Carwyn Eckley yn ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol

Disgrifiad o'r fideo, Carwyn Eckley yn siarad 芒 Cymru Fyw ar 么l ennill y Gadair

Carwyn Eckley sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

Yn un o鈥檙 ieuengaf i ennill y Gadair, ag yntau'n 28 oed, mae ei gyfres o 12 cerdd yn hynod bersonol ac yn ymateb i鈥檙 profiad o golli鈥檌 dad pan oedd yn blentyn ifanc.

Daw Carwyn o Benygroes yn Nyffryn Nantlle, ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Roedd hi'n gystadleuaeth agos iawn, gydag un o鈥檙 beirniaid yn ffafrio cadeirio ymgeisydd arall, ond casgliad Carwyn Eckley - dan y ffugenw Brynmair - aeth 芒 hi.

Dywedodd un o'r beirniaid ei bod yn "chwerw-felys i feddwl y byddai tad Brynmair wrth ei fodd yn cael gwybod bod ei fab am eistedd yn y Gadair ym Mhontypridd".

Roedd y Gadair eleni yn cael ei chyflwyno am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o鈥檙 mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau, ar y teitl Cadwyn.

Y beirniaid oedd Aneirin Karadog, Huw Meirion Edwards a Dylan Foster Evans.

Pwy ydy Carwyn Eckley?

Daw Carwyn Eckley o Benygroes, Dyffryn Nantlle, ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda鈥檌 bartner Si芒n a鈥檜 ci, Bleddyn.

Mae鈥檔 gweithio fel newyddiadurwr gydag adran Gymraeg ITV Cymru, sy鈥檔 cynhyrchu rhaglenni Y Byd ar Bedwar a鈥檙 Byd yn ei Le.

Dechreuodd ymddiddori mewn barddoniaeth dan arweiniad Eleri Owen yn Ysgol Dyffryn Nantlle, cyn iddo fynd ymlaen i astudio Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth a dysgu i gynganeddu mewn gwersi gydag Eurig Salisbury.

Enillodd y Gadair Ryng-golegol yn ei drydedd flwyddyn yno, cyn ennill Cadair yr Urdd yn 2020-21.

Mae鈥檔 aelod o d卯m Talwrn y Beirdd Dros yr Aber o Gaernarfon, sydd wedi ennill y gyfres bedair gwaith.

Mae鈥檔 ddiolchgar iawn i鈥檙 tri aelod arall - Rhys Iorwerth, Iwan Rhys a Marged Tudur - am eu cefnogaeth, ac yn enwedig i Rhys Iorwerth sydd wedi bod yn athro barddol iddo.

Tu hwnt i ysgrifennu, p锚l-droed yw un o鈥檌 brif ddiddordebau, ac mae鈥檔 aelod o Glwb Cymric yng Nghaerdydd.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Yn ei feirniadaeth dywed Huw Meirion Edwards: 鈥淵mateb y mae鈥檙 bardd i鈥檙 profiad dirdynnol o golli ei dad yn dilyn gwaeledd yn ystod haf 2002, ac yntau ar y pryd yn blentyn ifanc.

"Mae dau ddegawd o alar ac o geisio dygymod 芒鈥檙 golled wedi eu distyllu i鈥檙 cerddi cynnil teimladwy hyn.

"Mae鈥檙 canu鈥檔 dwyllodrus o syml, bron yn foel mewn mannau, a鈥檙 dilyniant yn magu grym wrth fynd rhagddo.

"Mae yma ddryswch, ing, euogrwydd, dirnad a dygymod graddol, cariad a gobaith 鈥 teyrnged, hefyd, i dad a mam a llystad 鈥 ond mae鈥檙 cyfan wedi ei fynegi yn ddiriaethol dynn."

Ychwanegodd Dylan Foster Evans: 鈥淩ydym yng nghwmni bardd arbennig yma, a bydd y cerddi hyn yn aros yn fy nghof am amser maith.鈥

'Byddai tad Brynmair wrth ei fodd'

Dywedodd Aneirin Karadog: "Mae鈥檙 golled, a鈥檙 ymgiprys 芒 cheisio dal gafael ar atgofion, ceisio ffoi rhagddyn nhw weithiau gan eu bod yn dod 芒 phoen galar gyda nhw, yn cael ei dwys谩u drwy ganu moel y cerddi hyn a鈥檙 absenoldeb a deimlir o gerdd i gerdd hefyd yn cael ei deimlo yn yr arddull.

鈥淢ae Brynmair yn llwyddo i gyfleu trymder galar, anobaith llwyr galar, dagrau galar, a鈥檙 orfodaeth i gario galar ym mhobman gyda ni ac yna hefyd geisio cysuro ein cyd-alarwyr, a hynny drwy fod yn ddethol ac yn foel ei fynegiant.

"Mae鈥檔 llwyddo i ganfod y geiriau iawn sy鈥檔 rhoi mynegiant i ugain mlynedd o gario galar plentyn, arddegyn ac oedolyn gydag e.

"Mae鈥檔 chwerw-felys i feddwl y byddai tad Brynmair wrth ei fodd yn cael gwybod bod ei fab am eistedd yn y Gadair ym Mhontypridd.鈥