麻豆官网首页入口

Galw am bedwaredd ysgol gyfun Gymraeg yn ne Caerdydd

Ysgolion Glantaf, Plasmawr a Bro EdernFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tair ysgol uwchradd Cymraeg sydd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd - Glantaf, Plasmawr a Bro Edern

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na alw yn ne Caerdydd am sefydlu pedwaredd ysgol gyfun Gymraeg yn y ddinas.

Fe wnaeth rhieni gwrdd yn ardal Grangetown nos Lun, gan ddadlau y dylai addysg cyfrwng Cymraeg fod yn agosach at gymunedau yn ne'r ddinas.

Mae Cyngor Caerdydd yn dweud bydd 'na ddigon o lefydd ar gael yn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg y ddinas tan o leia'r flwyddyn 2031/32.

Ysgol Glantaf oedd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf i'w sefydlu yng Nghaerdydd ym 1978, gydag Ysgol Plasmawr yn agor ei drysau yn ardal Y Tyllgoed ym 1998 ac Ysgol Bro Edern yn nwyrain y ddinas yn 2012.

Cafodd Ysgol Gynradd Hamadryad ei hagor ym mis Medi 2016 i wasanaethau ardal Tre-biwt a Grangetown, ac mae'r rhieni yn dweud y dylai addysg uwchradd Gymraeg fod ar gael yn yr ardal hefyd, yn lle bod plant yn gorfod croesi'r ddinas i'r ysgolion presennol.

"Mae 'na elfennau o safbwynt cyfiawnder cymdeithasol lle chi'n edrych ar yr ardal 'ma o Gaerdydd, does dim ysgol uwchradd i'w weld am filltiroedd," meddai un o'r rhieni, Huw Williams.

"Os ydyn ni am sicrhau twf, os y'n ni am gefnogi'r Gymraeg a hefyd gwneud yn si诺r ei fod yn hygyrch i holl gymunedau'r ddinas a Chymru yn ehangach, mae angen ysgol fel hon."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Huw Williams nad oes "ysgol uwchradd i'w weld am filltiroedd"

Ar hyn o bryd, mae disgyblion Ysgol Hamadryad yn mynd i Ysgol Glantaf yn Ystum Taf ar gyfer eu haddysg uwchradd.

Ond mae wedi dod i'r amlwg nad yw bron i draean plant dosbarth chwech Ysgol Gymraeg Hamadryad yn Nhre-biwt wedi cael lle yn Ysgol Glantaf ar gyfer mis Medi.

Mae'r rhieni hefyd yn dadlau bod 'na ystyriaethau amgylcheddol wrth ystyried sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg yn yr ardal.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhieni sydd 芒 phlant yn Ysgol Hamadryad yn dweud y bydden nhw'n falch pe bai 'na ysgol uwchradd yn yr ardal hefyd

"Un o'r rhesymau dros fynd i Ysgol Hamadryad oedd oherwydd ei bod yn ysgol werdd," meddai Moseen Suleman, "a'r ffaith fod pawb yn cael eu hannog i seiclo i'r ysgol neu gerdded.

"Ry'n ni'n trio dysgu'r plant am gerdded neu seiclo, ac yna maen nhw'n mynd i'r ysgol uwchradd ac maen nhw'n gorfod mynd ar fws neu gar."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Catrin Roberts-Condon a Moseen Suleman yn awyddus i weld ysgol uwchradd Gymraeg yn ne'r brifddinas

Mae mab Catrin Roberts-Condon yn dechrau yn Ysgol Hamdryad yn llawn amser fis Medi, a hi sy'n rhedeg y cylch meithrin ar safle'r ysgol.

Mae'n dweud y byddai cael ysgol uwchradd Gymraeg yn yr ardal yn "ffab".

"'Dan ni'n annog plant i gychwyn yn ddwy oed i gael yr iaith Gymraeg, ac mae'n bwysig pan maen nhw'n tyfu'n h欧n ac yn barod i fynd i'r ysgol uwchradd bod 'na ddewis o ysgol Gymraeg uwchradd yn yr ardal iddyn nhw."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth rhieni ynghyd i drafod y sefyllfa nos Lun

Mae'r Dr Gwennan Higham yn rhiant sy'n byw yn ardal Tre-biwt ac wedi gwneud ymchwil ar agweddau tuag at y Gymraeg mewn cymunedau amlddiwylliannol.

"Mae 'na awch a diddordeb mawr gyda'r cymunedau 'ma mewn dewis addysg Gymraeg," meddai.

"Mae 'na broblemau ymarferol fel diffyg gwybodaeth ond hefyd pethe fel mynediad, a dwi'n credu bod angen sicrhau bod pob cyfle posibl gan y cymunedau 'ma, heb greu rhwystrau amlwg iddyn nhw."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dr Gwennan Higham a Catrin Dafydd

Cyn y cyfarfod nos Lun, dywedodd un o'r trefnwyr, Catrin Dafydd, mai'r bwriad oedd gweld "faint o awch sydd 'na ymysg y rhieni" i fynd ati i ymgyrchu dros sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg yn ne Caerdydd.

"Mae'n amlwg bod pobl ar d芒n ishe gweld addysg cyfrwng Cymraeg yn yr uwchradd yn y gymuned hon, ac yn ne Caerdydd," meddai.

"Mae'n anodd iawn brwydro yn erbyn gweledigaeth gref, werdd, gymunedol sydd wir ishe dangos bod y Gymraeg i bawb."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd bod cwymp o 20% yn y gyfradd genedigaethau yn golygu bod ei bod yn "anochel bydd y nifer sy'n gofyn am addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd nesa yn lleihau".

"Gan nad yw nifer y dysgwyr sydd yn nhair ysgol uwchradd cyfrwng Caerdydd yn ddigon i gynnal pedair ysgol uwchradd, mae'r cyngor yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i hybu manteision addysg ddwyieithog i dyfu'r iaith Gymraeg a nifer y dysgwyr sy'n mynychu addysg Gymraeg."