麻豆官网首页入口

O Ddulyn i Canberra: Dydi darlledu'r Gymraeg o dramor ddim yn newydd

Andy BellFfynhonnell y llun, Alex Burkett
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Andy Bell sy'n cynhyrchu'r podlediad newydd, Rhaglen Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae鈥檙 oes ddigidol wedi codi rhwystrau o bob math, ond hefyd datrysiadau.

Dros Zoom yn bennaf y bydd y podlediad newydd, Rhaglen Cymru, yn cael ei gynhyrchu, a hynny gan Andy Bell, o'i gartref ger prifddinas Awstralia, Canberra.

Bydd y gyfres yn trafod pob elfen o ddarlledu, ac fel mae Andy yn ei egluro, mae wedi dod i ddeall fod creu rhaglenni Cymraeg o tu hwnt i ffiniau Cymru ddim yn beth newydd...

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwrando ar y radio yn yr 1920au

Ar draws M么r Iwerddon

Yn weddol fuan wedi sefydlu鈥檙 Wladwriaeth Wyddelig Rydd (Irish Free State) yn 1926, sefydlwyd gorsaf radio 2RN yn Nulyn (a ddaeth yn ddiweddarach yn Radio 脡ireann).

Cafodd rhaglen Gymraeg ei chreu gan yr orsaf, gan fod ei chynnwys yn cyrraedd arfordir Cymru ac, yn 么l y stori, fel ffordd o godi embaras ar y 麻豆官网首页入口. Ar y pryd, prin iawn oedd rhaglenni Cymraeg ar radio鈥檙 Gorfforaeth, er fod 鈥榥a ganeuon Cymraeg ar yr awyr.

Mae dogfen a arwyddwyd rhwng llywodraethau Cymru ac Iwerddon ym mis Mawrth 2021 - Iwerddon-Cymru Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd 2021 i 2025 - yn cadarnhau fod "y darllediad radio cyntaf yn y Gymraeg wedi鈥檌 wneud o Ddulyn".

Yn 么l A History of Independent Television in Wales gan Jamie Medhurst: 鈥The station producing the most substantial amount of Welsh language programmes at the time was Radio 脡ireann located in Dublin, who understood that their broadcasts could be picked up by the Welsh speaking communities of west Wales.

Gan mai darlledu'n fyw oedd yr arfer bryd hynny, does yna ddim recordiadau wedi goroesi o'r cyfnod, yn anffodus.

Newyddion Cymraeg dyddiol o Lundain

Wrth i鈥檙 Ail Ryfel Byd gychwyn fe gafodd gorsaf radio Cymru (Welsh Regional Programme) ei chau ac fe gafodd un orsaf Brydeinig, Saesneg-ei-hiaith ei chreu: Home Service.

A hithau'n gyfnod brawychus, roedd angen cyfathrebu gyda phawb am y sefyllfa oedd ohoni: rheolau am ddiffodd goleuadau yn ystod y blackout, cyfarwyddiadau am deithio a defnyddio ceir... cyhoeddiadau swyddogol o bob math.

Fe eglurodd Swyddog Bwyd De Cymru, Thomas Jones bod rhaid gwneud rhywbeth yn Gymraeg mewn llythyr at Gyfarwyddwr Gwybodaeth a Chyhoeddiadau鈥檙 麻豆官网首页入口. 鈥We have a large number of people in my division as well as in the North Wales Division who really do not understand English鈥.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tudalen o'r Radio Times am raglenni 17 Medi 1939 - roedd Crynhodeb o鈥檙 Cyhoeddiadau Swyddogol yn Gymraeg ymlaen am 9am

Ar 17 Medi 1939, fe gychwynnodd rhaglen ddyddiol: Crynhodeb o鈥檙 Cyhoeddiadau Swyddogol yn Gymraeg. Ac o fewn dim o dro, trodd y crynodeb i fod yn fwletin newyddion dyddiol am 5pm dros Brydain benbaladr.

Penderfynwyd lleoli uned y cyhoeddiadau yn Llundain. Ansawdd bregus y llinellau sain rhwng Caerdydd a鈥檙 brifddinas oedd y rheswm swyddogol, ond roedd rhai yn amau hynny.

Fe gafodd y newyddion am bump sawl scoop dros y blynyddoedd gan mai hwn oedd bwletin cyntaf y noson.

Roedd un enghraifft syfrdanol yn 1943 pan roedd y bwletin Cymraeg y cyntaf o holl fwletinau鈥檙 麻豆官网首页入口 i gyhoeddi鈥檙 cadoediad rhwng yr Eidal a鈥檙 Cynghreiriaid.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Symudodd y Newyddion i slot 5pm ym mis Chwefror 1940, gan aros yno tan ddiwedd y Rhyfel (o Radio Times 8 Mai 1945)

O Paris... gyda chariad

Yn 1959 cynhyrchwyd rhaglen Gymraeg o Paris trwy gyd-weithrediad ag Ewrodeledu (Eurovision) a ORTF, teledu Ffrainc.

Yn 么l y Radio Times: 鈥淕wahoddir chi gan Havard Gregory i gwrdd a rhai o'r Cymry sy'n byw ym Mharis, yn y rhaglen Gymraeg gyntaf erioed i'w theledu o'r cyfandir trwy'r cyfrwng Ewrodeledu鈥.

Roedd y telediad yng ngofal Selwyn Roderick, tad Vaughan a Si芒n Roderick, gwesteion cyntaf Rhaglen Cymru.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

La Vie Parisienne yn y Radio Times - 15 Chwefror 1959

Gwylio Granada

Mae cwmni teledu masnachol Granada yn enwog am greu Coronation Street, ond fe fuodd yn gyfrifol am greu delwedd newydd o ddarlledu Cymraeg ar y teledu.

Gan ddechrau yn 1957 roedd Granada yn darlledu yn y Gymraeg i wasanaethu gogledd Cymru. Nid oedd y Gogledd yn rhan o diriogaeth swyddogol y cwmni, ond roedd yn gyfle i ychwanegu oriau (a chyfle i werthu hysbysebion) ar adeg pan oedd nifer yr oriau teledu yn gyfyngedig.

Cafodd sawl un eu cyfle cyntaf yn Granada gan gynnwys Owen Edwards, pennaeth 麻豆官网首页入口 Cymru a Chyfarwyddwr cyntaf S4C.

Daeth y teledu o Fanceinion i ben pan ddaeth Teledu Cymru/WWN ar yr awyr ar 14 Medi 1962.

Ffynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Endboard' Granada yn Gymraeg. Roedd Dewch i Mewn yn gyfres Gymraeg boblogaidd oedd yn cael ei chynhyrchu gan Granada

Dyn ni ddim yn mynd i Birmingham?

Pan aeth teledu o ddu a gwyn i liw, roedd y broses o addasu offer a stiwdios yn araf. Am gyfnod yn y 70au dim ond y newyddion 鈥 Heddiw a Wales Today 鈥 oedd yn cael eu darlledu鈥檔 lliw.

O ganlyniad bu rhaid i 麻豆官网首页入口 Cymru ddefnyddio stiwdios dros y ffin yn Pebble Mill, Birmingham.

Ymhlith y cynyrchiadau a gafodd eu symud i Loegr oedd Ryan a Ronnie, Pobol y Cwm a fersiwn Cymru o Top of the Pops, Disc a Dawn.

Doedd aelodau o鈥檙 gr诺p Y Tebot Piws - Dewi Pws yn eu plith - ddim yn hapus gyda鈥檙 fath drefniant, ac mae鈥檙 g芒n Dyn ni ddim yn mynd i Birmingham yn brawf o hynny...

Nid yw鈥檙 post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan Tebot Piws - Topic

Caniat谩u cynnwys YouTube?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan Tebot Piws - Topic