麻豆官网首页入口

Dwsinau o siarcod marw ar draeth yn Sir Ddinbych

Morgwn serennogFfynhonnell y llun, Steve Baguley
  • Cyhoeddwyd

Mae dwsinau o siarcod marw wedi cael eu canfod wedi golchi i'r lan ar draeth yn Sir Ddinbych.

Ddydd Mawrth fe ddaeth ymwelwyr o hyd i tua 30 o forgwn serennog wedi eu golchi i鈥檙 lan ar draeth Prestatyn.

Mae鈥檙 math yma o siarcod yn gyffredin yn y moroedd o gwmpas Ynysoedd Prydain.

Er nad oes ganddyn nhw ddannedd miniog, maen nhw fel arfer yn bwydo ar gramenogion a physgod cregyn.

Ffynhonnell y llun, Chantelle Rudnicki

Ond mae sut cawson nhw eu golchi i鈥檙 lan yn ddirgelwch i rai arbenigwyr.

Dywedodd yr arbenigwr morol Gem Simmons ei bod wedi ceisio cymryd samplau ohonynt, ond fod gwylanod penwaig eisoes wedi dechrau eu bwyta.

Ychwanegodd eu bod nhw'n parhau i geisio darganfod pam y cafodd y siarcod eu golchi i'r lan, gan gynnwys a oedd cysylltiad 芒 physgota anghyfreithlon yn yr ardal.

"Mae dod o hyd i un neu ddau yn rhywbeth weddol gyffredin," meddai Ms Simmons sy鈥檔 aelod o Ddeifwyr Achub Bywyd Morol Prydain.

"Ond mae dod o hyd i gynifer yn ofid."

Ei bwriad bellach yw casglu mwy o wybodaeth am y siarcod ym Mhrestatyn, ynghyd 芒 siarcod eraill sydd wedi eu golchi i鈥檙 lan ar hyd yr arfordir rhwng y Rhyl a Thalacre.

Ychwanegodd fod Cyfoeth Naturiol Cymru a Phrosiect Siarc wedi cael gwybod am y digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig