麻豆官网首页入口

Terry Tuffrey a'i freuddwyd i fod yn DJ

Disgrifiad,

Mae camer芒u S4C wedi dilyn Terry Tuffrey am flwyddyn wrth iddo anelu i wireddu ei freuddwyd

  • Cyhoeddwyd

Ar raglen Drych ar S4C nos Sul y 23ain o Ebrill fe fyddwn ni鈥檔 dod i adnabod dyn ifanc ysbrydoledig o Danygrisiau yng Ngwynedd.

Mae Terry Tuffrey yn 22 mlwydd oed ac mae ganddo anawsterau dysgu cymedrol. Ei freuddwyd yw bod yn DJ a dros y flwyddyn ddiwethaf mae camer芒u Cwmni Da wedi bod yn ei ddilyn wrth iddo raddio a mynd amdani i geisio gwireddu ei freuddwyd.

Cafodd Aled Hughes o 麻豆官网首页入口 Radio Cymru sgwrs gyda Terry am ei raglen a鈥檌 ddyheadau eraill ar gyfer y dyfodol.

鈥淒ros y flwyddyn ddwytha鈥 mae Cwmni Da wedi bod yn hollol wych efo fi oherwydd maen nhw wedi bod yn ffilmio fi鈥檔 mynd i wahanol lefydd ac yn ffilmio fy niddordebau i. Ond y prif ddiddordeb sydd gen i wrth gwrs ydi DJio.鈥

Ffynhonnell y llun, Cwmni Da
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ymddangosodd Terry ar y rhaglen Canu Gyda Fy Arwr, sef Elin Fflur

Mae鈥檔 angerddol dros gerddoriaeth a dyna sy鈥檔 bwydo ei awydd i fod yn DJ meddai,

鈥淏e鈥 dwi'n gael o gerddoriaeth ydi pleser yn fwy na dim. Os ydach chi, fel petai, yn cael diwrnod anodd neu drist a dydach chi jyst ddim isio gwneud dim byd, ond 'wyrach mynd am dro a gwrando ar fiwsig. Mi fyswn i bendant yn gwrando ar fiwsig... achos neith o wir godi eich ysbryd chi.鈥

A pha gerddoriaeth sy鈥檔 mynd 芒鈥檌 fryd?

鈥淧wy dwi'n licio yn canu ydy Elin Fflur wrth gwrs. Ges i y fraint a鈥檙 anrhydedd o ganu gyda hi ar 'Canu Gyda Fy Arwr'. A Gai Toms. Ddim yn unig mae o efo caneuon da ond mae o hefyd yn byw yn agos iawn ar stepan drws fi! Ia, a wedyn yn y byd canu Saesneg dw i鈥檔 licio Little Mix achos maen nhw wastad yn canu caneuon hapus lle dach chi鈥檔 gallu dawnsio iddyn nhw.鈥

Ffynhonnell y llun, Cwmni Da
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aeth Terry i'r 麻豆官网首页入口 ym Mangor i ddysgu am gynhyrchu radio a chyd-gyflwyno

Yn rhan o鈥檙 rhaglen mae Terry wedi bod yn ei ffilmio fe fuodd o yn y 麻豆官网首页入口 ym Mangor yn dysgu am gynhyrchu radio a chyd-gyflwyno yn fyw ar yr awyr. Holodd Aled o a oedd hynny wedi selio鈥檙 freuddwyd o fod yn DJ?

鈥淒w i鈥檔 gwybod sut mae radio a cerddoriaeth yn cael ei llwytho mewn i wahanol raglenni radio sydd yn wych. Dw i wedi cael cynnig profiad gwaith yn y 麻豆官网首页入口 yn ddiweddar felly dw i鈥檔 si诺r unwaith y bydda i鈥檔 cael 鈥榗hydig fwy o brofiad mi fydda i鈥檔 ddigon aeddfed i allu gwneud y penderfyniad cywir i mi. 鈥

Ffynhonnell y llun, Cwmni Da

Ond nid dim ond cerddoriaeth a DJio sy鈥檔 cadw Terry鈥檔 brysur y dyddiau hyn. Mae wedi dechrau dysgu Sbaeneg am fwy nag un rheswm.

鈥淢ae dysgu Sbaeneg wedi dod yn bwysig iawn i mi hefyd dros y blynyddoedd dwytha 鈥榤a oherwydd mae gynnon ni gartra ein hunain drosodd yn Tenerife a 鈥榙an ni鈥檔 licio mynd drosodd yna o leia鈥 unwaith y flwyddyn.

鈥淢ae dysgu Sbaeneg pan 鈥榙a chi drosodd yn Sbaen yn teimlo i fi yn hynod o bwysig achos, yndi mae鈥檙 iaith Saesneg yno, ond weithiau 鈥榳yrach eich bod chi angen mynd i rywle gwledig neu gyfarfod pobl sydd ddim yn gallu siarad Saesneg, so os 鈥榙ach chi yn gallu siarad Sbaeneg wel o leia鈥 鈥榙ach chi鈥檔 gallu conversio hefo nhw sy鈥檔 beth da iawn iawn.鈥

Ffynhonnell y llun, Cwmni Da

Ond yn yr hydref eleni, fel fydd Terry yn cael cyfle arall i ymarfer ei Sbaeneg gan ei fod yn mynd i Batagonia.

鈥淒w i鈥檔 mynd i Patagonia adeg Eisteddfod y Wladfa. Rydw i wedi ennill ysgoloriaeth i fynd i Patagonia trwy Gyngor Tref Ffestiniog.鈥

Yn ei gais am yr ysgoloriaeth roedd angen iddo nodi beth hoffai ei wneud tra鈥檌 fod o yno.

鈥淵 tair elfen nes i ddewis ohonyn nhw ydy i ganfod mwy am anableddau mewn ysgolion, ffendio allan am sefydliadau amgylcheddol newid hinsawdd a hefyd y trydydd elfen ydy ymweld 芒 Chlwb Rygbi y Ddraig Goch yn y Gaiman i drio cadw鈥檙 cysylltiad Cymreig i fynd rhwng Patagonia a Chymru.鈥

Gallwch glywed sgwrs Terry ac Aled ar 麻豆官网首页入口 Sounds.

Bydd Drych: DJ Terry ar S4C am 21:00 nos Sul, Ebrill 23 ac ar gael ar S4C Clic a 麻豆官网首页入口 iPlayer wedi hynny.