AS eisiau gwella'r broses o gael diagnosis anhwylder deubegwn

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Gareth Davies AS ddiagnosis o anhwylder deubegwn yn 2020
  • Awdur, Garry Owen
  • Swydd, Gohebydd arbennig 麻豆官网首页入口 Radio Cymru

Mae aelod o'r Senedd sy'n byw gydag anhwylder deubegwn (bipolar) yn galw am wella'r broses o gael diagnosis o'r cyflwr yng Nghymru.

Cafodd Gareth Davies, Aelod Ceidwadol yn Senedd Cymru, wybod fod ganddo anhwylder deubegwn yn 2020.

Mae鈥檙 cyflwr yn effeithio ar hwyliau person, sydd yn gallu mynd o un pegwn eithafol i'r llall - o fod yn uchel iawn (mania) i fod yn isel iawn.

Mae Mr Davies nawr yn cychwyn fel llysgennad i elusen Bipolar UK, ac yn galw am wella鈥檙 broses o gael diagnosis.

"Mae disgwyl diagnosis yn creu ansicrwydd ac amheuaeth, ac ma' hyn yn ychwanegu at broblemau wrth reoli'r symptomau," meddai.

Mae Llywodraeth Cymru yn "cydnabod y cymhlethdodau o ran cael diagnosis o anhwylder deubegynol" ac yn dweud eu bod wedi buddsoddi mwy na 拢2m mewn rhaglen newydd i "wella mynediad, ansawdd a chanlyniadau ein gwasanaethau iechyd meddwl".

Roedd Mr Davies wedi bod yn amau fod ganddo'r cyflwr am beth amser cyn y diagnosis.

Ar un prynhawn Sul yn 2020 fe aeth i uned achosion brys ei ysbyty lleol am fod ganddo "syniadau ei fod am ladd ei hun".

Fe gafodd wely yn yr ysbyty ac yno cafodd ddiagnosis o anhwylder deubegwn.

Fe ddechreuodd broses ddwys o driniaeth yn cynnwys meddyginiaeth a therapi siarad.

"Rwy'n well person ar 么l hyn," meddai.

"Ond roedd hyn ond yn bosib diolch i waith t卯m o weithwyr proffesiynol a chefnogaeth fy ngwraig, teulu a ffrindiau."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Mae Gareth Davies yn galw am wella鈥檙 broses o gael diagnosis am y cyflwr yng Nghymru

Yn 么l Comisiwn Deubegwn Cymru, ar gyfartaledd, mae'n cymryd bron i 12 mlynedd o s么n wrth feddyg am y symptomau i gael diagnosis.

Mae hynny'n cymharu 芒 bron i naw mlynedd a hanner yn Lloegr.

"Dyw hynny ddim yn ddigon da" meddai Gareth Davies, sy'n dweud ei fod yn ddyn gwahanol ar 么l "cael gwybod yn union beth oedd o'i le."

"Diagnosis yw鈥檙 man cychwyn ac o fan鈥檔a ydych chi鈥檔 gallu adnabod a deall y symptomau a sut mae delio 芒 nhw a'u rheoli."

'Angen diagnosis cynnar'

Mae Simon Kitchen, prif weithredwr elusen Bipolar UK, yn dadlau fod pobl sydd ag anhwylder deubegwn angen "diagnosis cynnar a thriniaeth arbenigol".

"Bydd hyn yn eu helpu i gael bywydau da a hir," meddai.

Yn 么l arbenigwyr, mae oedi wrth gael diagnosis a thriniaeth yn gallu arwain at broblemau.

Mae Dr Raman Sakhuja, ymgynghorydd seiciatryddol a sylfaenydd Canolfan Seiciatryddol Cymru, yn dweud fod ystadegau'n awgrymu fod gan bobl ag anhwylder deubegynol gyfraddau marwolaethau sy'n llawer uwch na'r boblogaeth gyffredinol.

Disgrifiad o'r llun, Mae Dr Raman Sakhuja yn dweud bod angen gwella dealltwriaeth o anhwylder deubegwn

"Mae angen gwella dealltwriaeth o'r cyflwr," meddai.

"Yr hyn fyddwn i'n debygol o wneud yn y practis yw, unrhyw un sydd ag iselder, fe fydden nhw'n cael eu sgrinio am gyflwr deubegwn.

"Yn fy mhrofiad i mae pobl sydd 芒'r cyflwr ac sydd wedi cael diagnosis eithaf hwyr, maen nhw wedi treulio blynyddoedd lawer ddim yn gallu bod yn gynhyrchiol neu yn teimlo鈥檔 ddryslyd ynghylch yr hyn sy'n digwydd iddyn nhw.

"Ar 么l cael y diagnosis mae'n caniat谩u iddyn nhw ddeall mewn gwirionedd beth yw'r cyflwr ac yna mae'n agor y drws ar gyfer triniaeth."

'Fues i yn lwcus iawn'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod y cymhlethdodau o ran cael diagnosis o anhwylder deubegynol ac mae鈥檔 rhaid i ni sicrhau bod cefnogaeth iechyd meddwl dda ar gael i bobl, beth bynnag fo鈥檙 diagnosis".

"I gefnogi鈥檙 gwaith hwn, rydym wedi buddsoddi mwy na 拢2m yng Ngweithrediaeth y GIG i sefydlu rhaglen newydd ar gyfer iechyd meddwl er mwyn gwella mynediad, ansawdd a chanlyniadau ein gwasanaethau iechyd meddwl.鈥

Mae Mr Davies yn dweud ei fod yn benderfynol o sicrhau fod pobl yn cael yr un help ag ef i fyw ag anhwylder deubegwn.

"Fe fues i yn lwcus iawn," meddai.

"Roedd yna bobl yn yr ysbyty ar y p'nawn Sul yna yn 2020, oedd yn gallu helpu a sicrhau bod gwely a thriniaeth ar gael i fi.

鈥淧etai nhw wedi dweud wrtha i am fynd i ffwrdd a gweld fy meddyg teulu'r diwrnod canlynol, mae yn ddigon posib na fyddwn i yma i adrodd yr hanes."

Mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar wefan 麻豆官网首页入口 Action Line.