麻豆官网首页入口

Cyfarwyddwr Carchar y Parc wedi gadael ei swydd

Carchar y ParcFfynhonnell y llun, PA Media
  • Cyhoeddwyd

Mae cyfarwyddwr Carchar y Parc ym Mhen-y-bont, Heather Whitehead, wedi gadael ei r么l ar unwaith.

Dywedodd cwmni diogelwch G4S, sy'n rheoli'r carchar preifat, nad yw'r penderfyniad "mewn ymateb i un digwyddiad unigol".

Fe ddechreuodd Ms Whitehead redeg y carchar ym mis Awst 2023.

Mae Will Styles wedi鈥檌 benodi鈥檔 gyfarwyddwr newydd y carchar o ddydd Mawrth ymlaen.

Mae Mr Styles wedi bod yn gweithio i G4S am flwyddyn yn rhedeg Carchar Five Wells yn Sir Northampton.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Will Styles sydd wedi'i benodi'n gyfarwyddwr ar y carchar

Ers 27 Chwefror mae 10 carcharor wedi marw yng Ngharchar y Parc - gyda'r diweddaraf - Warren Manners, 38 - yn marw ddydd Mercher diwethaf.

Cafodd tri o garcharorion hefyd eu cludo i'r ysbyty yn dilyn "dau ddigwyddiad ar wah芒n" ar y safle ddydd Gwener.

Dywedodd llefarydd ar ran y carchar: 鈥淢ae Will Styles wedi鈥檌 benodi鈥檔 gyfarwyddwr newydd CEM a Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc.

"Mae gan Will dros 30 mlynedd o brofiad yn y gwasanaeth carchardai ar 么l arwain nifer o garchardai mawr, cymhleth, cyhoeddus a phreifat.鈥

Pynciau cysylltiedig