麻豆官网首页入口

Bwyd Hud gan Dylan - stori fuddugol Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd

Dylan o Ysgol Gynradd Gymraeg Pen-y-Groes, Caerdydd yw un o enillwyr Cystadleuaeth Sgwennu Stori Aled Hughes ar 麻豆官网首页入口 Radio Cymru eleni.

Daeth Dylan yn fuddugol yn adran Cyfnod Allweddol 2B. Yr awdures Casia Wiliam oedd y beirniad mewn cystadleuaeth gref. Y gofynion oedd ysgrifennu stori dan y thema hud a lledrith.

Fel gwobr, fe luniodd yr artist Huw Griffiths lun clawr i stori Dylan.

Mwynhewch stori Dylan, Bwyd Hud.

Bwyd Hud

Ffynhonnell y llun, Huw Griffiths
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bwyd Hud gan Dylan

Un tro, roedd meteor wedi taro mewn i鈥檙 Ddaear. Daeth i stop ar ben creigiau miniog Ynys M么n.

Dechreuodd ollwng tonnau hud a deithiodd o gwmpas y byd ac i mewn i bob siop. Roedd y tonnau鈥檔 edrych fel tonnau鈥檙 m么r ond yn amryliw ac yn dryloyw.

Doedden nhw ddim yn taro yn erbyn unrhyw beth ond yn treiddio trwy bopeth.

Ym mhob siop, unwaith i鈥檙 tonnau eu cyffwrdd, roedd ffrwythau a llysiau yn dod yn fyw.

Roedd yn broses araf i鈥檙 ffrwythau. Roedden nhw鈥檔 ddiog a ddim eisiau codi o鈥檜 gwl芒u clud, tra roedd y llysiau yn codi fel milwyr, fel petai nhw鈥檔 mynd i frwydro.

Aeth y llysiau draw i鈥檙 eil ffrwythau a gofyn iddyn nhw os oedden nhw eisiau cymryd y byd drosodd.

Dywedodd y ffrwythau 鈥淣a!鈥, felly dywedodd y llysiau, 鈥淩ydyn ni鈥檔 mynd i gymryd dros eich eil!鈥

Dechreuodd y brocoli rwygo eu blodau a鈥檜 defnyddio fel clwb i daro鈥檙 ffrwythau. 鈥淎ww!鈥 sgrechiodd y tomatos.

Roedden nhw鈥檔 mathru a鈥檜 sudd yn gollwng dros lawr yr eil.

Roedd y bananas yn agor eu croen fel siaced ac yn defnyddio y croen fel bwa.

Cydion nhw mewn ffyn cebab i saethu at y llysiau. Roedden nhw鈥檔 llwyddiannus wrth daro鈥檙 blodfresych.

Cynddeiriodd hyn y llysiau ac ymatebodd y pupur drwy rolio tatws ar draws y llawr fel eu bod yn bwrw dros y gellyg fel piniau bowlio.

Yn ystod y frwydr cododd y llysiau eu brenin 鈥 Winwnsyn 鈥 uwch eu pennau er mwyn iddo siarad gyda brenin y ffrwythau 鈥 Draigffrwyth.

鈥淭i'n meddwl bo' ti mor gryf Draigffrwyth! Ond ti鈥檔 wan.鈥

Atebodd y Draigffrwyth 鈥淗a! Ha! Ha! Rydw i wedi hyfforddi fy milwyr yn well nag wyt wedi hyfforddi dy rhai di!鈥

鈥淔alle bod dy filwyr di鈥檔 felys ond o leia dydyn ni ddim yn malu fel dy domatos di!鈥 bloeddiodd Winwnsyn.

鈥淥nd ni sydd 芒鈥檙 tir uwch ac felly鈥檙 fantais!鈥

A gyda hynny ymunodd y brenhinoedd yn y frwydr.

Rhwygodd Winwnsyn haenau o鈥檌 groen a鈥檜 lluchio at y ffrwythau.

Yn syth, dechreuodd eu llygaid i ddyfrio a doedden nhw ddim yn gallu gweld a ddim yn gallu brwydro.

Glaniodd darn o winwnsyn ar ben Draigffrwyth a waeddodd 鈥淗eeeelp!"

Wrth iddo geisio tynnu鈥檙 croen winwns oddi arno, cyrhaeddodd banana i saethu ffyn cebab at Winwnsyn.

Tarodd un ffon fraich Winwnsyn a ollyngodd ei fforc bach pren a chrio.

鈥淢ae wedi cael fi, mae wedi cael fi!鈥

Erbyn hyn, llwyddodd Draigffrwyth i dynnu鈥檙 croen winwnsyn fel ei fod yn gallu gweld a pigodd fforc Winwnsyn i fyny a鈥檌 daflu o鈥檌 ysgwydd fel siotpwter.

Glaniodd y fforc yn nhalcen Winwnsyn. Cwympodd Winwnsyn i鈥檙 llawr yn farw.

Distawodd yr eil. Edrychodd pob llygad ar gorff Winwnsyn ar y llawr.

Deallodd y llysiau eu bod wedi colli a dechreuon nhw encilio.

Rhwygodd y bananas eu crwyn a defnyddio鈥檙 crwyn i glymu dwylo a thraed y llysiau fel na allen nhw symud.

Taflon nhw pob llysieuyn i鈥檙 rhewgell. Heb siacedi, roedden nhw鈥檔 oer.

Aethant ati i blisgo siacedi鈥檙 tatws a鈥檜 gwisgo fel cotiau eu hunain.

Wedyn aethant yn 么l i鈥檞 bocsys ar yr eil. Gwnaethant eu hunain yn gyfforddus, caeon nhw eu llygaid a mynd yn 么l i gysgu.

Y Diwedd.