麻豆官网首页入口

'Dim rhagfarn' ar 么l ffrae cyfryngau cymdeithasol swyddfa ombwdsmon

Twitter/XFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Sinead Cook wedi postio ar lwyfan cyfryngau cymdeithasol X - Twitter gynt

  • Cyhoeddwyd

Nid yw adolygiad o Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi canfod unrhyw ragfarn wleidyddol yn y sefydliad.

Cafodd yr adolygiad ei ysgogi gan ymddiswyddiad ymchwilydd dros ei defnydd o gyfryngau cymdeithasol.

Gorchmynnodd swyddfa'r Ombwdsmon (OGCC) yr ymchwiliad ar 么l iddi ddod i鈥檙 amlwg bod yr ymchwilydd Sinead Cook wedi cyhoeddi negeseuon gwrth-Dor茂aidd sarhaus ar-lein.

Edrychodd yr adroddiad ar fwy na 600 o achosion oedd wedi cael eu gwrthod gan yr Ombwdsmon, a dywedodd fod y penderfyniadau wedi eu seilio ar ffeithiau a thystiolaeth.

Derbyniodd OGCC yr adroddiad, a oedd yn argymell eu bod yn ailystyried eu polis茂au cyfryngau cymdeithasol.

Roedd staff yr OGCC - sy'n cael ei arwain gan yr Ombwdsmon Michelle Morris - wedi dweud eu bod wedi cael sioc a siom pan ddaeth y negeseuon cyfryngau cymdeithasol i'r amlwg.

Roedd honiadau bod Sinead Cook wedi gwneud sylwadau amhriodol ar gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys un neges oedd yn cyfeirio at y Ceidwadwyr.

Hyd at haf 2023 roedd hi wedi rheoli t卯m cod ymddygiad cynghorwyr yr Ombwdsmon.

Roedd yr adolygiad yma yn edrych ar achosion yr oedd Ms Cook a'i th卯m wedi dewis peidio 芒'u hymchwilio.

Cafodd yr ymchwiliad, a arweiniwyd gan gomisiynydd safonau Gogledd Iwerddon Melissa McCullough, ddechrau anodd hefyd.

Bu'n rhaid penodi person newydd i arwain yr adolygiad annibynnol oherwydd roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi cwestiynu penodiad yr uwch fargyfreithiwr, James Goudie KC - gan ei fod 芒 chysylltiadau hirsefydlog 芒鈥檙 blaid Lafur.

'Torcalonnus'

Dywedodd rhai o'r staff sy'n gweithio ar achosion cod ymddygiad yn OGCC wrth yr ymchwiliad eu bod wedi eu "dinistrio" o glywed am y negeseuon ar-lein.

Dywedodd un wrth yr ymchwiliad nad oedd wedi bod yn "braf clywed eich gwaith yn cael ei ddifetha mewn gwirionedd".

Ychwanegodd un arall: 鈥淢ae鈥檔 drueni, oherwydd does gen i ddim amheuaeth bod y gwaith mae pawb yn ei wneud yn gwbl ddiduedd ac o safon dda iawn, felly dwi'n meddwl ei fod yn anffodus ei fod yn cael ei gwestiynu oherwydd gweithredoedd un unigolyn.鈥

Dywedodd yr adroddiad fod y t卯m cyfan wedi dweud wrth yr ymchwiliad nad oedden nhw "erioed wedi cael trafodaeth gyda [Ms Cook] am wleidyddiaeth... na barn wleidyddol unrhyw un yn y swyddfa".

Ni wnaeth yr ymchwiliad ganfod unrhyw dystiolaeth bod y cyn-arweinydd t卯m wedi dylanwadu'n amhriodol ar aelodau eraill o staff.

Dywedodd Ms Cook, a gafodd ei chyfweld hefyd, ei bod yn "dorcalonnus" y gallai unrhyw beth yr oedd hi wedi'i wneud niweidio enw da'r swyddfa.

'Dim tystiolaeth o duedd wleidyddol'

Edrychodd Ms McCullough a'i th卯m ar 673 o achosion cod ymddygiad a oedd wedi'u gwrthod, a chanfod bod "pob penderfyniad wedi'i seilio ar dystiolaeth, ffeithiau a rhesymu cadarn a chlir yn unig".

"O'r herwydd, doedd dim tystiolaeth o duedd wleidyddol," meddai.

Cafodd 11 o achosion a ddaeth i ben, y bu Ms Cook yn ymchwilio iddynt hefyd, eu hadolygu. Daeth yr adroddiad i'r un casgliad.

Fodd bynnag, argymhellodd y dylai OGCC newid ei bolis茂au fel bod cynghorwyr yn cael gwybod am gwynion pan maen nhw'n cael eu derbyn - yn hytrach nag ar 么l iddynt gael eu hasesu fel y mae ar hyn o bryd.

Dywedodd yr adroddiad y byddai hyn "er budd tegwch a thryloywder", gan amddiffyn yr OGCC rhag beirniadaeth lle mae cynghorydd yn clywed am g诺yn gan drydydd parti neu'r cyfryngau.

Dywedodd hefyd y gallai cod ymddygiad OGCC ei hun 鈥渇od yn fwy cynhwysfawr鈥 wrth nodi鈥檙 amgylchiadau lle mae gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol gan weithiwr cyflogedig gyfystyr 芒 chamymddwyn.

Mewn datganiad dywedodd OGCC: "Mae'r holl argymhellion yn cael eu derbyn, a bydd y gwersi a ddysgwyd yn cael eu defnyddio i gryfhau ymhellach bolis茂au ac arferion mewnol, recriwtio, a hyfforddiant."