麻豆官网首页入口

Capiau rhyngwladol: CBDC yn chwilio am fenywod o'r 70au ac 80au

Cyn-chwaraewyr timau menywod CymruFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd cyn-chwaraewyr eu gwahodd i ddathliad cyn-g锚m Cymru yn erbyn Gwlad yr I芒 y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru yn chwilio am chwaraewyr fu'n cynrychioli t卯m y menywod yn y 1970au a'r 1980au er mwyn rhoi capiau swyddogol iddyn nhw.

Ni chafodd y menywod a chwaraeodd i Gymru yn y cyfnod hwn - cyn i'r t卯m cenedlaethol ddod o dan reolaeth CBDC - gapiau ar y pryd.

Ond bydd y cyn-chwaraewyr yn cael eu dathlu mewn digwyddiad arbennig yn Amgueddfa Sain Ffagan nos Wener 4 Hydref, ble bydd capiau swyddogol yn cael eu cyflwyno iddyn nhw.

Mae gan y CBDC gofnodion o 27 o gemau a gafodd eu cynnal rhwng 1973 a 1993, o pan chwaraewyd y g锚m ryngwladol gyntaf yn erbyn Gwlad yr I芒 yn Afan Lido.

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd menywod Cymru'n chwarae gemau cyn 1993, ond doedden nhw ddim yn cael eu trefnu gan CBDC

Dros y flwyddyn a hanner diwethaf, mae CBDC wedi bod yn gweithio i gysylltu 芒 chyn-chwaraewyr a fu鈥檔 rhan o鈥檙 timau yn y cyfnod hwnnw er mwyn anrhydedd.

Fel rhan o hyn, cafodd cyn-chwaraewyr eu gwahodd i ddathliad cyn g锚m Cymru yn erbyn Gwlad yr I芒 yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Rhagfyr y llynedd.

Gyda chymorth y cyn-chwaraewr Michele Adams MBE a鈥檙 hanesydd John Carrier ymysg eraill, mae 94 o chwaraewyr wedi鈥檜 hadnabod o鈥檙 cyfnod hwnnw, ac mae gan CBDC fanylion cyswllt ar gyfer tua hanner y chwaraewyr hyn.

Nawr mae CBDC yn lansio ap锚l gyhoeddus er mwyn helpu i ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer gweddill y cyn-chwaraewyr, neu eu teuluoedd, i helpu dathlu eu llwyddiannau.

Pwy yw'r chwaraewyr coll?

Mae CBDC yn chwilio am fanylion cyswllt ar gyfer:

Sandra Bretag, Sue Johnson, Gaynor Blackwell, Pat Griffiths, Sandra Hunt, Tina Cosatori, Linda James, Gaynor Jones, Gaynor Jones (nee Blackwell), Ann Rice, Julie Yale, Gillian Rowlands, Ann Jenkins, June Houldey, Helen Green, Caroline Green, Janet Lewis, Carol Paul, Barbara Jones, Christine Ross, Karen Atkins, Mandy Williams, Liz Harrington, Jean McCarthy, Angela Powell, Eve Webber, Wendy Wood, Jacqueline Butt, Nikki Groves, Samantha Porter, Suzy Faul, Jill Anson, Sandra Moore, Chris Coyle, Gill Bellis, Paula Cleeve, Lynette Roberts, Val Williams, G Day, Gail Manning, Delyth Wyn Jones, Jackie Weir (nee Jones), Annette Jones, T Heaton.

Os oes gennych chi fanylion cyswllt ar gyfer chwaraewr neu aelod o deulu鈥檙 rhai sydd ar y rhestr, mae CBDC yn gofyn i chi gysylltu 芒 press@faw.cymru.

Ar gyfer y rhai na all fynychu鈥檙 ar 4 Hydref, bydd y gymdeithas yn gyrru鈥檙 capiau trwy鈥檙 post.