麻豆官网首页入口

AS yn codi pryder diogelwch am arwyddion Cymraeg ar yr M4

Natasha Asghar
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Natasha Asghar wedi bod yn Aelod o鈥檙 Senedd dros Ddwyrain De Cymru ers 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae AS Ceidwadol wedi mynegi pryderon am negeseuon diogelwch "ar gael yn Gymraeg yn unig" ar arwyddion electronig ar draffordd yr M4.

Dywedodd Natasha Asghar iddi dderbyn "nifer digynsail o adroddiadau diweddar gan etholwyr yn datgelu bod arwyddion Cymraeg yn unig wedi bod ar yr M4 ar sawl achlysur".

Ond ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a鈥檙 Gymraeg, Mark Drakeford, bod hynny'n "swnio fel chwedl i mi".

Gwrthododd Llywodraeth Cymru y cyfle i ehangu ar ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet.

Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru

Dywedodd Natasha Asghar yn y Senedd brynhawn Mercher, "tra, wrth gwrs, rydym i gyd eisiau gweld y Gymraeg yn cael ei chefnogi ledled Cymru... rwy鈥檔 credu ei bod yn wirioneddol bwysig, lle mae diogelwch yn berthnasol, i wneud yn si诺r bod y Gymraeg a鈥檙 Saesneg wedi鈥檜 cyflwyno鈥檔 glir ac yn hygyrch i bawb".

"Rwyf wedi cael gwybod gan etholwyr lluosog am negeseuon ar gael yn Gymraeg yn unig am gyflymder amrywiol ar draws yr M4 yn ymwneud 芒 rhybuddion brys ar gyfer ciwiau o鈥檜 blaenau, amodau gyrru gwael neu arafu oherwydd damwain sydd newydd ddigwydd.

"Felly, maen nhw yn anodd i'w deall i lawer o yrwyr cerbydau nwyddau trwm sy'n teithio i Gymru o dramor, twristiaid a thrigolion nad ydynt yn hyderus yn y Gymraeg neu nad ydynt yn ei siarad o gwbl".

Galwodd ar Lywodraeth Cymru i "sicrhau bod negeseuon dwyieithog, nid uniaith, yn cael eu hyrwyddo bob amser".

'Dealladwy'

Ymatebodd Mark Drakeford, "gwneir ymdrech fawr, wrth gwrs, i sicrhau bod arwyddion ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg".

"Dychmygaf fod yr achlysuron pan nad yw pobl ond yn gallu gweld rhybudd Cymraeg yn eithaf bach.

"Mae yna arwyddion, wrth gwrs, sy鈥檔 dangos pethau yn Saesneg ac yna yn Gymraeg, ac wedyn yn Saesneg ac wedyn yn Gymraeg, ac mae hynny鈥檔 ffordd gwbl ddealladwy o fynd ati.

"Os yw鈥檙 Aelod am ysgrifennu ataf gydag achosion gwirioneddol o鈥檙 broblem, wrth gwrs byddaf yn ymchwilio iddynt, ond mae'n swnio fel chwedl i mi.

"Nid dyma'r tro cyntaf i mi glywed hyn, a phob tro rwyf wedi edrych arno, nid yw'n troi allan i fod y math o broblem sydd wedi'i chynnig".