Etholiad Cymru 2016: Trafnidiaeth

Trafnidiaeth

Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor

Prif addewidion:

  • Dechrau ar y gwaith o adeiladu ffordd newydd i osgoi'r M4 o fewn 12 mis
  • Rhoi Maes Awyr Caerdydd yn 么l yn nwylo preifat erbyn diwedd tymor y Cynulliad
  • Sefydlu un corff trafnidiaeth fydd yn gyfrifol am ffyrdd, rheilffyrdd a bysus.
  • Ymgynghori ar godi'r terfyn cyflymder i 80mya ar yr M4 a'r A55.

Prif addewidion:

  • Creu awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol
  • Gwella gwasanaethau lein Calon Cymru
  • Cyflwyno cerdyn tebyg i'r Oystercard ar wasanaethau bws trwy Gymru
  • Ymestyn cynllun t芒l gostyngol i fwy o bobl ifanc.

Prif Addewidion:

  • Cyflwyno Metro De Cymru
  • Parhau gyda chynllun ffordd osgoi'r M4, gwella'r A55, yr A40 a phriffyrdd eraill
  • Creu masnachfraint rheilffordd newydd, ddim er elw, o 2018 er mwyn gwella safon gwasanaethau tr锚n
  • Creu rhwydwaith fwy effeithiol o wasanaethau bws pan fydd pwerau'n cael eu datganoli.

Prif addewidion:

  • Ymgymryd 芒'r "rhaglen fuddsoddi fwyaf ers datganoli" i wella trafnidiaeth a ffyrdd ym mhob rhan o Gymru
  • Gwrthwynebu cynllun Llywodraeth Lafur Cymru i adeiladu 'Llwybr Du' ar ffordd yr M4, ac yn lle hynny gwella'r M4 drwy'r 'Llwybr Glas'
  • Cwblhau trydaneiddio rheilffyrdd cymoedd y de, ac yna rheilffyrdd arfordir y gogledd.
  • Cefnogi datblygu Metro ar gyfer de Cymru.

Prif addewidion:

  • Adfer y cysylltiad rheilffordd rhwng gogledd a de Cymru
  • Cefnogi Metro yn y de ddwyrain
  • Diddymu cynllun i ehangu'r M4
  • Sicrhau bod gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn flaenoriaeth.

Prif addewidion:

  • Adeiladu 'Llwybr Glas' ar yr M4 yn hytrach na'r 'Llwybr Du' i'r de o Gasnewydd
  • Gwella'r llwybrau rhwng y de a'r gogledd, yr A470 a'r A483
  • Gwella'r A55
  • Gwerthu Maes Awyr Caerdydd

Cliciwch i ddarllen mwy