Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Lluniau: Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024

Lemfreck gyda'i dlwsFfynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lemfreck, yr artist rap a chynhyrchydd o Gasnewydd, yn derbyn tlws a gwobr ariannol o £10,000

  • Cyhoeddwyd

Roedd yn noson fawreddog yng Nghanolfan y Mileniwm ar 8 Hydref wrth i Lemfreck gipio Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024.

Fe wobrwywyd artistiaid eraill yn y seremoni yng Nghaerdydd hefyd gan gynnwys enillwyr tlws Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig a gwobrau Triskel, sy'n rhoi cymorth i artistiaid ddatblygu eu gyrfa.

Dyma luniau o rai o uchafbwyntiau'r noson:

Ffynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Canolfan Mileniwm Cymru wedi ei oleuo yn wyrdd - yr un lliw â logo'r gwobrau

Ffynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Y seremoni wobrwyo oedd y digwyddiad cyntaf fel rhan o Ŵyl Llais eleni, sy’n rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Roedd 15 artist ar y rhestr fer

Ffynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Cyflwynydd y noson Sian Eleri, o Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio 1. Rhain oedd y 14eg gwobrau i gael eu cynnal

Ffynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Enillwyr un o wobrau Triskel eleni oedd Wrkhouse, fu'n perfformio ar y noson. Caiff y wobr ei chyflwyno’n flynyddol i dri artist er mwyn rhoi cefnogaeth iddyn nhw ddatblygu eu gyrfaoedd cerddorol

Ffynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Yr arloeswyr hip-hop o Gymru, Eric Martin a DJ Jaffa, enillodd y wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig, am eu cyfraniadau i’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru drwy gydol eu gyrfa

Ffynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eric Martin - sy'n cael ei adnabod hefyd fel MC Eric neu Me One - yn gerddor o dras Jamaicaidd a gafodd ei eni yng Nghymru. Fe ddaeth i enwogrwydd gyda Technotronic o Wlad Belg ar ddiwedd yr 1980au a dechrau’r 1990au, pan gyd-ysgrifennodd y glasur o albwm Pump Up The Jam

Ffynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Lemfreck, enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024, yn cael ei longyfarch gan Sian Eleri, gyda'i chyd-gyflwynydd Huw Stephens yn dod â'r tlws i'r enillydd

Ffynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Lemfreck ei wobrwyo am ei albwm Blood, Sweat & Fears

Ffynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lemfreck yn fuddugol mewn cystadleuaeth gref oedd yn cynnwys artistiaid fel Gruff Rhys, Skindred, Cowbois Rhos Botwnnog, Slate, Alrighcia Scott a Pys Melyn

Ffynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Meddai'r DJ a'r cyflwynydd Huw Stephens, a gyd-sefydlodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2011: "Mae Blood, Sweat & Fears yn albym anghygoel sydd wedi derbyn clôd gan y beirniaid am ei weledigaeth ac uchelgais. Mae pob albym ar y rhestr fer yn unigryw, a gobeithiwn bod y wobr yn uwcholeuo gwaith gwych ein cerddorwyr"

Ffynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lemfreck ar ôl derbyn y wobr: “Diolch i fy mam a fy nhad – wrth dyfu i fyny fel person du ifanc, roedden nhw wastad yn dweud wrthyf fy mod i’n gallu gwneud unrhyw beth. Mae hwn i fy nghymuned yng Nghasnewydd"

Pynciau cysylltiedig