麻豆官网首页入口

Agor cwest i farwolaeth Cymro o Bontypridd yn Benidorm

Nathan Osman.Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Nathan Osman yn 30 oed ac yn dad i bedwar o blant.

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi cael ei agor i farwolaeth dyn o Bontypridd tra ar ei wyliau yn Benidorm.

Roedd Nathan Osman ar ei wyliau tramor cyntaf gyda ffrindiau pan aeth ar goll a chael cwymp angheuol.

Yn ystod y gwrandawiad ym Mhontypridd clywodd y crwner fod Nathan Osman wedi bod ar benwythnos hir o yfed yn Benidorm gyda ffrindiau ar 28 Medi 2024.

Nodwyd ei fod wedi ffonio ei ffrindiau ar Facetime i ddweud ei fod am ddychwelyd i'r gwesty.

Drannoeth sylwodd plismon, nad oedd ar ddyletswydd, ar gorff Nathan ar waelod dibyn 200 metr o ddyfnder.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal yn ninas Alicante a chanfuwyd ei fod wedi marw yn sgil anafiadau i'r pen a'r abdomen ar 么l disgyn o uchder.

Mae'r cwest wedi ei ohirio er mwyn i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal.

Pynciau cysylltiedig