麻豆官网首页入口

Dilynwch daith etholiad y 麻豆官网首页入口 o amgylch Cymru

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones, Andrew RT Davies, Leanne Wood, Kirsty Williams a Nathan Gill

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru ar daith am y pythefnos nesaf wrth i ymgyrch etholiad y Cynulliad brysuro, gyda llai na thair wythnos tan y diwrnod tyngedfennol ar 5 Mai.

Bydd holl raglenni a gwasanaethau newyddion 麻豆官网首页入口 Cymru yn ymuno 芒'r daith o etholaethau allweddol.

Yn ogystal 芒 darlledu'n fyw o'r lleoliadau, bydd newyddiadurwyr y 麻豆官网首页入口 yn holi etholwyr.

Mae'r daith yn dechrau yn Hwlffordd ddydd Llun, cyn teithio i Fachynlleth, Wrecsam, Caerffili a Chaerdydd cyn gorffen yn y Mwmbwls ddydd Gwener nesaf.

Dyddiadau a lleoliadau ar gyfer y daith, fydd yn cychwyn am 07:00:

  • Dydd Llun, 18 Ebrill: Sgw芒r y Castell, Hwlffordd

  • Dydd Mercher, 20 Ebrill: Tu allan Y Plas, Machynlleth

  • Dydd Gwener, 22 Ebrill: Sgw芒r y Frenhines, Wrecsam

  • Dydd Llun, 25 Ebrill: Tu allan i'r Ganolfan Ymwelwyr, Caerffili

  • Dydd Mercher, 27 Ebrill: Yr Aes, Caerdydd

  • Dydd Gwener, 29 Ebrill: Gerddi Southend, Y Mwmbwls

Bydd cyfle i gynulleidfaoedd ymweld 芒'r safleoedd darlledu i gwrdd 芒 chyflwynwyr 麻豆官网首页入口 Cymru a dweud eu dweud ar bynciau llosg lleol a chenedlaethol.

Dadleuon

Yn ogystal 芒'r daith, mae nifer o ddadleuon gwahanol wedi'u trefnu cyn yr etholiad ar 5 Mai.

Ar 27 Ebrill bydd Huw Edwards yn cyflwyno The 麻豆官网首页入口 Wales Leaders' Debate yn fyw o Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd. Bydd y rhaglen yn fyw ar 麻豆官网首页入口 One Wales a sianel 麻豆官网首页入口 News am 20:30.

Mae arweinwyr Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Plaid Cymru, UKIP yng Nghymru a'r Blaid Werdd yng Nghymru wedi eu gwahodd i gymryd rhan.

Bydd Pawb a'i Farn ar S4C hefyd yn cynnal tair dadl etholiadol wedi eu cyflwyno gan Dewi Llwyd yn Aberystwyth (14 Ebrill), Llandudno (21 Ebrill) ac Abertawe (28 Ebrill).

Bydd darlledu cynhwysfawr o'r canlyniadau dros nos ar 5 a 6 Mai, gyda Bethan Rhys Roberts a Nick Servini yn cyflwyno'r rhaglen ganlyniadau ar 麻豆官网首页入口 One Wales, tra bydd Dewi Llwyd a Vaughan Roderick yn cyflwyno'r arlwy ar S4C.