Teulu merch o Gricieth yn galw am roi mwy o sylw i fath prin o diwmor

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Nansi Alys ddiagnosis sy'n effeithio ar ddim ond chwech pherson ymhob miliwn
  • Awdur, Ruth Roberts
  • Swydd, Newyddion S4C

Mae teulu merch saith oed yn galw am ragor o ymwybyddiaeth o gyflwr prin, sy'n effeithio ar chwe pherson ymhob miliwn.

Pan ddaeth mam Nansi, Leila Evans, o hyd i lwmp ar fys troed ei merch oedd yn dair oed ar y pryd cafodd wybod mai dafad (wart) oedd y briw.

Ond wrth i鈥檙 lwmp barhau i dyfu, roedd Leila yn benderfynol bod rhywbeth o鈥檌 le ac ychydig dros ddwy flynedd yn ddiweddarach, fe gafodd Nansi ddiagnosis o desmoid fibromatosis sy'n fath prin o diwmor.

Mae elusen Sarcoma UK yn galw am godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr ar frys.

Disgrifiad o'r llun, 鈥淕ath Nansi gam-ddiagnosis am bron i 18 mis," medd ei mam, Leila Evans

Mae elusen Sarcoma UK yn dweud mai tiwmor canolradd ydi desmoid fibromatosis, sy'n golygu nad yw'n ganser ond bod ganddo nodweddion tebyg i ganser.

Mae DF yn fath o sarcoma - gwahanol fathau prin o ganser sy'n datblygu yn yr esgyrn, cyhyrau a thendonau.

鈥淕ath Nansi gam-ddiagnosis am bron i 18 mis. Oeddan ni n么l a 'mlaen o lle doctor o mis Mai 2021 hyd at Mehefin 2022. Ar 么l hynny 'nath y doctor ddeud mai benign cyst oedd o a bod o angen sylw pellach,鈥 meddai Leila.

Ar 么l hynny, aeth y teulu i Ysbyty Gwynedd cyn mynd ymlaen i Ysbyty Alder Hey lle daeth cadarnhad mai cyst oedd y lwmp.

鈥淎r 么l y driniaeth i鈥檞 dynnu nathon ni aros am chwe wythnos am y canlyniadau ac yna鈥檙 canlyniadau yn dod mai desmo oedd o a bod yna ychydig yn weddill a bod angen triniaeth pellach er mwyn cael gwared ohono a gorchuddio鈥檙 croen gyda croen o adran arall o鈥檙 corff.

"Mae ganddi dal ychydig yn sownd ar y soft tissue felly ma raid i Nansi gael check-ups bob tri mis ac erbyn hyn bob 12 wythnos,鈥 ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Roedd hi鈥檔 gyfnod hir cyn i Nansi gael diagnosis

Mae math desmoid fibromatosis yn un o dros gant o fathau o gyflyrau prin sarcoma sy'n gallu effeithio ar unrhyw un o unrhyw oed.

Bob dydd mae 15 o bobl yn cael diagnosis o'r cyflwr yn Y Deyrnas Unedig.

Er bod teulu Nansi eisoes wedi cael atebion, roedd hi鈥檔 gyfnod hir cyn i Nansi gael diagnosis.

鈥淪bio nol r诺an, fyswn i jest yn licio os fysan nhw wedi gwrando arna fi. O鈥檔 i鈥檔 gw鈥檅od 'na ddim jest wart oedd o.鈥

A hwythau yn anghyfarwydd efo'r cyflwr, daeth y diagnosis fel sioc.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, "Do鈥檔 i heb glywed am y cyflwr"

鈥淐yn i Nansi gael y diagnosis do鈥檔 i heb glywed am y cyflwr. Felly roedd cael y newyddion blwyddyn yn 么l 鈥 roedd bob dim yn rhedeg trwy fy meddwl, be sy鈥檔 mynd i ddigwydd nesa, be ydi鈥檙 driniaeth?

鈥淚 fi, o鈥檔 i鈥檔 emotional, o鈥檔 i isho crio a bob dim yn mynd trwy 鈥檓hen i.

鈥淢ae鈥檙 cymorth 鈥檇an ni wedi gael gan deulu a鈥檙 gymuned wedi bod yn hollol amazing, 鈥檇an ni mor ddiolchgar iddyn nhw am bob dim,鈥 meddai Leila.

Disgrifiad o'r llun, "Ma鈥檙 cyflwr mor gymhleth ac mae dros gant o wahanol isdeipiau hefyd felly mae cael diagnosis yn gallu bod yn anodd," meddai Luke Davies

Yn 么l Luke Davies sy鈥檔 nyrs arbenigol sarcoma yn Ysbyty Singleton, Abertawe, mae鈥檙 cyflwr 鈥渕or gymhleth ac mae dros gant o wahanol isdeipiau hefyd felly mae cael diagnosis yn gallu bod yn anodd".

"Yn aml iawn dydi teuluoedd a ffrindiau'r person sy鈥檔 dioddef heb glywed am y cyflwr o鈥檙 blaen,鈥 ychwanegodd.

Yn 么l elusen Sarcoma UK, er bod 'na gynnydd wedi鈥檌 wneud dros y blynyddoedd, mae angen 鈥渃odi rhagor o ymwybyddiaeth鈥 ar frys.

Maen nhw鈥檔 pwysleisio bod sicrhau arian yn her a bod ymchwil i sarcoma yn cael llai o sylw ac arian o鈥檌 gymharu 芒 chyflyrau canser mwy cyffredin.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod canser yn un o flaenoriaethau鈥檙 gwasanaeth iechyd yng Nghymru a'u bod yn buddsoddi鈥檔 fawr mewn offer ac adnoddau.

Mae鈥檙 gwaith, medd llefarydd, yn rhan o鈥檜 hymdrechion i geisio gwella diagnosis a thriniaeth canser gan gynnwys canserau prin.

Ddydd Sadwrn bydd teulu Nansi yn cerdded i fyny'r Wyddfa i godi ymwybyddiaeth am y cyflwr ac i godi arian at elusen Sarcoma UK.

Yn 么l Leila maen nhw鈥檔 gwneud hynny i Nansi ond yn fwy na dim i鈥檙 elusen.

鈥淢a gennym ni dudalen Just Giving gyda targed o 拢500 i ddechrau 鈥 nathon ni gyrraedd mewn 3 diwrnod.

"Erbyn rwan da ni wedi cyrraedd 拢939 a dwi鈥檔 gobeithio y byddan ni鈥檔 cyrraedd y mil a chael gymaint o ymwybyddiaeth 芒 phosib. Os nawn ni helpu un teulu neu un plentyn fyddan ni鈥檔 hapus.鈥