麻豆官网首页入口

40% yn llai o aelodau mewn capeli ond 'gobaith newydd'

Joseff EdwardsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Joseff Edwards yn arweinydd prosiect newydd Craig Blaenau ym Mlaenau Ffestiniog

  • Cyhoeddwyd

Mae 40% yn llai o aelodau mewn capeli na'r hyn oedd ddeg mlynedd yn 么l ond wrth i'r Eglwys Bresbyteraidd a'r Annibynwyr gyfarfod yr wythnos hon dywed eu harweinwyr bod yna nifer o straeon gobeithiol.

14,000 o aelodau yr un sydd gan y Presbyteriaid ac eglwysi Undeb yr Annibynwyr bellach ac mae'r naill enwad a鈥檙 llall yn colli tua 4% o鈥檜 haelodau bob blwyddyn.

Erbyn hyn mae mwy na 50% o鈥檙 aelodau dros 70 oed.

Ffynhonnell y llun, Craig Blaenau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 60 o blant yn mynd i Ysgol Sul newydd Blaenau Ffestiniog

Ond er y ffigyrau "rwy鈥檔 wirioneddol gyffrous", meddai Llywydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru y Parchedig Aneurin Owen.

"Mae gennym ni straeon i鈥檞 hadrodd am brosiectau beiddgar ac uchelgeisiol yng Nghymru a thu hwnt. Nid amser i grebachu鈥檔 么l yw hwn ond i ddangos ein hyder yn Nuw pob gobaith."

Bydd y ddwy gynhadledd yn trafod arloesi a buddsoddi ar gyfer y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Rhaid ymwrthod ag anobaith,鈥 meddai Jeff Williams, Llywydd Undeb yr Annibynwyr

O ran yr Annibynwyr yr hyn sy'n digwydd yw bod eglwysi yn dod at yr Undeb i ofyn am gymorth ac mae grantiau ar gael i brosiectau gwahanol drwy gynllun Arloesi a Buddsoddi.

"Rhaid ymwrthod ag anobaith,鈥 meddai Jeff Williams, Llywydd Undeb yr Annibynwyr.

鈥淎dfywio鈥檙 eglwys ydi un bwriad y gronfa Arloesi a Buddsoddi ond nid yn yr hen fodel, yn hytrach ymestyn allan i鈥檙 gymuned, gweld angen y gymuned ac ymateb, nid er mwyn cynnal y strwythurau neu鈥檙 adeiladau na chynnal y weinidogaeth draddodiadol ond yn hytrach mentro i fyw llawnder yr efengyl.

"Yn Sancl锚r, er enghraifft, mae T欧 Croeso wedi'i sefydlu yn Bethlehem Pwll Trap ac y mae Annalyn Davies fel swyddog cymunedol yn arwain t卯m o bobl sydd yn ceisio rhoi mynegiant i鈥檞 ffydd drwy wasanaethu鈥檙 gymuned a chydweithio gyda Lloches Cymorth i Fenywod ac elusen Plant Dewi a chymunedau eraill."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth capel Bethani, Rhydaman gau yn 2023

Nos Lun fe glywodd Cymanfa Gyffredinol y Presbyteriaid am rai o'u prosiectau arloesol nhw a hynny gan Joseff Edwards, arweinydd prosiect newydd Craig Blaenau ym Mlaenau Ffestiniog.

Ers ymgartrefu yn yr ardal ddwy flynedd yn 么l, mae Joseff a鈥檌 wraig Lydia gyda chefnogaeth rhai eraill, wedi ffurfio cymuned ffydd sy鈥檔 cynnwys plant, pobl ifanc a theuluoedd o鈥檙 dref.

Gan gyfarfod yng nghanolfan gymunedol Blaenau Ffestiniog mae鈥檙 teulu bach wedi dechrau'r ysgol Sul gyntaf yn y dref ers degawdau, gan ddenu dros 60 o blant a phobl ifanc.

Ffynhonnell y llun, Parc Arts

Mae prosiect arall sy'n ennill momentwm wedi'i leoli ym Mhontypridd.

Mae Parc Arts yn un o brosiectau Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac yn creu canolbwynt creadigol a pherfformio ar gyfer y cymoedd ac ar hyn o bryd maen nhw'n adnewyddu hen Eglwys Bresbyteraidd y Parc yn Nhrefforest fel lleoliad cyngerdd.

Hollti barn?

Mae arloesi, yn enwedig prosiect fel Craig, Blaenau Ffestiniog yn gallu creu tensiynau.

Ai adfywio鈥檙 eglwysi sydd yn bod eisoes neu ffurfio cymunedau eglwysig newydd ydy鈥檙 bwriad?

Mae鈥檙 Annibynwyr yn wynebu yr un cwestiwn gan fod prosiect Arloesi a Buddsoddi eglwys Ebeneser, Caerdydd yn ceisio sefydlu cymuned eglwysig Yr Angor yn Grangetown.

Y mae Craig a鈥檙 Angor yn rhan o symudiad lled anffurfiol sydd am ffurfio cant o eglwysi newydd mewn 10 mlynedd.

Mae鈥檙 syniad yn gallu hollti barn, rhai yn ei weld fel bwriad cyffrous a mentrus ac eraill yn ei weld fel rhywbeth sydd yn gwneud adfywio eglwysi traddodiadol yn anos. Ond trafod barn wahanol am dwf yr eglwys sy'n digwydd nid trafod dirywiad.

Yn 么l Aneurin Owen: 鈥淓rs Cymanfa 2023, mae naw unigolyn wedi ymateb i alwad yr Arglwydd i ddod i adeiladu ar y sylfeini newydd sydd eisoes wedi鈥檜 gosod.

"Mae chwe swydd newydd wedi鈥檜 creu - y rhan fwyaf ohonynt o dan gynllun gweithwyr arloesi.

"Byddwn yn parhau i feithrin hinsawdd o ddeialog agored a chydweithrediad agos rhyngom ni i gyd. Rydym yn cydnabod yr angen i gefnogi ac amddiffyn ein gweinidogaeth arloesol wrth iddi ddechrau tyfu a datblygu鈥.

Ffynhonnell y llun, Eglwys Bresbyteraidd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae C么r Synod Mizoram, a welir yma o flaen y Senedd, yn diddanu'r dorf yn Aberystwyth

Eleni bydd perfformiadau gan grwpiau rhyngwladol o Madagascar a Mizoram yn y Gymanfa Gyffredinol. Mae gan Gymru gysylltiadau agos 芒'r ddwy wlad wedi i genhadon o Gymru fod yno.

鈥楳ae s诺n llawenydd yn ein plith yn rhywbeth i鈥檞 gofleidio,鈥 meddai Aneurin Owen,

鈥淢ae'n heintus, ac yn gallu codi'n calonnau, ond rhaid i ni adnabod s诺n crio sy'n gymysg ag ef.

"Ein gweddi yw, hyd yn oed yn ein hiraeth am ogoniant y gorffennol, y bydd s诺n ein wylofain yn cael troi i mewn i s诺n llawenydd wrth weld yr hyn y mae'r Arglwydd yn ei wneud yn ein dydd.鈥

Mae Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn cyfarfod yn Aberystwyth 8 a 9 Gorffennaf a bydd cyfarfodydd blynyddol Undeb yr Annibynwyr yn cael eu cynnal yn Nhrefforest 11-13 Gorffennaf.

Pynciau cysylltiedig