Dim trosedd yn achos rhifau cerbyd AS, yn 么l yr heddlu

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Llafur bellach wedi codi gwaharddiad gweinyddol Ms Passmore

Mae'r blaid Lafur wedi codi'r gwaharddiad ar un o'u haelodau yn Senedd Cymru ar 么l i'r heddlu, oedd yn ymchwilio i honiadau yn ymwneud 芒 rhifau ei char, ddweud nad oes unrhyw drosedd wedi ei nodi.

Fe gafodd AS Islwyn, Rhiannon Passmore ei hatal o'r blaid yn weinyddol nos Fercher, wedi i luniau ddod i'r amlwg ohoni yn gyrru car gyda dau rif gwahanol arno.

Dywedodd Heddlu'r De fod y t芒p gludiog oedd yn cael ei ddefnyddio i ddal rhif y car yn "aneffeithiol", ac o ganlyniad fe ddisgynnodd y rhif o'r cerbyd.

Yn dilyn datganiad y llu, cyhoeddodd y blaid Lafur nad oedd Ms Passmore bellach wedi ei gwahardd.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Lafur: "Mae'r Blaid Lafur yn disgwyl i'n cynrychiolwyr etholedig gynnal y safonau uchaf mewn bywyd cyhoeddus".

Disgrifiad o'r llun, Roedd dau rif ar y car oedd wedi ei barcio yn y Senedd ym Mae Caerdydd

Rhif blaenorol y car, a ddaeth i ben yn gynharach eleni, oedd i'w weld 芒 th芒p gludiog arno.

Mewn datganiad, fe ddywedodd yr heddlu: 鈥淢ae Heddlu De Cymru wedi ymateb i adroddiad am rif cerbyd diffygiol ar gar yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

"Mae'n ymddangos fel bod y t芒p gludiog oedd yn cael ei ddefnyddio i ddal rhif y car yn aneffeithiol, ac o ganlyniad fe ddisgynnodd y rhif o'r cerbyd.

"Mae'r car yn parhau ar dir preifat, ac o ganlyniad i hynny, nid oes unrhyw drosedd wedi ei nodi.

"Mae perchennog y car yn ymwybodol o'r mater."

Fe gafodd Ms Passmore ei gwahardd gan y Blaid Lafur nos Fercher wedi i'r honiadau gwreiddiol ymddangos ar wefan Guido Fawkes.

Golyga ei gwaharddiad fod Llafur Cymru 芒 llai na hanner y seddi yn y Senedd - 29 o'r 60 - am gyfnod.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y blaid ddydd Mercher: "Mae'r Blaid Lafur yn cymryd ymddygiad ein holl gynrychiolwyr etholedig yn wirioneddol o ddifri ac mae pob cwyn yn cael eu hymchwilio yn unol 芒 gweithdrefn cwynion y blaid."