Etholiad Cymru 2016: Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor

Prif addewidion:

  • Cynyddu gwariant ar y GIG mewn termau real
  • Ail-agor unedau man anafiadau ym Mae Colwyn, Dinbych-y-pysgod ac ardal Rhyl a Phrestatyn
  • Rhoi cap o 拢400 ar gostau gofal wythnosol pobl h欧n, a gwarchod 拢100,000 mewn asedau cyfalaf i'r rhai mewn gofal preswyl
  • Cyflwyno system o raddio ysbytai.

Prif addewidion:

  • Galluogi cleifion i gael gweld meddygon teulu yn haws
  • Rhoi'r un sylw i iechyd meddwl a iechyd corfforol
  • Mwy o nyrsys mewn ysbytai
  • Sefydlu comisiwn annibynnol i'r GIG i edrych ar ddyfodol gwasanaethau iechyd.

Prif addewidion:

  • Creu cronfa driniaethau newydd ar gyfer afiechydon difrifol
  • Dyblu'r arian y gall pobl h欧n ei gadw o werthu eu t欧 er mwyn mynd i gartref gofal i 拢50,000
  • Lleihau amseroedd aros drwy "atal" ymweliadau diangen i ysbytai a meddygfeydd
  • Blaenoriaethu triniaeth iechyd meddwl, cefnogaeth a gwasanaethau rhwystro.

Prif addewidion:

  • Sicrhau nad oes raid i neb aros dros 28 diwrnod cyn cael diagnosis canser
  • Buddsoddi yn y GIG i gwtogi amseroedd aros drwy recriwtio 1,000 o feddygon a 5,000 o nyrsys ychwanegol
  • Darparu gofal am ddim i'r henoed gan ddechrau trwy ddiddymu'r taliadau a godir am ofal yn y cartref a phobl 芒 dementia dros y pum mlynedd nesaf
  • Ad-drefnu'r GIG drwy integreiddio gofal cynradd, cymunedol a gofal i oedolion, a chreu rhwydwaith o ysbytai arbenigol.

Prif addewidion:

  • Rhoi pwyslais ar hyrwyddo iechyd cyhoeddus a lleihau anghydraddoldeb iechyd
  • Newid GIG Cymru i sicrhau ei fod yn cyrraedd anghenion y boblogaeth
  • Uno gofal iechyd a gofal cymdeithasol
  • Diddymu'r gwaharddiad ar drallwysiad gwaed gan ddynion sydd wedi cael rhyw gyda dynion eraill, a'u partneriaid benywaidd.

Prif addewidion:

  • Ethol byrddau iechyd lleol
  • Darparu nyrs arbenigol i bob claf sy'n cael diagnosis o ganser
  • Cynnal adolygiad annibynnol o'r GIG i sicrhau lefelau staffio sy'n ddiogel a'r lleiafswm o staff sydd eu hangen
  • Gwella gwasanaethau cyfrwng Cymraeg mewn gofal dementia a gofal diwedd oes.

Cliciwch i ddarllen mwy