Galw am ymchwiliad i ddigwyddiad ym mharc Oakwood

Ffynhonnell y llun, Uri Baruchin

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Bounce ei gau yn 2016 cyn ailagor yn 2022 ar 么l gwaith adnewyddu gwerth 拢400,000
  • Awdur, Elen Davies
  • Swydd, Gohebydd 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae鈥檙 Aelod Seneddol dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro wedi galw am ymchwiliad llawn i ddigwyddiad ym mharc antur Oakwood ddydd Mercher, lle cafodd nifer eu hanafu.

Yn 么l Sam Kurtz, mae e wedi ysgrifennu at y parc yn uniongyrchol, gan ofyn am sicrwydd bod holl atyniadau鈥檙 parc wedi derbyn archwiliadau diogelwch llawn a gwaith cynnal a chadw cyson.

Mae鈥檙 parc yn dweud eu bod yn ymgynghori 芒 gwneuthurwr y reid.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch eu bod 鈥測n ymwybodol o鈥檙 digwyddiad ac yn gwneud ymholiadau".

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Sam Kurtz bod yn rhaid i'r "materion gael eu datrys ar frys cyn i dymor twristiaeth prysur yr haf ddechrau鈥

Dywedodd yr Aelod Seneddol dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ei fod wedi "trist谩u" wrth glywed am y digwyddiad, lle cafodd nifer o ymwelwyr f芒n anafiadau.

鈥淢ae Oakwood yn rhan werthfawr o arlwy twristiaeth Sir Benfro ac mae ganddo le arbennig yng nghalonnau llawer o bobl.

鈥淢ae鈥檔 bwysig bod digwyddiad ddoe yn cael ei ymchwilio鈥檔 llawn a bod materion yn cael eu datrys ar frys cyn i dymor twristiaeth prysur yr haf ddechrau,鈥 meddai.

Aeth ymlaen i ddweud ei fod wedi ysgrifennu at reolwyr y parc, yn galw am ymchwiliad llawn i atyniad Bounce ac am sicrwydd ynghylch diogelwch atyniadau eraill y parc.

Mae Henry Tufnell, aelod newydd etholedig Canol a De Penfro yn San Steffan hefyd wedi ymateb i鈥檙 digwyddiad.

Dywedodd bod y newyddion am anafiadau nifer o bobl yn "bryderus iawn", gan ddymuno gwellhad buan i鈥檙 rheiny sydd wedi eu hanafu.

鈥淢ae鈥檔 bwysig bod ymchwiliad trylwyr yn digwydd er mwyn canfod atebion鈥 meddai.

Penderfynodd Ysgol Aberdaugleddau barhau 芒鈥檜 taith i鈥檙 parc antur ddydd Iau, er gwaetha鈥檙 newyddion am atyniad Bounce.

Mewn neges ar eu cyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr ysgol: 鈥淢ae diweddariad i鈥檙 asesiad risg wedi digwydd y bore 'ma a pe bai鈥檙 reid yn ailagor yn ystod ein hymweliad heddiw, bydd staff profiadol sy鈥檔 bresennol yn cymryd mesurau i sicrhau na fydd disgyblion yn cael mynediad at y reid.鈥

Dywedodd Cyngor Sir Penfro mai cyfrifoldeb ysgolion unigol yw teithiau ysgol ac mai uwch arweinwyr ysgolion sy鈥檔 penderfynu os yw tripiau yn mynd yn eu blaen yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael.

Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd Parc Oakwood bod swyddogion wedi ymateb wrth i Bounce ddod i stop.

"Fe aeth gweithwyr y parc yno ac fe wnaethon nhw ddod 芒'r reid i'r llawr fel bod pobl yn gallu dod oddi arni.

"Fe ddywedodd sawl ymwelydd bod ganddyn nhw boen yng ngwaelod eu cefn yn syth ar 么l y digwyddiad ac fe aeth gweithwyr cymorth cyntaf atyn nhw i'w helpu nhw.

"Fe aeth un gr诺p i gael triniaeth ychwanegol yn lleol, ac fe benderfynodd y gweddill barhau 芒'u diwrnod yn y parc.

"Rydyn ni wedi cau Bounce wrth i ni ymgynghori gyda'r cwmni wnaeth greu'r atyniad."