麻豆官网首页入口

Eryri: 'Lleiafrif yn anwybyddu negeseuon parcio'

Arwydd parth towio ffwrdd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Er nad oedd y broblem yn agos i fod gynddrwg 芒 Phasg y llynedd, dywedodd Parc Cenedlaethol Eryri fod "lleiafrif yn penderfynu anwybyddu ein negeseuon"

  • Cyhoeddwyd

Mae "lleiafrif" o'r ymwelwyr ag Eryri yn "parhau i anwybyddu negeseuon am barcio'n gyfrifol", yn 么l y Parc Cenedlaethol.

Gyda rhai o brif atyniadau Eryri wedi bod "yn brysur" dros y Pasg, roedd miloedd wedi manteisio ar y tywydd ffafriol a'r penwythnos hir.

Y llynedd cafodd bron i 30 o gerbydau eu towio am barcio peryglus ar yr A5 yn ardal Llyn Ogwen ar ddydd Gwener y Groglith.

Ond er nad oedd y broblem yn agos i fod cynddrwg eleni, dywedodd Parc Cenedlaethol Eryri fod " lleiafrif yn penderfynu anwybyddu ein negeseuon ac arwyddion am barcio鈥檔 gyfrifol o gwmpas ardaloedd prysur megis Pen y Pass ac Ogwen".

Serch hyn diolchodd Cyngor Gwynedd i'r "mwyafrif llethol o ymwelwyr a ddangosodd barch i鈥檙 gofynion hyn".

Yn 么l Parc Cenedlaethol Eryri penwythnos y Pasg oedd "heb os" y cyfnod prysuraf hyd yn hyn eleni.

Ond ychwanegodd llefarydd "nad oedd wedi bod mor brysur 芒'r llynedd", yn 么l adroddiadau.

"Roedd hi鈥檔 braf gweld llawer o bobl yn dychwelyd i鈥檙 ardal dros 糯yl y Banc ond ar y llaw arall yn anffodus roedd lleiafrif wedi penderfynu anwybyddu ein negeseuon ac arwyddion am barcio鈥檔 gyfrifol o gwmpas ardaloedd prysur megis Pen y Pass ac Ogwen."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cynlluniau parcio a theithio ar waith i geisio ymateb i'r broblem parcio

"Rydym yn gweithio mewn partneriaeth 芒 Heddlu Gogledd Cymru, Traffig Cymru a Chynghorau Gwynedd a Chonwy er mwyn galluogi bod cynifer o bobl 芒 phosib yn gallu cyrraedd yr ardaloedd poblogaidd, ac mae yna systemau a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus mewn lle i bobl wneud hynny mewn ffyrdd cyfrifol a chynaliadwy.

"Byddwn yn parhau i weithio鈥檔 agos gyda鈥檔 partneriaid gydol y flwyddyn er mwyn sicrhau bod pawb sy鈥檔 dymuno yn gallu mwynhau'r cyfan sydd gan Eryri i鈥檞 gynnig,鈥 ychwanegodd llefarydd.

'Diolchgar i'r mwyafrif'

Ar un diwrnod yn unig yn ystod penwythnos y Pasg 2023 cafodd 29 o gerbydau eu hadfer am barcio peryglus ar y ffyrdd cul ger Llyn Ogwen.

Cafodd naw cerbyd arall eu tynnu yn ardal Pen-y-Pass ger yr Wyddfa.

Doedd dim awgrym fod y broblem yn agos i fod cynddrwg eleni, ond bydd ymdrechion yn parhau i annog parcio synhwyrol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd penwythnos y Pasg "heb os y cyfnod prysuraf hyd yn hyn eleni" ond "nid mor brysur 芒'r llynedd", yn 么l adroddiadau

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: 鈥淔el cyngor, rydym yn gweithio gyda鈥檔 partneriaid o awdurdodau eraill er mwyn annog cydbwysedd rhwng hybu鈥檙 economi leol, gwarchod yr amgylchedd ac amddiffyn ein cymunedau lleol.

鈥淩ydym yn ddiolchgar i鈥檙 mwyafrif llethol o ymwelwyr a ddangosodd barch i鈥檙 gofynion hyn, drwy barcio鈥檔 gyfrifol, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pan fo鈥檔 bosib a mynd 芒鈥檜 sbwriel gartref gyda nhw."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y llynedd cafodd sawl cerbyd eu tynnu am barcio'n anghyfreithlon

Ychwanegon nhw byddai ymdrechion yn parhau dros gyfnod yr haf i annog defnydd o feysydd parcio pwrpasol.

鈥淒ros yr wythnosau a鈥檙 misoedd sydd i ddod ac wrth i鈥檙 tymor ymwelwyr ddwys谩u, rydym yn parhau i annog ymwelwyr i wneud eu trefniadau o flaen llaw er mwyn sicrhau eu diogelwch eu hunain ac eraill - er enghraifft gwirio ble mae鈥檙 meysydd parcio ac os oes angen talu.

鈥淢ae鈥檔 bwysig fod ein ffyrdd yn glir er mwyn sicrhau llif traffig ac wrth gwrs i ganiat谩u鈥檙 gwasanaethau brys i fedru gwneud eu gwaith.

"Mae ein swyddogion yn gallu cymryd camau i symud cerbydau sydd yn parcio鈥檔 anghyfreithlon, a hynny er diogelwch y cyhoedd.鈥