麻豆官网首页入口

Graffiti wedi'i lanhau oddi ar dirnod poblogaidd Caerdydd

Trig GarthFfynhonnell y llun, Cyngor Cymuned Pentyrch
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y garreg ar Fynydd y Garth i'r gogledd o Gaerdydd 么l iddo gael ei ail-baentio

  • Cyhoeddwyd

Mae carreg ar lwybr cerdded poblogaidd ger Caerdydd wedi'i ail-baentio ar 么l iddo gael ei fandaleiddio dros y penwythnos.

Roedd llun stensil o ddraig goch ar y graig ar Fynydd y Garth, ond fe ddaeth cerddwyr o hyd iddi wedi鈥檌 chwistrellu gyda graffiti ddydd Sadwrn.

Roedd y graffiti yn dweud: "The dragon has choked on SUV fumes. RIP."

Mae'r garreg wedi cael ei lanhau a'i ail-baentio erbyn hyn, yn 么l Cyngor Cymuned Pentyrch.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd rhywun wedi chwistrellu dros y llun stensil o ddraig goch

O gopa鈥檙 bryn sydd dros 1,000 o droedfeddi, mae modd gweld golygfeydd godidog o Gaerdydd, Penarth ac arfordir de Cymru

Rhannodd cerddwr lun o'r difrod ar X, gan ddweud: "Mae rhyw ff诺l wedi fandaleiddio'r garreg ar fynydd Y Garth."

Atebodd un person gan ddisgrifio'r graffiti fel "fandaliaeth ddifeddwl", tra dywedodd un arall ei fod yn "beth gwarthus i'w wneud mewn man mor hyfryd".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyn cael ei fandaleiddio, roedd modd gweld llun stensil o ddraig goch ar y copa