd newid bod ni gyd yn eithaf parod ar gyfer y g锚m.鈥
Aeth ymlaen i ddweud fod y criw wedi bod yn aros am y cyfle yma a'i fod yn "rili cyffrous.鈥
Mae鈥檙 academi yn dal i chwilio am ragor o chwaraewyr, ac yn agored i chwaraewyr 16-18 oed o ysgolion uwchradd yn y gogledd.
Byddan nhw鈥檔 chwarae yn erbyn colegau eraill Cymru yn ystod y tymor.