麻豆官网首页入口

Teyrngedau i b芒r priod fu farw ger pier Biwmares

Roedd Katherine a Stephen Burch yn dod o Alcester, Sir WarwickFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Katherine a Stephen Burch yn dod o Alcester, Sir Warwick

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gwpl fu farw mewn gwrthdrawiad ffordd ar Ynys M么n brynhawn Mercher.

Roedd Stephen a Katherine Burch, y ddau yn 65 oed, yn byw yn Alcester, Sir Warwick.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryd Alma, ger pier Biwmares, am tua 14:45 ar 么l y gwrthdrawiad rhwng dau gerddwr a char Audi A8 llwyd.

Bu farw gyrrwr y car, dyn 81 oed o ogledd Cymru, yn y digwyddiad hefyd.

'Hiwmor da a ffydd diwyro'

Mewn teyrnged, dywedodd Esgobaeth Coventry fod y newyddion yn "sioc".

"Bydd llawer yn adnabod Steve, a ymddeolodd ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf ar 么l gwasanaethu gyda ni mewn sawl r么l am dros 35 mlynedd, yn fwyaf diweddar fel Ficer St James, Fletchamstead am 19 mlynedd.

"Roedd Steve yn aelod poblogaidd o鈥檔 hesgobaeth ac yn adnabyddus am ei hiwmor da a鈥檌 ffydd ddiwyro a bydd llawer hefyd yn adnabod Kathy yn dda o鈥檌 gwaith gyda CPAS a鈥檌 weinidogaeth addoli.

"Fel cwpl roeddent yn dal yn weithgar iawn ar 么l ymddeol eleni, gan redeg cwrs alffa yn arwain at fedydd a chonffyrmasiwn.

"Mae ein meddyliau a鈥檔 gwedd茂au gyda theulu Steve a Kathy ar yr adeg hon yn enwedig eu plant, David, Jonathan a Sarah wrth iddynt ddod i delerau 芒鈥檙 golled ddinistriol, annisgwyl hon."

Ffynhonnell y llun, Rob Formstone Freelance Photos North Wales
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd adeilad ar Stryd Alma ei ddifrodi yn y gwrthdrawiad

Mae Heddlu'r Gogledd Cymru yn dal i geisio cadarnhau holl amgylchiadau'r digwyddiad, ac yn awyddus i glywed gan bobl sydd heb siarad 芒 nhw eisioes all fod 芒 lluniau dash-cam neu gamera drws t欧.

Dywedodd y Sarjant Emlyn Hughes o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: "Bydd y gwrthdrawiad wedi cael effaith ddofn, nid yn unig ar deuluoedd pawb oedd yn rhan ohono, ond ar gymuned ehangach Biwmares.

"Hoffwn roi sicrwydd i bawb ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddeall beth yn union wnaeth achosi'r digwyddiad yma.

"Hoffwn ddiolch hefyd i'r gymuned ehangach ym Miwmares sydd wedi cynnig cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd yma."

Wedi'r digwyddiad fe wnaeth yr Aelod Seneddol lleol, Llinos Medi, ganmol "gwydnwch cymunedol cryf" y dref, gan ategu ap锚l yr heddlu ar bobl i beidio 芒 dyfalu beth oedd achos y gwrthdrawiad ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Mae鈥檔 andros o bwysig bod 'na ddim amheuon yn cael eu codi ar y cyfryngau cymdeithasol," meddai.

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.