麻豆官网首页入口

Cwpl YouTube am droi capel Cymreig yn amgueddfa'r goruwchnaturiol

Laura ac Erik Rowton
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Laura ac Erik Rowton yn bwriadu creu amgueddfa ar gyfer y goruwchnaturiol mewn eglwys yng Nghaerfyrddin

  • Cyhoeddwyd

Mae p芒r priod sydd wedi prynu capel yng Nghaerfyrddin yn bwriadu creu amgueddfa ar gyfer y goruwchnaturiol ar y safle.

Mae gan Laura ac Erik Rowton - sydd 芒 dros 540,000 o ddilynwyr ar YouTube - gynlluniau i weddnewid Capel Penuel ar Heol y Prior.

Maen nhw hefyd yn bwriadu cynnal 'seance' i ymgysylltu gyda'r meirw mewn ystafell arbennig mewn adeilad cyfagos.

Dywedodd Eglwys Penuel, oedd yn arfer cynnal gwasanaethau yn yr adeilad, nad yw'r cynlluniau yn "cyd-fynd ag ethos, gwerthoedd a chredoau ein heglwys".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Eglwys Penuel yn dyddio'n 么l i'r 18fed ganrif

Mae'r capel yn dyddio'n 么l i'r 18fed ganrif, ac yn dal 800 o bobl.

Mae'n adeilad rhestredig Gradd II ac fe gafodd ei werthu i Mr a Ms Rowton ym mis Awst.

Dywedodd Laura Rowton taw un o'r rhesymau am brynu'r adeilad oedd ei gysylltiad honedig gyda'r goruwchnaturiol.

"Ar ddiwedd y 19eg ganrif, roedd iachau drwy ffydd yn boblogaidd yma, dan arweiniad y Parchedig WS Jones," meddai.

"Fe welodd y gynulleidfa, ac yn wir fe gofnodwyd, ddigwyddiadau goruwchnaturiol, ac roedd WS Jones yn teimlo ei fod yn cael p诺er dwyfol i iachau."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Eglwys Penuel yn honni eu bod nhw wedi cael gwybod mai creu "amgueddfa hanesyddol" oedd y bwriad gwreiddiol

Mae'r p芒r wedi rhedeg eu sianel ar YouTube am naw mlynedd, ac wedi casglu nifer o wrthrychau "goruwchnaturiol" maen nhw'n bwriadu eu harddangos yn yr amgueddfa, sydd yn cynnwys Bwrdd Ouija sydd wedi ei "felltithio".

Dywedodd Ms Rowton ei bod hi wedi esbonio yn glir i'r gwerthwr tai beth oedd eu cynlluniau pan fuon nhw yn ymweld 芒'r capel.

Mae Eglwys Penuel, sydd erbyn hyn yn addoli mewn adeilad arall yn y dref, wedi cyhoeddi datganiad yn honni eu bod nhw wedi cael gwybod mai creu "amgueddfa hanesyddol" oedd y bwriad gwreiddiol a "nad oedden yn ymwybodol o'r bwriadau" eraill ar gyfer yr adeilad pan werthwyd y capel.

Maen nhw wedi dweud nad yw'r cynlluniau yn "cyd-fynd gydag ethos, gwerthoedd a chredoau ein heglwys".

Ychwanegodd: "Hoffem wneud yn glir nad ydym, fel eglwys, yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd 芒'r 'amgueddfa' hon."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd yr amgueddfa yn cynnwys Bwrdd Ouija sydd wedi ei "felltithio"

Dywedodd Laura Rowton ei bod hi'n "siomedig" nad oedd yr Eglwys wedi cysylltu i drafod eu pryderon.

"Dyw nhw ddim wedi codi'r pryderon hyn. Rwy'n meddwl bod modd lleddfu eu pryderon," meddai.

"Ry'n ni eisiau i'r capel fod yn lle diogel ar gyfer pobl i archwilio eu credoau. Mae yna ffocws mawr ar yr elfennau tywyll ond mae yna oleuni hefyd. Fe fydd gyda ni arddangosfa am angylion a seintiau."

Ond fe gadarnhaodd bod yna fwriad i gynnal sesiynau seians mewn adeilad oedd ynghlwm 芒'r capel, oedd yn arfer bod yn ysgol: "Mae lot o bobl yn cael cysur wrth geisio ymgysylltu gyda phobl annwyl.

"Fe fyddwn ni yn cynnal teithiau a digwyddiadau rhyngweithiol, fydd yn cynnwys seians ac ymchwiliadau'r goruwchnaturiol. Yn y capel, fe fyddwn ni cynnal gwylnosau.

"Fe fydd unrhyw beth sydd yn cael ei ystyried yn fwy dadleuol fel seians Fictorianaidd yn digwydd mewn rhan arall o'r adeilad. Ar hyn o bryd, ni'n adnewyddu adeilad pwrpasol i gynnal seians."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae'n drist iawn," meddai'r Cynghorydd Emlyn Schiavone

Bydd y Rowtons yn cynnal digwyddiad arbennig yn y capel ddydd Sul i apelio am gymorth y gymuned i dacluso'r fynwent y tu 么l i'r capel, ac i gwrdd 芒 phobl leol.

Mae Maer Caerfyrddin, y Cynghorydd Emlyn Schiavone, wedi dweud y bydd yna deimladau cymysg am y cynlluniau yng Nghaerfyrddin ac roedd yn destun tristwch bod capeli yn gorfod cael eu gwerthu.

"Wrth feddwl 'n么l am y bobl wnaeth weithio'n galed iawn, iawn i godi'r capeli, mae'n drist iawn.

"O safbwynt y cynllun yma, mae'n siom. Fi'n credu bod yr aelodau [yr Eglwys] yn meddwl ar y pryd bod nhw'n mynd i agor amgueddfa, ac roedd hynny i weld yn ddigon derbyniol.

"Fel mae pethau wedi dod allan, mae'n mwy i fod yn fwy na hynny, ac mae e'n creu siom iddyn nhw ac fi'n credu bod teimladau cymysg yng Nghaerfyrddin yngl欧n 芒 defnydd yna o beth yw capel cysegredig.

"Mae lan i bobl ymateb fel maen nhw moyn. Mae'n fwy dadleuol wrth ystyried pwrpas gwreiddiol yr adeilad."

Mae'r Rowtons yn gobeithio agor yr Amgueddfa Goruwchnaturiol erbyn Calan Gaeaf.

Dywedodd Eglwys Penuel: "Rydym fel eglwys yn teimlo bod y cyfan sydd angen ei ddweud am y sefyllfa wedi ei amlinellu yn y datganiad ar ein gwefan.

"Rydym bellach yn canolbwyntio ar ein cenhadaeth, sef i ymestyn allan i鈥檙 gymuned gyda鈥檙 newyddion da am Iesu Grist.

"Yr hyn sy鈥檔 hyfryd gallu dweud yw mai nid symud oherwydd bod niferoedd yn lleihau ydym, ond symud er mwyn hwyluso bywyd a thwf ein heglwys.

Fel y nodwyd yn ein datganiad, nid adeilad yw鈥檙 Eglwys, ond corff o bobl. Bydd gweinidogaeth a chenhadaeth yr eglwys yn parhau!"

Pynciau cysylltiedig