Ffydd ym mhrosesau diogelu plant Gwynedd wedi'i 'thanseilio'

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Neil Foden, cyn-bennaeth ysgol yng Ngwynedd, ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf
  • Awdur, Gareth Wyn Williams
  • Swydd, Gohebydd 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae cynghorwyr wedi clywed fod ffydd y cyhoedd ym mhrosesau diogelu plant Gwynedd wedi ei 鈥渢hanseilio鈥 yn sgil achos prifathro a gafwyd yn euog o gam-drin plant yn rhywiol.

Yn gynharach yn y mis cafodd Neil Foden ei ddedfrydu i 17 mlynedd o garchar.

Yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn bennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, fe鈥檌 cafwyd yn euog o 19 o gyhuddiadau gan gynnwys cam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.

Dros y misoedd nesaf bydd Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol yn ystyried r么l yr asiantaethau a pha wersi sydd i鈥檞 dysgu.

Ond yn ystod trafodaeth am brosesau diogelu plant, clywodd cynghorwyr sir yng Ngwynedd fod 鈥渇fydd y cyhoedd yn y system wedi ei thanseilio鈥.

Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn 鈥渃ydnabod ac yn llwyr ddeall pryderon rhieni鈥, ac y byddai鈥檙 awdurdod yn 鈥渃ydweithio鈥檔 llawn鈥 gyda鈥檙 adolygiad.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y barnwr yn ystod achos Neil Foden fod ganddo bryderon mawr am brosesau adran addysg y cyngor

Yn ystod yr achos daeth i鈥檙 amlwg fod nifer o bobl wedi codi pryderon yngl欧n ag agosatrwydd Foden ag un plentyn yn 2019.

Cafodd y rhain eu codi ar e-bost gyda phennaeth addysg Cyngor Gwynedd ar y pryd, Garem Jackson.

Dywedodd Foden wrth Mr Jackson fod y pryderon yn "or-ddramatig" a ni chynhaliwyd ymchwiliad ffurfiol.

Ond yn ystod yr achos dywedodd y barnwr fod ganddo bryderon mawr am brosesau adran addysg y cyngor.

Dywedodd Mr Jackson, fel Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd, fod diogelu yn 鈥渇laenoriaeth allweddol鈥 ac y byddai鈥檔 cydweithredu鈥檔 llawn 芒鈥檙 adolygiad.

鈥淵n sgil yr adolygiad hwn byddai鈥檔 amhriodol gwneud sylw pellach ar hyn o bryd, heblaw dweud bod gan ysgolion o fewn Cyngor Gwynedd weithdrefnau clir mewn lle i adrodd pryderon diogelu drwy eu swyddog diogelu dynodedig i鈥檙 Gwasanaethau Plant.

鈥淢ewn amgylchiadau prin lle codwyd pryderon yn uniongyrchol gyda mi, rhoddais wybod amdanynt i鈥檙 swyddog priodol y byddwn yn dilyn ei gyngor fel y gwnes yn yr achos hwn.鈥

Gyda swyddogion addysg wedi eu gwahodd i drafod trefniadau diogelu gyda鈥檙 Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi, dywedodd y deilydd portffolio, Beca Brown, ei fod yn faes sydd 鈥渨edi derbyn cryn sylw yn ddiweddar am resymau amlwg鈥.

Dywedodd Gwern ap Rhisiart, pennaeth addysg y sir, fod diogelu yn 鈥渇laenoriaeth鈥 i鈥檙 adran.

Ond roedd galwadau ar yr awdurdod i wneud eu prosesau diogelu yn gliriach ac yn fwy amlwg i鈥檙 cyhoedd.

Dywedodd Sharon Roberts, cynrychiolydd rhieni a llywodraethwyr Arfon ar y pwyllgor, 鈥淔uasech yn ystyried rhoi infographic interactive at ei gilydd a chyfeirio ato pan mae cyfle, fe fuasai hynny鈥檔 amlygu bod 'na broses eitha robust yn ei lle bellach.

鈥淎 hefyd derbyn cyn lleied o hyder sydd allan yna ymysg rhieni dwi鈥檔 siarad hefo, mae pawb wedi cael sioc am beth sydd wedi digwydd.鈥

Yn ddiweddarach, ychwanegodd cadeirydd y pwyllgor, y Cynghorydd Cai Larsen, fod aelodau wedi cael sicrwydd fod 鈥渢refn robust yn ei lle鈥 a bod sylwadau鈥檙 swyddogion wedi 鈥測chwanegu at yr hyder鈥.

Ond aeth ymlaen i ddweud: 鈥淕wnaed sylw fod ffydd y cyhoedd yn y system wedi ei thanseilio yn anffodus, ac mae hynny鈥檔 wir dydi? Waeth i ni heb 芒 chelu oddi wrth hynny.

鈥淢ae鈥檔 ddigon posib fyddan ni鈥檔 edrych ymhellach ar hyn yn y dyfodol agos iawn.鈥

'Deall pryderon rhieni'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn 鈥渃ydnabod ac yn llwyr ddeall pryderon rhieni鈥.

鈥淔el cyngor, rydym yn pwysleisio fod diogelu plant a phobl ifanc yn brif flaenoriaeth i ni a鈥檔 bod yn adolygu ein prosesau a鈥檔 protocolau yn barhaus.

鈥淵n dilyn yr achos troseddol, ble cafwyd Neil Foden yn euog o droseddau dychrynllyd, mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi dechrau ar y gwaith o gynnal Adolygiad Ymarfer Plant, yn unol 芒 chanllawiau Llywodraeth Cymru. Caiff yr adolygiad ei arwain gan gadeirydd annibynnol a dau adolygwr profiadol.

鈥淏ydd yr adolygiad yn tynnu sefydliadau megis Cyngor Gwynedd, yr ysgol a chyrff eraill at ei gilydd i adnabod pa wersi sydd i鈥檞 dysgu a pha welliannau sydd angen eu cyflwyno i sicrhau diogelwch a llesiant plant bregus ac atal achosion tebyg rhag digwydd eto.

鈥淩ydym wedi datgan yn glir y bydd Cyngor Gwynedd yn cydweithio鈥檔 llawn 芒鈥檙 adolygiad ac rydym eisoes wedi cyflwyno nifer sylweddol o ddogfennau a gwybodaeth i鈥檞 sylw.

鈥淏yddwn yn parhau i droi pob carreg i sicrhau fod y bwrdd yn cael darlun llawn o weithredoedd a threfniadau ein gwasanaethau a byddwn yn ymateb yn syth i unrhyw argymhellion neu wersi sy鈥檔 cael eu hamlygu.鈥