麻豆官网首页入口

Cwmni dur Tata yn dechrau proses diswyddo gwirfoddol

TataFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cwmni Tata yn cyflogi tua 4,000 o weithwyr ym Mhort Talbot

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni dur Tata wedi dechrau gofyn i鈥檞 weithwyr a fydden nhw鈥檔 derbyn diswyddiad gwirfoddol, meddai Llywodraeth y DU ar 么l cyfarfod o鈥檜 bwrdd trawsnewid.

Mae'r cwmni'n gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb gan weithwyr mewn proses a fydd yn rhedeg tan 7 Awst.

Mae gweinidogion Llywodraeth y DU mewn trafodaethau i geisio arbed swyddi yn y cwmni dur, sy'n bwriadu torri 2,800 o swyddi.

Bydd Tata yn cau ail ffwrnais chwyth Port Talbot ym mis Medi, gan ddweud eu bod yn gwneud colledion o 拢1m y dydd.

Dydd Iau cynhaliodd yr Ysgrifennydd Cymru Llafur newydd, Jo Stevens, ei chyfarfod cyntaf fel cadeirydd bwrdd trawsnewid Tata, a sefydlwyd gan lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU i gefnogi pobl a busnesau sy'n cael eu heffeithio gan y cynlluniau.

Mae鈥檔 cynnwys cynrychiolwyr undebau, busnesau, Llywodraeth Cymru a gwleidyddion lleol.

'Eisoes yn teimlo'r effaith'

Dywedodd ei bod wedi comisiynu "asesiad cyflym o sut y gallwn gynnig cymorth ar unwaith".

鈥淏yddwn yn gweithio ar y cyd gydag un ffocws i gefnogi ein diwydiant dur a鈥檙 cymunedau sy'n cael eu heffeithio," meddai.

鈥淥nd mae busnesau a gweithwyr eisoes yn teimlo effaith trawsnewid cwmni dur Tata. Mae'r amser i siarad ar ben."

Dywedodd Llywodraeth y DU fod Tata wedi "ail-gadarnhau ei ymrwymiad i gynnig pecyn diswyddo gwell".

Mae Tata Steel wedi cau un o鈥檌 ffwrneisi chwyth, ac mae鈥檔 bwriadu cau ei ail ffwrnais ym mis Medi, fel rhan o gynlluniau i symud i gynhyrchu mwy gwyrdd.

Fe wnaeth y llywodraeth Geidwadol flaenorol addo 拢500m i Tata tuag at gost ffwrnais bwa trydan newydd gwerth 拢1.25bn, a fydd yn toddi dur sgrap, ac sydd angen llawer llai o weithwyr na ffwrneisi chwyth traddodiadol.

Mewn datganiad i'r wasg dywedodd llywodraeth y DU y bydd Tata yn dechrau gweithio gyda Choleg Pen-y-bont ar Ogwr i gynnig cymorth i weithwyr cynhyrchu i droi eu sgiliau yn gymwysterau sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol.