麻豆官网首页入口

Ffioedd fflatiau wedi dyblu er eu bod yn 'ffiaidd'

Fflatiau, Sir G芒r
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ffioedd gwasanaethau cynnal a chadw y fflatiau yma yn Sir G芒r wedi codi dros 拢100 yn y flwyddyn ddiwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae trigolion bloc o fflatiau yn Sir G芒r wedi gweld eu ffioedd cynnal a chadw yn bron a dyblu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r ffi yma yn talu am wasanaethau cynnal a chadw, ond yn 么l rhai sy鈥檔 byw yno mae ei gyflwr yn 鈥渇fiaidd鈥.

Mae'r cwmni sy'n rhedeg Llys Newydd yn Llwynhendy wedi'i leoli yn Birmingham, ac mae trigolion yn dweud nad ydyn nhw'n ymweld 芒鈥檙 safle yn rheolaidd.

Dywedodd un sydd wedi byw yno am bedair blynedd: 鈥淒ydyn nhw ddim yn ein trin ni fel pobl, maen nhw鈥檔 ein trin fel rhifau.鈥

Mae'r Principle Estate Management, sy'n rhedeg yr adeilad, wedi gwrthod gwneud sylw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dydy Mandy ddim yn gwahodd ffrindiau draw i'w chartref oherwydd ei bod yn teimlo cywilydd

Symudodd Mandy Francis, 64, i'w fflat yn 2019. Ar y pryd roedd hi'n hapus gyda'i phenderfyniad.

Ond yna, dechreuodd ffioedd cynnal a chadw godi o 拢1,080 i dros 拢2,647 y flwyddyn.

Ond er y cynnydd, mae trigolion yn dweud fod cyflwr yr adeilad wedi dirywio.

Mae Mandy yn teimlo gormod o gywilydd i gael ffrindiau draw i鈥檞 chartref.

'Bl锚r, llaith, drewi'

鈥淥s allwn i ei chludo hi [ei ffrind] o鈥檌 char i mewn i fy fflat byddwn i鈥檔 hapus, ond i gael hi鈥檔 cerdded drwy鈥檙 fynedfa dwi鈥檔 meddwl 鈥榦 na, alla i ddim gwneud hynny鈥," meddai.

鈥淢ae鈥檙 ardaloedd blaen yn ofnadwy. Mae'n fl锚r, mae'n llaith, mae'n drewi.鈥

Yn 么l Mandy dyw Principal Estate Management ddim yn ymweld 芒'r safle yn rheolaidd.

"Dydyn nhw ddim yn gwybod ein sefyllfa yma. Ni ddim ar gyflogau Llundain.

"Byddwn i'n dweud bod y rhan fwyaf o drigolion fel fi, ar isafswm cyflog."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae trigolion wedi cwyno i Principle Estate Management, sy'n rhedeg yr adeilad, ar sawl achlysur

Yn 么l Llywodraeth y DU mae'r rhan fwyaf o fflatiau yng Nghymru a Lloegr yn brydles (leasehold).

Mae hynny'n golygu, er bod trigolion yn berchen ar eu fflat am gyfnod o amser, dydyn nhw ddim yn berchen ar yr adeilad.

Mae lesddeiliaid yn talu'r rhydd-ddeiliad (freeholder) - perchnogion yr adeilad - trwy asiant rheoli, ar gyfer cynnal a chadw ardaloedd allanol a chymunedol.

Mae'r taliadau hyn yn cynnwys pethau fel paentio'r adeilad neu sicrhau bod mannau cymunedol yn l芒n.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l trigolion, dydy鈥檙 adeilad ddim wedi'i baentio ers 10 mlynedd

Y llynedd roedd Mandy yn cael triniaeth canser ac i ffwrdd o'r gwaith.

Mae hi'n dweud bod Principal Estate Management, wedi gofyn am daliad ychwanegol o 拢375 gan bob preswylydd ar gyfer costau cynnal a chadw.

Doedd Mandy ddim yn gallu talu'r ffi, ac mae'n honni iddi gael ei bygwth 芒 chamau cyfreithiol. Cafodd ei gorfodi i fenthyg arian gan aelod o'i theulu er mwyn ei dalu.

鈥淥鈥檔 i methu cysgu," meddai.

"Roedd yn gwneud y broses o wella o ganser yn anoddach oherwydd roeddwn i鈥檔 becso am arian drwy鈥檙 amser.

鈥淒ydyn nhw ddim yn ein trin ni fel pobl, maen nhw'n ein trin ni fel rhifau.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Prynodd Hefin Dafydd, 52, ei fflat y llynedd

Symudodd Hefin Dafydd, 52, i鈥檙 adeilad mis Rhagfyr 2023.

鈥淸Mae] pethau 鈥榙i rhydu neu ddiffyg paentio. Mae 鈥榥a dipyn o damprwydd tu mewn i鈥檙 fflatiau. Mae鈥檔 ofnadwy a鈥檔 weledol iawn," meddai.

Mae Hefin yn poeni am yr effaith gall y problemau diweddar gael ar werth ei fflat.

鈥淢ae rhywun eisiau gwerth y fflat i godi, felly heb gynnal a chadw dim ond un ffordd 'neith y pris fynd. Mae hynny yn fy mhoeni i.鈥

Ychwanegodd: 鈥淢ae dal yn gartref ar ddiwedd y dydd - fy nghartref i ydy o. Dwi jest efo pawb arall sy鈥檔 byw yma a鈥檔 gobeithio鈥檙 gorau am y dyfodol.鈥

'Angen llawer mwy o dryloywder'

Mae鈥檙 Mesur Diwygio Cyfraith Lesddaliad yn mynd drwy鈥檙 Senedd yn San Steffan ar hyn o bryd.

Yn 么l Llywodraeth y DU fe fydd yn gwella perchnogaeth tai i filiynau ar draws Cymru a Lloegr, drwy wella tryloywder taliadau gwasanaeth, ac ymestyn y brydles 990 mlynedd.

Byddai'r mesur hefyd yn golygu gwahardd unrhyw dai lesddaliad newydd, ond nid fflatiau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l trigolion, mae lleithder yn yr adeilad yn "ofnadwy a鈥檔 weledol iawn鈥

Mae Nia Griffith, AS Llanelli, eisiau gweld fflatiau yn cael eu gwahardd hefyd.

鈥淢ae鈥檔 bwysig iawn bod pob adeilad sy鈥檔 cael eu hadeiladu nawr ddim yn llesddaliad achos mae鈥檔 hen ffasiwn," meddai.

"Mae angen llawer mwy o dryloywder i bobl weld beth sy鈥檔 mynd 'mlaen a beth maen nhw鈥檔 talu amdano.

鈥淵 ffaith yw, unwaith chi wedi symud mewn ac mae ffioedd yn cynyddu a dydych chi ddim yn gallu talu, mae perygl eich bod chi鈥檔 colli鈥檆h t欧.鈥

Beth ddylai rhywun wneud yn y sefyllfa yma?

Mae鈥檙 Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau yn rhoi cyngor cyfreithiol ar faterion lesddaliad. Maen nhw'n cynghori pobl i:

  • Weithio gyda phreswylwyr eraill i ffurfio gr诺p preswylwyr lesddeiliaid;

  • Gall trigolion ystyried cymryd drosodd rheolaeth eu hadeilad o dan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 dan yr "Hawl i Reoli";

  • Cadw cofnod o lythyrau at y rheolwyr, cyfarwyddwyr neu landlordiaid;

  • Dylai lesddeiliaid dalu eu ffioedd yn gyntaf, ac yna mynd ati i鈥檞 herio.

'Hollol annerbyniol'

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn disgwyl i landlordiaid drafod 芒 phreswylwyr ynglyn 芒 chostau gwaith mawr, lle bo' cyfiawnhad dros hynny.

Ond ychwanegwyd bod codiadau na allen nhw gyfiawnhau yn 鈥渉ollol annerbyniol鈥.

Llywodraeth Cymru sy鈥檔 gyfrifol am dai yng Nghymru ond byddai rhai cyfreithiau, fel y mesur diwygio yma, yn berthnasol i Gymru yn ogystal 芒 Lloegr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: 鈥淏yddwn ni鈥檔 parhau i adolygu ac ystyried a oes angen unrhyw newidiadau pellach ar 么l rhoi鈥檙 gwelliannau sylweddol yn y mesur hwn ar waith.鈥

Mae Wallace Estates yn rhannol gyfrifol am redeg y bloc o fflatiau yn Llwynhendy.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd: 鈥淢ae鈥檙 gofyniad i osod system larwm t芒n newydd yn Llys Newydd, ynghyd 芒 chwyddiant uchel, wedi achosi i gost cynnal a chadw gynyddu.

鈥淩ydym yn cydymdeimlo 芒鈥檙 lesddeiliaid ac yn gweithio gyda Principle Estate Management i ledaenu鈥檙 costau i helpu lesddeiliaid ar adeg pan fo cyllid aelwydydd eisoes dan bwysau.鈥

Pynciau cysylltiedig