麻豆官网首页入口

'Y Gymraeg yn iaith sy'n gweddu ffilmiau arswyd'

Griff LynchFfynhonnell y llun, Carys Hughes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y cyfarwyddwr a'r cerddor Griff Lynch

  • Cyhoeddwyd

Pan wnaeth Tony ac Aloma ryddhau Dim Ond Ti a Fi yn 1969, ychydig wydden nhw y byddai鈥檔 cael ei defnyddio mewn ffilm arswyd 55 mlynedd yn ddiweddarach.

Ond bydd un o ganeuon mwyaf poblogaidd y ddeuawd o Ynys M么n yn cael ei chlywed mewn g诺yl ffilmiau fawr yn Llundain yr wythnos hon.

Y cyfarwyddwr a鈥檙 cerddor Griff Lynch sydd tu 么l i鈥檙 ffilm - sy鈥檔 rhannu鈥檙 un teitl a鈥檙 g芒n - ac mae鈥檔 credu bod y trac a鈥檙 iaith Gymraeg yn effeithiol yn y genre arswyd.

鈥淢ae 鈥榥a rywbeth am g芒n sydd mor hyfryd a ciwt, a鈥檙 s诺n o鈥檙 recordiau o鈥檙 60au a鈥檙 70au, y cracl ar y record, sy鈥檔 cynnig ei hun i arswyd,鈥 meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dim ond Ti a Mi, Mae Gen i Gariad a Caffi Gaerwen oedd rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd Tony ac Aloma

Roedd Griff eisoes wedi dechrau sgwennu鈥檙 sgript cyn dewis y g芒n.

Meddai: 鈥淩o鈥檔 i鈥檔 gwybod mod i eisiau hen drac cariadus i鈥檙 agoriad ac i ran arall o鈥檙 ffilm a dwi鈥檔 ffan o Tony ac Aloma, maen nhw鈥檔 wych, yn enwedig pan ti鈥檔 gwrando ar finyl o鈥檙 cyfnod. Maen nhw鈥檔 mor nostalgic.

鈥淩o鈥檔 i鈥檔 chwilio am g芒n - nid gan Tony ac Aloma yn benodol - ond hwnna oedd yr un oedd yn cyd-fynd efo鈥檙 thema yn y ffilm.

鈥淢ae鈥檙 g芒n yma yn berffaith a nesh i siarad efo鈥檙 ddau ohonyn nhw i gael eu caniat芒d i ddefnyddio fo a thrafod y cyd-destun efo nhw ac roedden nhw hapus.鈥

Ffynhonnell y llun, Triongl Cyf
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dim Ond Ti a Fi wedi ei ariannu fel rhan o brosiect Beacons Ffilm Cymru a'r 麻豆官网首页入口

Ffilm arswyd sy鈥檔 defnyddio tensiwn seicolegol yn hytrach na gwaed a thrais i godi braw ydi Dim Ond Ti a Fi.

Mae鈥檔 dweud stori Meirion, sy'n dod o鈥檙 wlad, yn mynd 芒鈥檌 gariad o鈥檙 ddinas, sef Mabli, adref am y tro cyntaf - profiad sy'n troi'n dywyll yn y ffilm.

Mae鈥檙 cyfarwyddwr yn credu bod y Gymraeg ynaddas i'r math yma o ffilm, yn enwedig i gynulleidfa dramor.

鈥淢ae鈥檙 iaith Gymraeg yn gweddu ei hun yn dda i arswyd. Mae rhywbeth reit arswydus pan ti鈥檔 clywed Cymraeg pan ti鈥檓 yn ei ddeall o - mae鈥檔 benthyg ei hun i arswyd.

"A hefyd yr elfennau traddodiadol, a delweddau Cymreig, a鈥檙 gwledig.鈥

G诺yl Ffilm Raindance

Dyma ffilm fer gyntaf Griff Lynch, sydd wedi cyfarwyddo rhaglenni dogfen, drama a fideos pop ers blynyddoedd.

Mae鈥檙 gwaith eisoes wedi ei dangos yn Focus Wales ac ar 22 Mehefin bydd yng ng诺yl ffilmiau fwyaf Prydain - Raindance. Y gobaith ydi bod cael ei dangos mewn gwyliau adnabyddus yn codi proffil y gwaith - a鈥檙 rhai sydd wedi gweithio arni - cyn cael ei rhyddhau i鈥檙 cyhoedd.

Fe gafodd Raindance ei sefydlu dros 30 mlynedd yn 么l ac mae鈥檔 cael ei gydnabod fel un o鈥檙 prif wyliau'r diwydiant ffilmiau. Yno gafodd Pulp Fiction ei dangos am y tro cyntaf ym Mhrydain n么l yn 1994 ac mae ffilmiau byr sy鈥檔 cael eu dewis i鈥檙 诺yl yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer enwebiadau Oscar a Bafta.

Ffynhonnell y llun, Triongl Cyf
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cast Dim Ond Ti a Fi yn cynnwys Si么n Alun Davies, Eiry Thomas, Rhodri Evan, Mabli J锚n Eustace ac Emily Fray

Dywed Griff: 鈥淒wi鈥檔 hapus iawn ei bod hi鈥檔 cael ei dangos yno. Un o鈥檙 pethau sydd fwya鈥 pwysig i fi efo creu rhywbeth yn y Gymraeg, os ydi o鈥檔 g芒n neu鈥檔 ffilm, ydi bod o鈥檔 gallu bodoli tu allan i鈥檙 byd Cymraeg.

鈥淢ae鈥檔 haws efo ffilm oherwydd is-deitlau, mae鈥檔 haws bod yn accessible ar draws y byd. Felly dwi鈥檔 falch ei fod o鈥檔 cael ei weld mewn g诺yl ar lefel Brydeinig, neu fyd-eang.

鈥淔el cenedl roedda ni鈥檔 arfer cynhyrchu eitha鈥 lot o ffilm - yn y 70au a鈥檙 80au, efo cyfarwyddwyr fel Endaf Emlyn. Ond tyda ni ddim yn gwneud nhw r诺an, 鈥榙a ni鈥檔 gwneud lot o gyfresi ond ddim ffilm, ac mae hynny鈥檔 bechod dwi鈥檔 meddwl.

鈥淢ae ffilm yn gweithio鈥檔 dda yn rhyngwladol dwi鈥檔 meddwl, ac mae o鈥檔 cael ei weld mewn sinem芒u - sy鈥檔 wych - a dylai鈥檙 Gymraeg fod mewn sinema.鈥

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Golygfa o fideo Kombucha gan Griff Lynch i L诺p S4C

Mae am fod yn haf prysur i Griff tu hwnt i hyrwyddo鈥檌 ffilm fer. Mae o newydd ryddhau sengl a ac mae鈥檔 gweithio ar albwm newydd fydd yn dod allan yn ddiweddarach eleni - y cyntaf fel artist unigol.

Bydd prif leisydd Yr Ods hefyd yn perfformio yn Tafwyl ac ar Lwyfan y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ond fel artist unigol.

鈥淔ydd o鈥檔 heriol i fi," meddai. "Dwi wedi arfer perfformio efo鈥檙 Ods ac mae hynna fel reidio beic - dwi鈥檔 gwybod be' mae pawb arall yn 'neud - ond mae鈥檔 gyffrous gwneud rhywbeth hollol wahanol hefyd.鈥

Pynciau cysylltiedig