Etholiad Cymru 2016: Busnes

Busnes a'r economi

Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor

Prif addewidion:

  • Diddymu trethi busnes i fusnesau bach ac ymestyn y lwfans cyn talu treth o 拢12,000 i 拢15,000
  • Ceisio sicrhau band eang a signal ffonau symudol ym mhob rhan o Gymru erbyn 2019
  • Gwella'r cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau bach drwy fanc datblygu newydd
  • Cyflwyno 么l-ofal i fuddsoddwyr i hybu mewnfuddsoddiad a chynorthwyo cwmniau newydd sy'n symud i Gymru i'w cynorthwyo i gadw swyddi

Prif addewidion:

  • Cael gwared ar barthau menter a chyflwyno ardaloedd twf i roi cefnogaeth i fusnesau
  • Sefydlu Banc Datblygu i gynnig cymorth i fusnesau bach
  • Creu gweithlu 芒 sgiliau modern drwy fuddsodi mewn prentisiaethau a phrifysgolion
  • Cynnal trafodaethau brys gyda BT Openreach a mynnu amserlen i sicrhau fod gan bob ysbyty, prifysgol ac ysgol fand eang cyflym iawn erbyn 2017.

Prif addewidion:

  • Banc datblygu i Gymru
  • Torri trethi busnes i bob busnes bach
  • Atal arferion drwg drwy "bwerau caffael"
  • Ymrwymiad i sicrhau cysylltiad band eang cyflym a dibynadwy i bob eiddo.

Prif addewidion:

  • Adfer Awdurdod Datblygu Cymru
  • Torri trethi busnes er mwyn rhoi hwb i fusnesau bach
  • Sicrhau bod cwmn茂au o Gymru'n ennill mwy o gytundebau cyhoeddus
  • Cynllun economaidd cenedlaethol i roi Cymru ar yr un lefel a gweddill y DU.

Prif addewidion:

  • Paratoi cynllun isadeiledd cynaliadwy ar gyfer y 50 mlynedd nesaf i roi Cymru ar y blaen o econom茂au 'gwyrdd' sy'n datblygu
  • Creu mwy o brentisiaethau yng Nghymru
  • Cefnogi datblygiad teg i fusnesau bach a chanolig eu maint
  • Annog busnesau 'gwyrdd' i fod a chanolfannau yng Nghymru.

Prif addewidion:

  • Sicrhau bod gogledd Cymru yn rhan o'r cyfleoedd a ddaw o Bwerdy'r Gogledd yn Lloegr
  • Gwella cysylltiadau mewn ardaloedd gwledig
  • Cefnogi cydweithio rhwng ardaloedd cyngor Cymru a Lloegr sydd a chysylltiadau economaidd cryf
  • Rhoi dyletswydd ar gynghorau lleol i hyrwyddo datblygiad economaidd, a datganoli cyllid a staff iddynt.

Cliciwch i ddarllen mwy