麻豆官网首页入口

Y Seintiau Newydd allan o Gynghrair Europa

Cafodd Jordan Williams gerdyn coch ar 么l i VAR ymyrrydFfynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Jordan Williams gerdyn coch ar 么l i VAR ymyrryd

  • Cyhoeddwyd

Collodd y Seintiau Newydd y cyfle i greu hanes nos Fawrth wrth iddyn nhw golli yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa.

Petai'r Seintiau wedi gallu ennill nos Fawrth, nhw fyddai'r t卯m cyntaf o Gymru i lwyddo yn rowndiau rhagbrofol Ewrop a chwarae gemau gr诺p yng Nghynghrair Europa neu Gyngres Uefa.

Roedd y Seintiau ar ei h么l hi o 1-0 ers y cymal cyntaf yn erbyn Petrocub o Moldofa.

Ond di-sg么r oedd hi ar gae Neuadd y Parc, a hynny ar 么l i'r ddau d卯m fynd lawr i 10 dyn.

Cafodd Jordan Williams gerdyn coch ar 么l 40 munud am daro Ion Jardan gyda'i benelin.

Saith munud yn ddiweddarach roedd yr ymwelwyr hefyd wedi colli chwaraewr wrth i Dan Puscas gael ei hel o'r maes.

Er gwaethaf cyfleoedd i Daniel Redmond a Declan McManus i'r Seintiau, ni lwyddon nhw i ganfod y rhwyd.

Y sg么r terfynol dros y ddau gymal oedd Y Seintiau Newydd 0-1 Petrocub.