麻豆官网首页入口

Disgwyl cadarnhad mai Eluned Morgan fydd arweinydd Llafur Cymru

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Eluned Morgan wedi bod yn aelod o'r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru ers 2016

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i Lafur Cymru gadarnhau mai Eluned Morgan fydd eu harweinydd newydd ac olynydd i'r Prif Weinidog, Vaughan Gething.

Cafodd Mr Gething ei orfodi i roi'r gorau iddi yr wythnos ddiwethaf ar 么l i bedwar aelod o'i lywodraeth ymddiswyddo ar yr un pryd.

Fe wnaeth y cyfnod lle'r oedd modd enwebu rhywun ar gyfer yr arweinyddiaeth gau am 12:00 ddydd Mercher, a doedd dim disgwyl i unrhyw aelod arall sefyll.

Mae'r ysgrifennydd iechyd wedi cael cefnogaeth o leiaf 25 o 30 o wleidyddion Llafur Senedd Cymru ac mae'n debygol mai hi fydd y fenyw gyntaf i fod yn arweinydd Llafur Cymru a phrif weinidog benywaidd cyntaf Cymru.

Roedd Vaughan Gething wedi bwriadu rhoi鈥檙 gorau i鈥檞 swydd fel prif weinidog ym mis Medi ond fe allai roi鈥檙 gorau iddi鈥檔 gynt, gan olygu bod angen i Senedd Cymru ddychwelyd o doriad yr haf i gadarnhau ei olynydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyhoeddodd Vaughan Gething ei fod yn ymddiswyddo wedi 118 diwrnod wrth y llyw

Mae ffrae am 拢200,000 a dderbyniodd Mr Gething ar gyfer ei ymgyrch i ddod yn arweinydd gan gwmni sy'n eiddo i ddyn a gafodd ei ddyfarnu'n euog o droseddau amgylcheddol, wedi taflu cysgod dros ei gyfnod byr fel prif weinidog.

Collodd bleidlais o ddiffyg hyder ar 么l i ddau o鈥檌 aelodau o'r Senedd fethu 芒鈥檌 gefnogi, ac roedd dan ragor o bwysau ar 么l iddo ddiswyddo ei weinidog, Hannah Blythyn.

Dim ond am 118 diwrnod y bu wrth y llyw cyn cyhoeddi y byddai'n rhoi'r gorau i'r swydd.

Pan ymunodd Ms Morgan 芒 Senedd Ewrop ym 1994, hi oedd y bumed fenyw o Gymru i gael ei hethol i unrhyw senedd.

Yn 27 mlwydd oed, Ms Morgan oedd aelod ieuengaf y senedd ar y pryd hefyd, a hi oedd y gwleidydd Cymreig gyntaf i roi genedigaeth tra yn y swydd.

Am bymtheg mlynedd ar 么l hynny, coridorau Brwsel a Strasbwrg oedd ei chartref gwleidyddol.

Yn 2011 fe gafodd ei dyrchafu鈥檔 aelod o D欧鈥檙 Arglwyddi fel y Farwnes Morgan o Drel谩i, a bu鈥檔 llefarydd ar ran y Blaid Lafur yn Senedd San Steffan, cyn cael ei hethol i Senedd Cymru yn 2016 dros etholaeth ranbarthol y Canolbarth a鈥檙 Gorllewin.

Ers hynny, mae hi wedi cyflawni cyfres o swyddi fel gweinidog, cyn cael ei phenodi鈥檔 weinidog iechyd yn 2021, yng nghanol y pandemig.

Mi wnaeth hi sefyll am arweinyddiaeth Llafur Cymru yn 2018, gan golli i Mark Drakeford.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ms Morgan eisioes wedi dweud mai Huw Irranca-Davies fyddai ei dirprwy

Mae Ms Morgan, a gefnogodd Mr Gething yn yr ornest ddiwethaf i ddod yn arweinydd, wedi addo uno'r gr诺p Llafur.

Mae hi wedi dweud y bydd yn penodi Huw Irranca-Davies, a gefnogodd Jeremy Miles ar gyfer y swydd yn gynharach eleni, yn ddirprwy iddi.

Mae unrhyw un sy'n gobeithio cynnig eu henwau angen cefnogaeth o leiaf pump AS arall, neu dau AS a chefnogaeth ymhlith grwpiau a sefydliadau llafur llawr gwlad.

Mae Ms Morgan eisoes wedi derbyn cefnogaeth gan o leiaf 25 o Aelodau o'r Senedd.

Yn y cyfamser, mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn galw am etholiad i Senedd Cymru.

Dywedodd: 鈥淓luned Morgan fydd y trydydd arweinydd Llafur yng Nghymru mewn tri mis.

鈥淔e wyddai, er mwyn i Lywodraeth Cymru gael mandad mewn amgylchiadau o鈥檙 fath, fod angen etholiad newydd, fel y galwodd Llafur eu hunain amdano pan welwyd newidiadau arweinyddiaeth olynol yn Llywodraethau鈥檙 DU a鈥檙 Alban."

Beth sy'n digwydd ar 么l heddiw?

Mae angen pleidlais ffurfiol ar lafar yn y Senedd cyn i鈥檙 prif weinidog newydd gael ei gadarnhau.

Gydag un ymgeisydd yn unig hyd yma, gallai Mr Gething roi'r gorau iddi yn gynt na'r disgwyl - gan olygu bod angen galw'r Senedd yn 么l o doriad yr haf.

Cafodd 麻豆官网首页入口 Cymru wybod yn gynharach yn yr wythnos fod trafodaethau wedi digwydd rhwng swyddfa'r prif weinidog, Llafur Cymru a'r Senedd.

Byddai angen i'r Senedd gael cais gan Lywodraeth Cymru i alw'r Senedd yn 么l.

Er y byddai cais o'r fath yn cael ei ganiat谩u, nid yw cynlluniau llawn yn cael eu gwneud eto ac nid oes dyddiad ar gyfer galw aelodau yn 么l.

Mae'r bleidlais yn ei gwneud yn ofynnol i bob aelod o'r Senedd ddweud ar lafar pwy ddylai fod yn brif weinidog yn eu barn nhw, ac mae rhai ohonynt ar wyliau dramor ar hyn o bryd.

Mewn egwyddor fe allai'r wrthblaid, gydag union hanner y niferoedd yn y Senedd, atal Ms Morgan rhag cael ei chadarnhau trwy gefnogi un ymgeisydd.

Ond nid yw hynny'n mynd i ddigwydd a bydd gan Lafur y niferoedd i gael cadarnhad o'u prif weinidog newydd.

Mae Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu ymatal, tra bod y Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru yn bwriadu enwebu eu harweinwyr eu hunain.