麻豆官网首页入口

Rhybudd am beryglon yr afon ger y Sioe Frenhinol

Afon GwyFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw dyn ifanc yn yr afon yn Llanfair-ym-muallt ar noson gyntaf y Sioe Frenhinol yn 2017

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n rhybuddio pobl i fod yn ofalus o amgylch Afon Gwy ger y Sioe Frenhinol ar 么l i ddyn gael ei achub o'r d诺r.

Cafodd y dyn ei ganfod gan fugeiliaid stryd mewn perygl o gael ei ysgubo i ffwrdd yn y cerrynt cryf nos Sul.

Fe gafodd y dyn ei achub o'r d诺r dwfn gan chwe swyddog heddlu, gan ddefnyddio rhaff o ddyfais diogelwch cyfagos.

Bu farw dyn ifanc o'r enw James Corfield yn yr afon yn Llanfair-ym-muallt ar noson gyntaf y Sioe Frenhinol yn 2017.

'Atgoffa pobl i gymryd gofal'

Dywedodd y Prif Arolygydd Gareth Grant o Heddlu Dyfed-Powys: 鈥淗eb os, roedd y diolch i鈥檙 bugeiliaid stryd a鈥檔 rhybuddiodd am y digwyddiad, ac ymateb cyflym ein swyddogion a rwystrodd y dyn yma rhag cael niwed.

鈥淵n dilyn y digwyddiad, rydym yn cymryd y cyfle i atgoffa pobl sydd yn yr ardal ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru i gymryd gofal wrth gerdded i faes y sioe ac oddi yno.

鈥淓fallai nad yw ymwelwyr 芒鈥檙 ardal yn ymwybodol o beryglon y rhan hon o Afon Gwy, lle mae darnau dwfn a cherrynt cryf, sy鈥檔 ei gwneud hi鈥檔 anodd iawn dod allan ohono.

鈥淢ae llwybr gwyrdd wedi鈥檌 nodi rhwng y sioe, pentref y bobl ifanc, Fferm Penmaenau a thref Llanfair-ym-muallt.

"Defnyddiwch hwn, yn hytrach nag unrhyw lwybr arall rhwng y lleoliadau hyn, er eich diogelwch eich hun.鈥

Pynciau cysylltiedig