Etholiad Cymru 2016: Safbwynt y Pleidiau

Bydd pobl Cymru yn pleidleisio ar 5 Mai 2016 i ethol Cynulliad Cenedlaethol newydd Cymru. Sgroliwch i ddarllen prif bolis茂au`r pleidiau, neu glicio ar ddolen i ddewis pwnc arall.

Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor

  • Sicrhau mwy o fuddsoddiad yn y GIG yng Nghymru bob blwyddyn
  • Creu mwy o swyddi trwy gefnogi busnesau bach a gwella isadeiledd
  • Gweddnewid hyfforddiant a chyfeirio mwy o arian i'r stafell ddosbarth
  • Gosod cap o 拢400 yr wythnos ar gostau gofal a gwarchod 拢100,000 mewn asedau i'r rhai mewn gofal preswyl
  • Treblu gofal plant am ddim i 30 awr
  • Rhagor o nyrsys ar wardiau ysbytai
  • Dosbarthiadau babanod llai o faint
  • Adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy dros bum mlynedd
  • 'Gweinyddiaeth busnesau bach' yn cynnig cyngor annibynnol a chyllid
  • Hyblygrwydd trethi busnes i gynghorau hybu datblygu economaidd
  • Torri cyfradd waelodol treth incwm 1 geiniog i 19% yng Nghymru
  • Gofal am ddim i blant i rieni sy'n gweithio
  • Ehangu trethi busnes i fusnesau bach
  • 100,000 o brentisiaethau 'o ansawdd' ar gyfer pobl o bob oed
  • Cronfa driniaethau newydd ar gyfer afiechydon difrifol
  • Dyblu'r swm cyfalaf i`r rhai sy'n mynd i ofal preswyl
  • 拢100m ychwanegol i wella safonnau ysgolion
  • Diagnosis canser o fewn 28 diwrnod
  • Lleihau amseroedd aros drwy fuddsoddi mewn 1,000 o feddygon a 5,000 o nyrsys ychwanegol
  • Darpariaeth addysg cyn-ysgol am ddim i blant tair blwydd oed
  • Premiwm Cenedlaethol i athrawon
  • Dileu gwerth 拢18,000 o ddyled i raddedigion sydd yn gweithio yng Nghymru a chreu 50,000 o brentisiaid
  • Creu Asiantaeth Ddatblygu newydd ar gyfer yr 21ain ganrif
  • Economi deg - Cymru sy'n gweithio i bawb
  • Cymunedau egn茂ol - cynaliadwy a gwydn
  • Addysg am ddim - i bawb o bob oed
  • Tai fforddiadwy - sydd wedi cael eu hinsiwleiddio rhag tywydd oer
  • Cysylltu Cymru - trafnidiaeth fforddiadwy ac integredig
  • Gwrthwynebu preifateiddio'r GIG ac ethol byrddau iechyd lleol
  • Creu Colegau Technegol Prifysgol ar gyfer sgiliau galwedigaethol ac ailgyflwyno ysgolion gramadeg
  • Gwrthwynebu pwerau codi trethu heb refferendwm
  • Dim rhagor o ACau
  • Datganoli datblygiad economaidd i gynghorau lleol
  • Diddymu tollau Pont Hafren