Beicwyr mynydd yn galw am achub canolfannau ymwelwyr

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口

Disgrifiad o'r llun, Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried cau canolfan ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth
  • Awdur, Craig Duggan
  • Swydd, Gohebydd 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae鈥檙 sector beicio mynydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i achub tair canolfan ymwelwyr ac i fuddsoddi mwy mewn llwybrau beicio.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ystyried peidio 芒 rhedeg caffis a siopau mewn canolfannau yng Nghoed y Brenin, Bwlch Nant yr Arian ac Ynyslas fel rhan o gynllun i arbed 拢13m.

Mae'r corff yn ystyried cau 265 o swyddi.

Dywed CNC eu bod yn wynebu pwysau ariannol, a'u bod yn gorfod blaenoriaethu taclo鈥檙 argyfwng natur a hinsawdd, a lleihau llygredd.

Mae'n pwysleisio, os bydd newidiadau i ganolfannau ymwelwyr, bydd y llwybrau cerdded a beicio yn parhau ar agor yn y tri safle.

Ond yn 么l deiseb, sydd 芒 dros 13,000 o lofnodion, byddai cau yn cael "effaith negyddol pellgyrhaeddol" ar yr economi leol, yr amgylchedd, a llesiant cymunedol.

Bydd pwyllgor deisebau'r Senedd yn trafod y mater ddydd Llun.

Ffynhonnell y llun, Suki Morys

Disgrifiad o'r llun, Roedd protest i wrthwynebu cynlluniau i gau canolfan ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian fis diwethaf

Mae Coed y Brenin yn enwog fel lleoliad y llwybr beicio mynydd pwrpasol cyntaf yn y DU.

Yn y ganolfan ymwelwyr yno mae caffi, lle golchi beiciau a chawodydd, ac wyth llwybr beicio mynydd gerllaw.

Yng nghanolfan Nant yr Arian mae siop, caffi a thoiledau.

Mae pum llwybr beicio yno, ond mae鈥檔 fwy enwog am fwydo barcutiaid coch bob dydd.

Dywed CNC eu bod yn deall bod bwydo鈥檙 barcutiaid yn boblogaidd, ond 鈥渘id oes unrhyw benderfyniad wedi鈥檌 wneud a fydd [hyn] yn parhau yn y dyfodol鈥.

'Effaith ar feicwyr, cymunedau a busnesau'

Mae gan ganolfan ymwelwyr Ynyslas arddangosfa ar Warchodfa Natur Dyfi, siop sy鈥檔 gwerthu byrbrydau a diodydd, a thoiledau.

Mewn llythyr at Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, mae aelodau o鈥檙 sector beicio mynydd yn dweud bod y gamp yn 鈥済onglfaen i hamddena awyr agored yng Nghymru, gan ddenu miloedd o ymwelwyr a chreu budd economaidd sylweddol鈥.

Dywedodd Lewis Thompson o Beicio Cymru y gallai cau鈥檙 canolfannau gael effaith niweidiol: 鈥'Da ni am godi鈥檔 pryderon am y toriadau, a鈥檙 effaith ar feicwyr, cymunedau a busnesau lleol.

"Y ddau brif bwynt yw [bod angen] cadw cefnogaeth i鈥檙 trels yn ariannol 鈥 maen nhw鈥檔 rhoi cyfle i bobl 'neud ymarfer corff a beicio mynydd. Y pwynt arall yw cadw鈥檙 canolfannau ar agor.鈥

Doedd Llywodraeth Cymru ddim am ymateb i鈥檙 llythyr.

Disgrifiad o'r llun, Elin Jones yw'r AS dros etholaeth Ceredigion

Mae dwy o鈥檙 canolfannau yng Ngheredigion, etholaeth Elin Jones AS.

Dywedodd fod gan grwpiau lleol ddiddordeb mewn cymryd cyfrifoldeb am eu rhedeg.

鈥淏eth y鈥檔 ni ddim eisiau yw bod y ganolfan y siop a鈥檙 caffi yn cau, pobl yn colli swyddi, a鈥檙 cyfan yn dirywio," meddai.

"Os yw NRW yn mynnu dod 芒 hyn i ben, bod nhw鈥檔 trosglwyddo鈥檙 ased yn ei gyfanrwydd fel 鈥going concern鈥 ar gyfer menter newydd fydd yn gallu cwrdd 芒鈥檙 potensial sydd yma.鈥

Dywedodd Elen Howells, sy'n ymgyrchu i achub canolfan Nant yr Arian, mai'r "rhai sy鈥檔 mynd i golli allan yw鈥檙 teuluoedd, yr ifanc iawn, yr hen, yr anabl".

"Mae 'na rai pobl sy' bendant ddim yn mynd i ddod os yw鈥檙 lle 'ma鈥檔 cau," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Elen Howells sy'n ymgyrchu i achub canolfan ymwelwyr Nant yr Arian

Does gan Ynyslas ddim llwybrau beicio ond mae'r llwybrau cerdded trwy'r twyni tywod yn boblogaidd iawn.

Dywedodd Polly Ernest 鈥 un o sylfaenwyr yr ymgyrch i achub canolfan Ynyslas 鈥 fod y staff yn gwneud gwaith hollbwysig wrth addysgu ymwelwyr am warchodfa natur Dyfi a bod y ganolfan 鈥渨rth galon y safle鈥.

Dywedodd hi hefyd fod pobl sy鈥檔 awyddus i redeg y ganolfan wedi cael trafferth trafod hyn gyda CNC.

鈥淩y鈥檔 ni鈥檔 gwybod bod pobl sydd eisiau cymryd drosodd, ond mae鈥檔 anodd iawn gwneud i hyn weithio yn fasnachol heb y maes parcio," meddai.

"Dyw CNC ddim wedi dweud a y鈥檔 nhw am gadw鈥檙 refeniw o鈥檙 meysydd parcio.

"Dwi'n meddwl eu bod nhw wedi gobeithio cau yn dawel heb i neb sylwi, a doedden nhw ddim yn disgwyl yr adwaith.鈥

Disgrifiad o'r llun, Canolfan ymwelwyr Ynyslas ger Aberystwyth

Mae CNC yn ymgynghori 芒 staff ac undebau llafur er mwyn cyrraedd y targed o arbedion o 拢13m.

Mewn datganiad ar ddyfodol y canolfannau ymwelwyr, dywedodd Elsie Grace, Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy CNC: 鈥淩ydyn ni'n edrych ar draws ein holl gylch gwaith ac yn adolygu'n feirniadol yr hyn y gallwn ac y mae'n rhaid i ni barhau i'w wneud, yr hyn rydyn ni'n ei stopio, a'r hyn rydyn ni'n ei arafu neu'n ei wneud yn wahanol.

"Un elfen sydd yn ein cynnig presennol i staff yw nad ydym bellach yn gweithredu darpariaeth arlwyo a manwerthu mewn canolfannau ymwelwyr.

"Os cytunir ar y cynigion hyn, byddwn yn gallu gweithio gyda phartneriaid i chwilio am ffyrdd newydd o weithio yn y dyfodol a chwilio am bartneriaid i redeg y gwasanaethau hyn. Does dim cynlluniau ar gyfer newidiadau eraill.

"Bydd y safleoedd eu hunain yn parhau i fod ar agor ar gyfer cerdded a beicio fel y maent ar hyn o bryd, a bydd gwasanaethau fel mannau chwarae, parcio ceir a darpariaeth toiledau hefyd yn parhau i fod ar gael."