Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Cynnydd yn nifer y merched sy’n anafu tennyn pen-glin

Molly Cana Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Molly Cana ddim yn gallu chwarae am flwyddyn arall wedi anaf

  • Cyhoeddwyd

Yn ystod ei thrydedd gêm i Glwb ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Pen-y-bont, fe rwygodd Molly Cana dennyn yn ei phen-glin.

Fydd hi ddim yn gallu camu i’r cae am dros flwyddyn arall.

Mae anafiadau i’r Anterior Cruciate Ligament, neu ACL, yn dod yn fwyfwy cyffredin ymysg menywod sy’n chwarae pêl-droed, yn ôl arbenigwyr.

Yn ôl y Gymdeithas Orthopedig Brydeinig, mae menywod 2-6 gwaith yn fwy tebygol o ddioddef anaf i’w ACL o gymharu gyda dynion.

'Mae bywyd ar stop ar hyn o bryd'

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Molly yr anaf wrth iddi geisio cicio pêl gyda'i throed dde

Esboniodd Molly bod yr anaf wedi digwydd wrth iddi anelu i gicio’r bêl gyda’i throed dde.

Wrth gamu ar ei throed chwith rhwygodd yr ACL tu fewn i’w phen-glin.

"Odd fy mhen-glin jest di mynd ffordd anghywir.

"Odd lot o sgrechain - poen rhyfeddol fyddai byth yn dymuno i unrhyw un i gael," meddai.

Dyma’r eildro i Molly ddioddef o’r anaf.

Y tro cyntaf fe fuodd Molly i ffwrdd o’r cae am ddwy flynedd.

A hithau ond dri mis i mewn i’w chyfnod adfer, nid yw’r boen yn lleddfu, meddai.

"Mae’n boenus drwy’r amser yn enwedig pryd fi’n mynd i gwely.

"Ma bywyd ar stop ar hyn o bryd," meddai.

Wrth i garfan menywod Cymru baratoi i wynebu Wcráin yng ngemau rhagbrofol Euro 2025, mae eu prif hyfforddwr yn cydnabod bod anafiadau ACL yn broblem ar lefel uchaf y gamp hefyd.

Dywedodd Rhian Wilkinson bod "ACLs yn gyffredin ar hyn o bryd" yn enwedig yng ngêm y menywod.

Fe fydd yr ymosodwr Elise Hughes yn colli gweddill yr ymgyrch wedi iddi rwygo’i ACL yn chwarae i Crystal Palace, ddiwedd mis Ebrill.

'Llawer gormod o ferched yn anafu ACLs'

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dyfri Owen fod sawl ffactor yn achosi'r anaf i ferched

Yn ôl Dyfri Owen, cyn-ffisiotherapydd Cymdeithas ±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cymru, mae yna sawl ffactor sy’n cyfrannu at risg uwch yr anaf i fenywod.

"Oherwydd bod pelfis merched ychydig bach mwy llydan mae’n effeithio’r ongl ar y pen-glin

"Y gwahaniaeth rhwng dynion a menywod yw’r llwyth chwarae," medd Mr Owen.

"Erbyn iddyn nhw gyrraedd eu harddegau, fel arfer ma' bechgyn wedi chwarae miloedd ar filoedd o oriau o bêl-droed neu rygbi tra bod merched wedi 'neud cannoedd.

"Ma’ nhw’n meistroli’r symudiadau yma sy’n golygu bod nhw llawer llai tebygol o anafau’r ACL."

Er bod arbenigwyr yn ymwybodol o’r ffactorau, mae’r cynnydd yn nifer yr achosion ymysg menywod yn "erchyll", ychwanegodd Dyfri Owen.

"Mae’n bryder anferth oherwydd ma' llawer gormod o ferched yn anafu ACLs y dyddiau yma."

'Ar y pryd o’n i’n teimlo’n rili isel'

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Molly Cana fod y boen feddyliol yn waeth na'r un ffisegol

Mae rhwyg i’r ACL yn gyfrifol am draean o amser chwarae a gollwyd yn sgil anafiadau.

Ar draws y Deyrnas Unedig, pêl-droed sy’n gyfrifol am 50% o lawdriniaethau i’r ACL, gydag amser aros yn ddibynnol ar ddifrifoldeb yr anaf.

A hithau’n heddwas o ddydd i ddydd, mae Molly yn dweud ei bod hi’n "lwcus" wrth iddi obeithio derbyn llawdriniaeth o fewn y chwe mis nesaf.

Er hyn, dywedodd mai’r her fwyaf yw’r effaith ar ei hiechyd meddwl.

"Ma' effaith ar bob elfen o fywyd i chwaraewyr. Mynd lan a lawr y stâr, newid dillad, mynd mewn a mas o’r gawod, gyrru.

"Ond yr effaith rili i fi yn bersonol oedd meddyliol.

"Ar y pryd o’n i’n teimlo’n rili isel - jyst yr ansicrwydd."

Er bod gêm y menywod yn datblygu yn y cyfeiriad cywir, mae "diffyg ymchwil a diffyg arian" yn y maes yn parhau yn ôl Molly.

Angen i ferched wneud ymarferion penodol

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwennan Harries yn gyn ymosodwr rhyngwladol ac wedi ennill 56 cap dros Gymru

Fel athrawes addysg gorfforol yn Ysgol Gymraeg Glantaf, mae'r cyn-peldroediwr Gwennan Harries hefyd wedi sylwi ar gynnydd yn yr achosion.

"Fi’n meddwl mae'n rhywbeth i 'neud gyda faint ma chwaraewyr yn ymarfer a falle bod dim digon o sylw neu gofal meddygol o fewn yr ymarferion neu tu allan i’r ymarferion.

"Mae'n gallu bod yn broses rili anodd i ddelio gyda pan ti’n aros i ga'l y triniaeth neu dod nôl.

"Yn gyffredinol o fewn chwaraeon merched, pan ma’ 'na fwy o anafiadau mae angen fwy o ymchwil a jest y parch yna at y gêm."

Esboniodd Dyfri Owen fod angen i fenywod wau strwythur ymarfer penodol i’w hamserlen wythnosol i helpu i leihau’r nifer o anafiadau ACL o leiaf 50%.

"Gan ganolbwyntio ar batrwm o ymarfer fe allai menywod weithio tuag at feistroli’r symudiad o newid cyfeiriad.

"Beth sy’n hollbwysig ydy cryfhau cyhyrau merched, gwella eu rheolaeth o sut maen nhw’n glanio a sut maen nhw’n symud," ychwanegodd.