麻豆官网首页入口

Gostyngiad 'brawychus' mewn ceisiadau prifysgol o Gymru

MyfyrwyrFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

33.8% o bobl ifanc 18 oed sydd wedi gwneud cais i fynd i brifysgol yn 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae cwymp "brawychus" wedi bod yn nifer y bobl ifanc o Gymru sy'n gwneud cais i fynd i'r brifysgol, yn 么l corff sy'n cynrychioli sefydliadau addysg uwch.

Mae Prifysgolion Cymru yn dweud mai Cymru sydd 芒'r gyfran isaf o bobl ifanc 18 oed sy'n gwneud cais am le mewn prifysgol o holl wledydd y Deyrnas Unedig.

Yn 么l ffigyrau UCAS - y corff sy'n gyfrifol am geisiadau i brifysgolion - 20,960 o geisiadau a gafodd eu gwneud eleni, y nifer isaf ers 2008.

Er y gostyngiad cyffredinol, mae nifer y ceisiadau i brifysgolion yng Nghymru wedi cynyddu dros 3% eleni - y cynnydd mwyaf mewn unrhyw ran o'r DU.

Mae ffigyrau UCAS yn dangos fod y bwlch yn y gyfradd ymgeisio rhwng pobl 18 oed yng Nghymru a gweddill y DU yn fwy nag ar unrhyw adeg ers dechrau cadw cofnodion.

0.8% oedd y ffigwr yn 2006, ond mae'r bwlch bellach yn 8.1%.

Ar draws y Deyrnas Unedig mae 41.9% o bobl ifanc 18 oed yn gwneud cais i fynd i brifysgol, ond 33.8% yw'r gyfradd yng Nghymru.

Mae Cymru hefyd wedi gweld gostyngiad sylweddol yng nghyfran y rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig sy鈥檔 gwneud cais i fynd i brifysgol.

Diwydiannau yn 'dibynnu ar raddedigion'

Dywedodd Amanda Wilkinson, cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru, y bydd gan y gostyngiad mewn ceisiadau "oblygiadau hirdymor i Gymru".

"Mae data UCAS heddiw unwaith eto鈥檔 dangos maint yr her cyfranogiad sy'n wynebu Cymru, gyda nifer yr ymgeiswyr o Gymru yn gostwng i'r lefel isaf ers 15 mlynedd.

"Mae i鈥檙 gostyngiad hwn oblygiadau hirdymor i Gymru. Mae鈥檙 diwydiannau a fydd yn sbarduno ein twf economaidd yn y degawdau i ddod yn dibynnu鈥檔 helaeth ar raddedigion.

"Ond nid ein heconomi a鈥檔 gwasanaethau cyhoeddus yn unig fydd yn dioddef; byddai pobl hefyd yn elwa o鈥檙 profiad trawsnewidiol yn sgil addysg uwch."

Ychwanegodd Ms Wilkinson ei bod yn "galonogol" gweld fod Cymru'n parhau i fod yn gyrchfan boblogaidd i fyfyrwyr, gan nodi hefyd mai Cymru yw'r unig ran o'r DU i weld cynnydd mewn ceisiadau gan israddedigion rhyngwladol.

Ffynhonnell y llun, Syr Deian Hopkin
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd yr Athro Syr Deian Hopkin mai "ychydig iawn o esboniad sydd" i'r ffigyrau

Yn 么l yr Athro Syr Deian Hopkin, oedd yn is-ganghellor ar Brifysgol South Bank yn Llundain ac sydd wedi cynghori ar bolisi addysg uwch ers rhai blynyddoedd, mae prifysgolion yn wynebu "argyfwng deublyg".

"Ma' hi braidd yn gymhleth, gan fod y nifer sy'n gwneud ceisiadau ar draws y DU wedi gostwng am yr ail flwyddyn yn olynol - lawr o 44% i 41% - ond wrth gwrs ma' hyn dipyn yn uwch na'r oedd hi gynt," meddai ar Dros Frecwast.

"Mi oedd yna gynnydd, a nawr ma' 'na ostyngiad.

"Ni'n gwybod fod nifer y bobl o ardaloedd difreintiedig [sy'n gwneud ceisiadau] wedi gostwng ar y cyfan, a falle bo' hynny'n ffactor mwy yng Nghymru o'i gymharu 芒 de-ddwyrain Lloegr.

"Ar yr un pryd, ydy'r ddyled o bosib yn ffactor? Mae'r ddyled wedi codi yn syfrdanol. Ydy'r ddyled yna yn troi nhw off? Oes dewis arall i gael er mwyn cael cymwysterau?"

Ychwanegodd yr Athro Hopkin: "Y broblem ydy, mae gyda ni ddisgrifiad o'r hyn sydd wedi digwydd, ond ychydig iawn o esboniad sydd.

"Mae cwestiynau yn si诺r o godi nawr yngl欧n 芒 safon addysg safon uwch yng Nghymru - yw e wedi gostwng mwy yng Nghymru na mewn rhannau eraill o'r DU?

"Ond problem arall i brifysgolion yw, hyd yn oed os oes mwy o fyfyrwyr o gartre' yn dod fewn i Gymru, mae nifer y myfyrwyr tramor wedi gostwng - ac arnyn nhw maen nhw'n dibynnu fwyaf am arian.

"Dydi addysgu pobl leol ddim yn talu ei ffordd fel yr oedd hi gan fod ffioedd wedi rhewi, felly mae 'na argyfwng deublyg yma.

"Dwi'n si诺r fydd pobl yn gofyn a oes 'na gwestiynau mwy strwythurol i wneud efo gwleidyddiaeth addysg yng Nghymru, ac yn y pendraw, ceisiadau yw'r rhain, nid nifer y bobl sy'n dod mewn."

Pynciau cysylltiedig