Tri o bobl wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Miwmares

Mae tri pherson wedi marw yn dilyn digwyddiad yn nhref Biwmares ar Ynys M么n.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi eu galw i ardal y pier yn y dref am tua 14:45 brynhawn Mercher yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad.

Ychwanegodd y llu eu bod yn parhau i ddod i ddeall beth yn union ddigwyddodd.

Dywedodd llygad-dyst ei bod wedi gweld car yn taro cerddwr ac yna'n taro t欧.

Dywedodd wrth asiantaeth newyddion PA fod y digwyddiad yn "ofnadwy", a'i bod wedi gwylio pobl yn "trio'n hynod o galed i gyflawni CPR".

Ychwanegodd fod golwg "ofnadwy" ar y car.

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Stryd Alma ger Pier Biwmares

Dywedodd y llygad-dyst ei bod mewn gwesty yn gwylio'r olygfa pan glywodd "s诺n mawr", gan ddweud iddi weld "car yn taro person ac yna'n taro t欧".

"Roedd wir yn ofnadwy, fe wnaeth yr ambiwlans gymryd hydoedd i ddod yma a phan ddaeth yr heddlu a'r cerbydau... doedd dim byd yr oedden nhw'n gallu ei wneud," meddai.

"Roedd pawb yn ceisio helpu, rheoli'r traffig gan geisio sicrhau urddas i'r sawl oedd wedi ei anafu, ond roedd y cyfan yn erchyll."

Disgrifiad o'r llun, Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Stryd Alma ger Pier Biwmares

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi anfon dau ambiwlans i鈥檙 safle ynghyd 芒 chriwiau brys a pharafeddygon.

Roedd yr Ambiwlans Awyr hefyd yn rhan o'r ymateb.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Stryd Alma ger Pier Biwmares.

Cafodd ffyrdd cyfagos eu cau, tra bod gofyn hefyd i bobl osgoi'r ardal os yn bosib.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad i gysylltu 芒 nhw.

Ffynhonnell y llun, Leon Marshall

Disgrifiad o'r llun, Roedd yr Ambiwlans Awyr yn rhan o ymateb y gwasanaethau brys

Wrth ymateb i'r digwyddiad, dywedodd yr Aelod Seneddol lleol, Llinos Medi wrth y 麻豆官网首页入口 ei fod yn "drychineb" gan ychwanegu fod y digwyddiad wedi "ysgwyd y gymuned... a'r ynys i gyd".

"Ma' rywun yn cydymdeimlo'n ddwys gyda'r teuluoedd sydd wedi eu heffeithio a phawb oedd yn yr ardal ar y pryd".

Ychwanegodd fod y "gwaith ymchwil yn parhau" er mwyn canfod beth yn union ddigwyddodd.

Dywedodd Virginia Crosbie, cyn-Aelod Seneddol Ynys M么n: 鈥淩wy'n meddwl ac yn gwedd墨o am y dioddefwyr, eu teuluoedd a'u hanwyliaid sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad鈥.

Newyddion 'trychinebus'

Fe ddisgrifiodd Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru, y newyddion fel un "trychinebus" ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Mae fy nghydymdeimladau gyda'r rheiny sydd wedi'u heffeithio a'u hanwyliaid," meddai.

Wrth siarad 芒 麻豆官网首页入口 Cymru, dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones fod y newyddion yn "eithriadol o dorcalonnus" gan ychwanegu fod y "dref a'r bobl gyfagos wedi eu syfrdanu gan y newyddion".

"Mae ein calonnau ni'n gwaedu dros y teuluoedd," meddai.

Dywedodd Archesgob Cymru, Parchedicaf Andrew John ei fod yn "cynnig cydymdeimlad a gwedd茂au i bawb a gafodd eu heffeithio" yn y digwyddiad.

"Mae hyn yn newyddion ofnadwy i'r gymuned ac i ffrindiau a theulu'r tri pherson sydd wedi marw."