Etholiad Cymru 2016: Tai

Tai

Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor

Prif addewidion:

  • Diddymu'r dreth stamp ar eiddo sydd werth hyd at 拢250,000 i rai sy'n prynu am y tro cyntaf
  • Gwarchod cynllun 'Hawl i Brynu' i denantiaid sydd eisiau prynu eu t欧 cyngor; ailgyflwyno'r gostyngiad llawn ac ailfuddsoddi'r enillion ar dai cymdeithasol newydd
  • Creu strategaeth cartrefi gwag
  • Cyflwyno cynllun 'Rhentu i Brynu' er mwyn ei gwneud hi'n haws i bobl fod yn berchen cartref.

Prif Addewidion:

  • Adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol
  • Creu cynllun Rhentu i Feddu ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf
  • Amddiffyn pobl fregus yn y sector tai preifat, gan gynnwys rhoi cap ar ffioedd asiantaethau gosod tai a'u hawl i gynyddu rhent
  • Creu cynllun Cymorth i Rentu i gynnig cefnogaeth i dalu am flaendal tenantiaeth i'r rhai sydd dan 30 ac yn rhentu am y tro cyntaf.

Prif addewidion:

  • Diddymu'r cynllun 'Hawl i Brynu'
  • Ceisio cefnogi adeiladu dros 6,000 o dai drwy gynllun 'Cymorth i Brynu'
  • Ariannu 20,000 o dai fforddiadwy newydd yn y tymor nesaf
  • Ymchwilio i'r opsiynau i roi diwedd ar 'fancio tir'.

Prif addewidion:

  • Creu Fframwaith Ddatblygu Cenedlaethol a threfnu goruchwylio'i gweithredu gan Arolygiaeth
  • Parhau i wrthwynebu'r cynllun 'Hawl i Brynu' a gweithredu er mwyn sicrhau fod y stoc cartrefi cymdeithasol yn parhau'n gyflawn i ddiwallu'r angen am gartref
  • Dileu ff茂oedd asiantaethau rhentu ac ymestyn y prawf person-addas-a-phriodol i asiantaethau
  • Codi safonau amgylcheddol.

Prif addewidion:

  • Sicrhau bod tai cymunedol yn cyrraedd lefel 4 o'r C么d Cartrefi Cynaliadwy erbyn 2020
  • Sicrhau bod 12,000 o dai newydd ar gael bob blwyddyn, yn y lleoliadau cywir
  • Cyflwyno deddfwriaeth 'Hawl i Rentu' i gryfhau hawliau tenantiaid
  • Cyflwyno ad-daliad treth ystafell wely yng Nghymru.

Prif addewidion:

  • Annog datblygiad ar safleoedd ti llwyd
  • Cynnig refferenda lleol rhwymedig ar geisiadau cynllunio sy'n cael effaith sylweddol ar gymunedau lleol
  • Diddymu'r angen i awdurdodau lleol gadw lleiafswm o dai
  • Rhyddhau safleoedd sy'n berchen i'r llywodraeth ac sydd heb eu defnyddio am gyfnod hir er mwyn galluogi datblygiadau fforddiadwy.

Cliciwch i ddarllen mwy