Etholiad Cymru 2016: Addysg

Addysg

Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor

Prif addewidion:

  • Cyllido ysgolion yn uniongyrchol, gan roi mwy o reolaeth i athrawon, rhieni a llywodraethwyr a chyfeirio mwy o arian i'r ystafell ddosbarth
  • Atal cau unrhyw ysgol, sy'n dysgu'r cwricwlwm cenedlaethol, heb gytundeb rhieni a llywodraethwyr
  • Diddymu grantiau ffioedd dysgu a newid i 'Ad-daliad Rhent Myfyrwyr' er mwyn cefnogi myfyrwyr gyda chostau
  • Treblu gofal am ddim i blant i 30 awr yr wythnos.

Prif addewidion:

  • Lleihau maint dosbarthiadau babanod i 25
  • Ehangu'r Premiwm Disgybl - arian ychwanegol i ysgolion 芒 phlant difreintiedig
  • Cael gwared ar grantiau ffioedd dysgu a defnyddio'r arian i gyllido grant cymorth byw i fyfyrwyr, gwerth rhwng 拢2,000 a 拢3,000
  • 10 awr yr wythnos o ofal plant am ddim tan bod plant yn dair oed.

Prif addewidion:

  • Cronfa o 拢100m i wella safonau mewn ysgolion
  • 30 awr o ofal plant am ddim am 48 wythnos y flwyddyn
  • 100,000 o brentisiaethau newydd i bob oedran
  • Cynllun peilot o fodel newydd i Ganolfannau Dysgu Cymunedol.

Prif addewidion:

  • Premiwm cenedlaethol o 10% i athrawon sydd a sgiliau neu gymwysterau ychwanegol
  • Talu gwerth 拢18,000 o ddyledion i raddedigion sy'n gweithio yng Nghymru yn lle grant ffioedd dysgu
  • Creu 50,000 o brentisiaethau newydd
  • 30 awr yr wythnos o addysg llawn amser blynyddoedd cynnar erbyn 2021.

Prif addewidion:

  • Creu gwasanaeth addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant rhwng geni a dechrau addysg ffurfiol
  • Dechrau addysg ffurfiol yn hwyrach
  • Ymrwymo i ddiddymu'r rhaglen i gau ysgolion
  • Fydd Prifysgolion Cymru ddim yn codi ffioedd ar fyfyrwyr o Gymru.

Prif addewidion:

  • Cyfle i ysgolion uwchradd ddatblygu i ysgolion gramadeg neu ysgolion galwedigaethol
  • Cyflwyno Colegau Technegol Prifysgol yn seiliedig ar fodel Baker-Deering
  • Benthyciad ffioedd dysgu yn lle grant i fyfyrwyr sy'n astudio yn Lloegr, ond byddai dim ffioedd yng Nghymru i fyfyrwyr sy'n astudio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth
  • Dysgu ieithoedd tramor modern o saith oed ymlaen.

Cliciwch i ddarllen mwy